Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ymgorffori’r cysyniad o niwed i weithwyr y gellir ei osgoi yn ei rhaglenni AD a rheoli busnes fel rhan o ymdrech ehangach i baratoi gweithwyr proffesiynol a rheolwyr AD y dyfodol i greu gweithleoedd iachach, gan gynrychioli un o’r enghreifftiau cyntaf o’r dull yn cael ei ymgorffori mewn addysg uwch.

A group of people stood in front of large digital screen posing for a group photo

Mae hyn yn dod yng nghanol cydnabyddiaeth gynyddol o’r mater a’r lefel genedlaethol.  Mewn papur trafod yn ddiweddar, disgrifiodd y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus weithdrefnau disgyblu a weinyddir yn wael fel pryder iechyd y cyhoedd a galwodd am gamau brys i leihau niwed a achosir i weithwyr yn ystod ymchwiliadau yn y gweithle. Tynnodd y papur sylw at faint yr her, gan ddyfynnu ymchwil Acas sy’n amcangyfrif bod tua 1.7 miliwn o achosion disgyblu ffurfiol yn cael eu cychwyn bob blwyddyn yng ngweithleoedd y DU, tra bod gwrthdaro yn y gweithle yn costio tua £28.5 biliwn y flwyddyn i gyflogwyr.

Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae PCYDDS wedi gweithio’n agos gydag Andrew Cooper, prif olygydd ‘Under Investigation: Transforming Disciplinary Practice in the Workplace’ a Phennaeth Rhaglenni ar gyfer Llesiant Gweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i gyflwyno myfyrwyr i’r cysyniad ar draws ystod o raglenni proffesiynol a lefel gradd.

Mae darlithoedd gwadd gydag Andrew a Rhiannon Windsor, Dirprwy Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol yn GIG Cymru, wedi’u cyflwyno i fyfyrwyr sy’n astudio’r rhaglenni Ôl-raddedig a’r cwrs CIPD - Rheoli Pobl yn Strategol (MA), yn ogystal â’r rhai ar gyrsiau Rheolaeth Busnes (BA). Yn ogystal, mae myfyrwyr ôl-raddedig wedi cael y cyfle i ddyfnhau eu dealltwriaeth trwy gwblhau adolygiad ffurfiol o ‘Under Investigation’, sy’n cyfrannu deg y cant tuag at un o’n hasesiadau modwl.  

Dull sy’n canolbwyntio ar y dyfodol  

Mae’r fenter yn ffurfio rhan o raglen waith ehangach sy’n anelu at sicrhau bod cyrsiau PCYDDS yn parhau’n berthnasol i heriau modern yn y gweithle ac sy’n cyd-fynd â disgwyliadau cyflogwyr.   

Mae’r Brifysgol wedi ymgorffori llesiant cyflogwyr trwy nifer o’i rhaglenni rheoli busnes ochr yn ochr ag addysgu’r cysyniad o niwed i weithwyr y gellir ei osgoi. Mae modwl pwrpasol Llesiant yn y Gwaith wedi’i gyflwyno i’r cwrs CIPD - Rheoli Pobl (Diploma Cyswllt Lefel 5 a gyflwynir ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol.

Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, mae PCYDDS wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o’r mater ymhlith ymarferwyr AD a chyflogwyr trwy gynnal sesiwn arbenigol ar niwed i weithwyr y gellir ei osgoi ar gyfer y gangen CIPD leol.  Denodd y digwyddiad weithwyr proffesiynol o sefydliadau cyhoeddus a’r sector preifat, ochr yn ochr ag ymgynghorwyr annibynnol a chanolbwyntiodd ar fesurau ymarferol y gall sefydliadau eu cymryd i leihau niwed yn ystod ymchwiliadau yn y gweithle a gweithdrefnau disgyblu.  

Ymateb cryf gan fyfyrwyr  

Yn ôl staff academaidd, mae’r pwnc wedi creu ymgysylltiad sylweddol ymhlith myfyrwyr, llawer ohonynt naill ai wedi bod yn dyst i brosesau negyddol neu wedi cael profiad uniongyrchol iddynt yn y gweithle.  Mae adborth yn awgrymu bod y sesiynau wedi annog myfyrwyr i herio rhagdybiaethau hirdymor ynghylch prosesau disgyblu ac ystyried dulliau eraill sy’n cydbwyso gofynion sefydliadol gyda llesiant gweithwyr yn well.  

Mae llawer wedi mynd â’r sgwrs yn ôl i’w gweithleoedd, gan ymgysylltu â chyflogwyr mewn trafodaethau ynghylch sut y gellir cynnal ymchwiliadau a  gweithdrefnau disgyblu mewn ffyrdd sy’n lleihau niwed diangen.  

Pwysleisiodd Sarah Barnes, myfyrwraig ac Uwch Reolwr y Gweithlu ar gyfer Systemau a Chudd-wybodaeth y Gweithlu ym Mwrdd iechyd Prifysgol Hywel Dda, bwysigrwydd cynnal dull sy’n canolbwyntio ar bobl mewn ymarfer AD.  

“Ni ddylai bob amser fod yn ymwneud â’r broses yn unig.  Rydyn ni’n broffesiwn pobl, felly pam fyddai’n iawn i ni anghofio am y bobl oherwydd bod y broses yn cymryd drosodd?” 

Sylwodd Carly Butler, myfyrwraig PCYDDS, fod ‘pobl yn rhyngweithio bob dydd â’i gilydd ac yn anfwriadol o fewn systemau a pholisïau nad ydynt bob amser wedi’u cynllunio gyda nhw mewn golwg.”  

Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf 

Dywedodd Julie Thomas, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen yn PCYDDS, fod yr ymateb gan fyfyrwyr wedi dangos pwysigrwydd cynyddol y mater o fewn y proffesiwn.  

“Mae ymatebion myfyrwyr i’n trafodaethau ar niwed i weithwyr y gellir ei osgoi yn dweud y cyfan.  Maent yn teimlo’n gryf ei bod hi’n hen bryd i lesiant cael ei flaenoriaethu a bod prosesau’n cael eu hail-ddylunio i leihau niwed i weithwyr.  

Mae’r ffocws ar wella ymchwiliadau gweithwyr wedi ysbrydoli cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol, rheolwyr ac arweinwyr AD i wneud pethau’n wahanol a bydd y Brifysgol yn parhau i weithio gyda nhw i hyrwyddo’r achos hwn.”  

Wrth i ymwybyddiaeth o newid i weithwyr y gellir ei osgoi parhau i dyfu ar draws y proffesiwn AD, mae gwaith PCYDDS yn helpu i arfogi arweinwyr y dyfodol â’r wybodaeth a’r hyder i herio dulliau traddodiadol a chreu gweithleoedd iachach, mwy tosturiol.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon