Skip page header and navigation

Mae Svitlana Ulianych, a  raddiodd mewn BA Dylunio GraffigGoleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi trawsnewid diddordeb gydol oes mewn creadigrwydd yn yrfa ddylunio lwyddiannus ar ôl ailadeiladu ei bywyd yng Nghymru yn dilyn y rhyfel yn Wcráin. Mae Svitlana, a ddaeth i Gymru yn 2022, wedi graddio gyda phrofiad yn y diwydiant, gwaith prosiect arobryn a gyrfa sy’n ehangu mewn UX a dylunio gwefannau, gan dynnu sylw at yr effaith a gaiff addysg uwch wrth newid bywydau ac at y gymuned gefnogol yn y Drindod Dewi Sant.

A woman standing in front of building in gap and gown on graduation day

O Wcráin i’r Drindod Dewi Sant

Pan symudodd Svitlana Ulianych o Wcráin i Gymru yn 2022, roedd hi’n wynebu’r her o ddechrau o’r dechrau. A hithau’n gweithio fel meddyg yn flaenorol, symudodd Svitlana, yn 29 oed, i Abertawe, ar ôl i’r rhyfel ei gorfodi i adael ei chartref ac ailadeiladu ei bywyd mewn gwlad newydd.

Tra’n astudio Saesneg yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, dechreuodd ddysgu ei hun sut i ddylunio gwefannau a darganfu angerdd cynyddol am greadigrwydd. Er ei bod yn bwriadu gwneud cais ar gyfer cwrs coleg mewn dylunio i ddechrau, cafodd ei hannog gan diwtor i wneud cais yn uniongyrchol ar gyfer gradd BA Dylunio Graffig y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd Svitlana: “Ar y dechrau, doeddwn i ddim yn meddwl bod fy Saesneg yn ddigon da. Ond ar ôl cwrdd â’r tîm ac ymweld â’r stiwdios yng Ngholeg Celf Abertawe, roeddwn i’n gwybod mai dyma’n union ble roeddwn i eisiau astudio.”

Dewisodd y cwrs Dylunio Graffig oherwydd ei ffocws ar ymchwil, adrodd straeon a datrys problemau, ochr yn ochr ag arfer creadigol.

“Fy nod oedd newid fy ngyrfa yn llwyr ac adeiladu bywyd newydd yn y DU. Roeddwn i hefyd eisiau profi i mi fy hun bod dechrau o’r dechrau yn bosibl.”

Dod o hyd i gefnogaeth a hyder

I Svitlana, daeth y bobl y cyfarfu â nhw yn y Drindod Dewi Sant yn un o’r rhannau pwysicaf o’i phrofiad prifysgol. Mae hi’n rhoi clod i’r tîm Dylunio Graffig a’i chyd-fyfyrwyr am greu amgylchedd cefnogol a’i helpodd i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol.

Dywedodd: “Daeth y Brifysgol yn lle diogel lle roeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy annog yn hytrach na chael fy marnu. Yn araf cynyddodd fy hyder, fel dylunydd ac fel person.”

Er gwaethaf yr heriau o astudio mewn ail iaith wrth addasu i fywyd mewn gwlad newydd, daeth o hyd i ymdeimlad cryf o berthyn o fewn cymuned y brifysgol ac erbyn diwedd y cwrs, roedd y Brifysgol yn teimlo fel ail gartref iddi. 

Ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, manteisiodd Svitlana ar bob cyfle i ennill profiad ymarferol ac adeiladu cysylltiadau proffesiynol. Cwblhaodd interniaethau gyda Boxharry, gweithiodd ar brosiectau brandio ar gyfer Elsie & Marj ac mae’n parhau i gydweithio â’r asiantaeth greadigol The Cusp ar ôl cysylltu â nhw am y tro cyntaf trwy gyfleoedd prifysgol.

Daeth uchafbwynt arbennig yn ystod yr Wythnos Dylunio, lle enillodd ei thîm gystadleuaeth a osodwyd gan Sky, gan arwain at ymweliad â swyddfeydd y darlledwr a’r cyfle i gwrdd â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Roedd hi hefyd yn gwerthfawrogi cyfleoedd i ymgysylltu â chwmnïau gan gynnwys Sky, Pepsi a GF Smith, gan ei helpu i fagu hyder cyn mynd i’r diwydiant creadigol.

Dyfodol disglair mewn dylunio

Heddiw, mae Svitlana yn gweithio fel Dylunydd Digidol sy’n arbenigo mewn UX a dylunio gwefannau, newid gyrfa yr oedd unwaith yn meddwl efallai na fyddai’n bosibl. Mae hi’n bwriadu parhau i ddatblygu ei harbenigedd mewn profiadau digidol a brandio wrth ymgymryd â phrosiectau mwy yn y dyfodol.

Wrth edrych yn ôl ar ei hamser yn y Drindod Dewi Sant, dywed Svitlana fod y profiad wedi ei helpu i ailadeiladu ei hyder a dod o hyd i ymdeimlad o berthyn yng Nghymru.

Dywedodd: “Mae’n teimlo fel bod y brifysgol wedi fy nghofleidio pan roeddwn angen hynny fwyaf ac yna wedi fy mharatoi i gamu’n hyderus i’r byd proffesiynol.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon