Skip page header and navigation

Er nad oedd hi erioed wedi bwriadu adeiladu gyrfa mewn chwaraeon moduro, ar ôl i Charlotte White ddod ar draws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar hap pan oedd yn ei harddegau yn nigwyddiad y Renault World Series ar Gylchffordd Silverstone, cafodd ei llywio tuag at ddyfodol yn y diwydiant chwaraeon moduro byd-eang.

Charlotte White

Graddiodd yn 2015 mewn BSc (Anrh) Rheolaeth Chwaraeon Moduro, ac ers hynny mae hi wedi meithrin gyrfa ryngwladol mewn sector lle mae menywod yn parhau i gael eu tangynrychioli ar lefel uwch. Fel Cydlynydd ar gyfer y South Australian Motor Racing Championship (SAMRC) yn y Shell V-Power Motorsport Park, mae hi’n chwarae rôl allweddol ym myd rasio Awstralia - y bennod ddiweddaraf mewn gyrfa gyffrous a sbardunwyd gan un penderfyniad annisgwyl. 

Wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth, 2026) mae hi’n adfyfyrio ar yr eiliadau, y cyfleoedd a’r gwersi diffiniol sydd wedi llunio ei thaith.

Doeddwn i erioed wedi disgwyl i’m gyrfa fynd i lawr llwybr Chwaraeon Moduro - roedd e ymhell o fy meddwl mewn gwirionedd. Doedd fy mlwyddyn gyntaf o astudio ar gyfer Safon Uwch ddim wedi mynd y ffordd yr oeddwn i’n ei ddisgwyl, ac felly cefais fy hun yn ailystyried fy nghynlluniau ac yn edrych ar bosibiliadau newydd. Roeddwn yn nigwyddiad y Renault World Series yn Silverstone lle’r oedd PCYDDS (Metropolitan Abertawe ar y pryd) yn arddangos. Codais gopi o’r prosbectws, cyrhaeddais dudalen y cwrs Rheolaeth Chwaraeon Moduro, a phenderfynais bryd hynny mai dyna roeddwn i eisiau ei wneud.

Ar y pryd, dyma’r unig gwrs o’i fath nad oedd angen ffocws trwm ar beirianneg, a oedd yn ei wneud yn hygyrch tra’n dal i fod wedi’i wreiddio’n gadarn yn y diwydiant. Roedd hynny wir yn apelio ataf i. 

Un o agweddau mwyaf dylanwadol y cwrs oedd y cyfle i gymryd rhan gyda’r timau rasio a  a arweinir gan fyfyrwyr. Fe wnaethon nhw ddysgu gwersi i mi na ellir eu hailadrodd mewn ystafell ddosbarth - o waith tîm a chyfathrebu i ddeall realiti penwythnosau rasio. 

Roedd treulio amser yn y gweithdai’r un mor effeithiol. Roedd y gwaith ymarferol, y cyfle i ofyn cwestiynau diddiwedd, a gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr peirianneg, wedi rhoi i mi fewnwelediad dyfnach i’r ceir eu hunain ac wedi fy helpu i adeiladu dealltwriaeth go iawn o sut mae chwaraeon moduro yn gweithredu o ddydd i ddydd.

Er i mi gael fy nhynnu tuag at yr ochr reoli o’r cwrs ar y dechrau, datblygais hefyd werthfawrogiad o’r elfennau peirianneg. Wrth i fy ngyrfa ddatblygu, daeth y ddealltwriaeth dechnegol honno yn fwyfwy gwerthfawr wrth weithio’n agos gyda thimau peirianneg a thechnegol.

Yn ystod fy astudiaethau, gwirfoddolais gyda’r Motorsport Industry Association (MIA) - roedd hwn yn brofiad diffiniol arall. Roedd gallu mynychu digwyddiadau, gweithio’n uniongyrchol gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a chael profiad yn y byd go iawn tra’n dal i fod yn y brifysgol yn amhrisiadwy. Heb y profiad hwnnw - a’r cyfle a arweiniodd ato ar ôl graddio - gallai fy llwybr gyrfa fod wedi edrych yn wahanol iawn.

Ar ôl i mi raddio yn 2015, dechreuais adeiladu profiad ar draws sawl maes o’r diwydiant chwaraeon moduro, wrth weithio gyda sefydliadau gan gynnwys yr MIA, Rockingham Motor Speedway a’r British Racing and Sports Car Club (BRSCC). Ar hyd y ffordd, treuliais amser hefyd yn y gadwyn gyflenwi peirianneg ehangach trwy’r sector cyfansoddion, gan gynnwys gwaith gyda Composites UK. Roedd pob rôl yn cynnig persbectif gwahanol ar y gamp - o ddigwyddiadau a gweithrediadau padog i ymgysylltu â’r diwydiant – gan fy helpu i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o’r bobl, y logisteg a’r partneriaethau sy’n cadw chwaraeon moduro i fynd.

Charlotte White

Erbyn 2025, roedd fy nhaith mewn chwaraeon moduro yn y DU wedi agor y drws i gyfle anhygoel - y cyfle i adleoli i Awstralia ac ymuno â’r Shell V‑Power Motorsport Park (The Bend) lle ydw i heddiw. Mae’n gyfleuster anhygoel sy’n cynnal digwyddiadau o’r radd flaenaf. Fel Cydlynydd ar gyfer y South Australian Motor Racing Championship (SAMRC) yn ogystal â Gweithrediadau Chwaraeon Moduro (dirprwy), mae fy rôl yn cynnwys goruchwylio’r gwaith o gynnal digwyddiadau rasio a gweithio’n agos gyda’r tîm Dragway i gefnogi eu digwyddiadau. Mae’n gyfle cyffrous i barhau i dyfu o fewn y diwydiant wrth chwarae rhan yn nyfodol chwaraeon moduro yn Awstralia.

Mae symud ymlaen fel menyw i rôl uwch o fewn chwaraeon moduro wedi bod yn heriol ac yn ffurfiannol. Gall y diwydiant yn amgylchedd sy’n anodd ei lywio o hyd, yn enwedig gan fod rhagdybiaethau am fenywod sydd wedi dyddio yn dal i fodoli - p’un a yw hynny’n golygu cael eich tanbrisio, cael eich proffesiynoldeb wedi ei ddarostwng i sut rydych chi’n edrych, neu gael eich gwthio’n ddiarwybod i rolau cymorth yn hytrach na rhai arweinyddiaeth.

Yr hyn y mae fy mhrofiad wedi’i ddysgu i mi yw bod hyder yn eich gallu eich hun yn hanfodol. Weithiau mae’r hyder hwnnw’n dod yn naturiol tra weithiau mae’n rhaid i chi fynd ati’n fwriadol i’w adeiladu a bod yn barod i ddal eich tir. Yn y pen draw, mae pobl yn parchu cymhwysedd a chanlyniadau.

Un o’r gwersi pwysicaf rydw i wedi’i dysgu yw peidio â mewnoli’r feirniadaeth a roddir yn aml i fenywod  - eich bod chi’n “ormod”, yn rhy emosiynol, yn rhy bendant, neu’n rhy ymosodol. Nid oes angen i chi wneud eich hun yn llai i gyd-fynd â lefel cysur rhywun arall. Rydych chi’n cael bod yn uchelgeisiol, yn uniongyrchol, yn emosiynol neu’n angerddol ac nid yw’r rhinweddau hynny yn lleihau eich proffesiynoldeb.

Rwy’n credu mai mater o chwilfrydedd, ymrwymiad a menter yw llwyddiant yn y pendraw. Rhoddodd y radd y platfform i mi, a’r profiadau o’i gwmpas - y gwirfoddoli, y timau rasio, y cyfleoedd - a luniodd yr yrfa sydd gen i nawr.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon