Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, bu myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau yng nghanol bwrlwm y Symposiwm i Raddedigion sefdathliad blynyddol o greadigrwydd, cyfleoedd, a dyfodol wedi’i arwain gan ddylunwyr. 

Wedi’i drefnu gan y tîm darlithio ymroddedig, mae’r Symposiwm yn dwyn ynghyd gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig, arloeswyr y diwydiant, gweithdai ymarferol, a mewnwelediadau byd go iawn, gan gynnig cipolwg i fyfyrwyr ar y llwybrau cyflogaeth ac entrepreneuraidd anhygoel sy’n eu disgwyl.

Merch yn gwenu
Myfyrwraig drydedd flwyddyn mewn Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Samantha McGrath

Roedd Samantha McGrath, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, ymhlith y myfyrwyr a fynychodd y Symposiwm a dywed iddi gael cryn fwynhad o’r sgyrsiau amrywiol a’r briffiau byw a gynigiwyd, gan hefyd gyflwyno ei phrofiadau ei hun o’i chyfnod ar interniaeth i’w chyfoedion. 

Yma, mae Sam yn myfyrio ar y cyfleoedd a sbardunodd ei dychymyg, y cyngor a’i greodd argraff fwyaf arni, a sut mae’r Symposiwm wedi siapio ei chamau nesaf wrth iddi baratoi i fynd i mewn i’r diwydiant.

Mynychais y Symposiwm i Raddedigion eleni gan obeithio cael amcan o’r cyfleoedd y gallwn eu dilyn yn ystod gweddill fy amser yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â chlywed am yr hyn y mae rhai o raddedigion y rhaglen wedi gallu ei gyflawni. Roeddwn hefyd yn gyffrous i gyflwyno fy mhrofiad fy hun o weithio fel intern i’r London Embroidery Studio a’r Biophilic Living Project yn Abertawe. 

Cafwyd y cyflwyniad cyntaf gan Amanda Roberts o’r Gymdeithas Dirwedd Genedlaethol ac roedd ganddi gyfle interniaeth i’w rannu: cyfnod preswyl â thâl ynghyd â phedwar diwrnod yn arsylwi yn y Gŵyr, ac yna dri diwrnod i greu darn gweledol a fydd yn cael ei arddangos i’r gymuned. Roedd y briff hwn yn arbennig o gyffrous i mi gan fod gen i gefndir mewn astudiaethau amgylcheddol, ac fe wnes i astudio’r pwnc am flwyddyn mewn prifysgol arall. Oherwydd hynny, cefais fy nenu’n naturiol at y cysylltiad rhwng celf ac amgylcheddaeth. Roedd y briff yn cynnig rhyddid creadigol prin heb fawr o gyfyngiadau ynghyd â lle i arbrofi.

Yna, daeth fy nhro i gyflwyno. Yr haf diwethaf, treuliais 7 wythnos fel intern i’r London Embroidery Studio, ac ar hyn o bryd rwy’n intern i’r Biophilic Living Project. Esboniais beth wnes i ar bob interniaeth a beth oedd y prif wersi a ddysgais. Roedd rôl y stiwdio frodwaith yn ymarferol iawn lle bues i’n gweithio ar gynnyrch terfynol ar gyfer cleientiaid, tra bod y Prosiect Byw Biophilic yn canolbwyntio ar ymchwil ac yn caniatáu llawer mwy o ryddid o ran cyfeiriad a chyflwyniad. Fe wnes i hefyd rannu rhai o’r agweddau logistaidd megis sut oeddwn i’n gallu sicrhau’r interniaethau a ble oeddwn i’n gallu dod o hyd i lety. Fe wnes i fwynhau cyflwyno i fy nghyd-fyfyrwyr am fy mhrofiadau, ac roeddwn i’n hapus i rannu’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu a’r hyn y byddwn yn ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.

A girl smiling in front of audience, looking at a large display screen reading 'Samanth McGrath'

Roedd y sesiwn Anti Copying in Design (ACID) yn hollol newydd i mi ac yn rhoi arweiniad  clir ar sut i ddiogelu eich gwaith fel dylunydd. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli faint o opsiynau sydd ar gyfer diogelu eich eiddo deallusol, yn enwedig mewn cyfnod pan mae AI a rhannu digidol yn ei gwneud hi’n hawdd i waith gael ei gopïo neu ei ddefnyddio heb ganiatâd. Fel myfyrwyr, rydym yn arbennig o ddiamddiffyn, felly roedd dysgu sut i olrhain a diogelu ein dyluniadau yn teimlo’n hynod o bwysig.

Roedd mor braf gweld Naomi Seaward, un o raddedigion 2021, yn cyflwyno, gan fy mod wedi cael fy nysgu ganddi am gyfnod yn fy mlwyddyn gyntaf ac roeddwn mor hapus i weld ei holl gyflawniadau ers hynny. Roedd clywed am ei thaith yn ysbrydoledig - sut aeth hi o arddangos mewn digwyddiadau dylunio amrywiol, i addysgu am gyfnod cyn dechrau rôl yn UW Home fel dylunydd a lliwydd. Mae clywed am y cyfrifoldebau a roddwyd iddi yn gyflym ar ôl ymuno â’r brand yn fy annog gan fy mod yn gwerthfawrogi sut roedd y brand yn ymddiried ynddi mor gyflym ac yn gallu adnabod ei sgiliau ar unwaith. Fel rhywun ar fin mynd i mewn i’r diwydiant, roeddwn i’n nerfus y byddai cyflogwyr newydd yn tanamcangyfrif fy ngalluoedd, ond roedd stori Naomi yn ein sicrhau na fyddai brandiau yn ein cyflogi os nad oeddent yn credu ein bod yn gallu cyflawni’r gwaith. 

Roeddwn yn y flwyddyn o dan  Emily Elias, cyn-fyfyrwraig o 2025, felly roedd gwrando ar ei chyflwyniad yn ysbrydoledig, yn enwedig wrth weld pa mor gyflym y mae hi wedi llwyddo. Siaradodd Emily am sut ymunodd â Grŵp Dylunio IG ym mis Hydref 2025, ychydig fisoedd yn unig ar ôl iddi raddio. Tra’n gweithio iddyn nhw roedd hi’n gallu arddangos yn Heimtextil, ffair ddylunio tecstilau flaenllaw yn Frankfurt, yr Almaen. Dwi’n edmygu uchelgais Emily - sut mae hi wedi gallu gweithio i gwmni tra’n cyflwyno ei gwaith ei hun ar yr un pryd, gan ddarparu cymaint o brofiad a chyfleoedd iddi ei hun mor gynnar yn ei gyrfa. Fe wnaeth ei chyflwyniad yn fy atgoffa bod paratoi yn allweddol, ac nad ydych byth yn gwybod o ble y gall eich cyfle nesaf ddod. 

Dyma fy nhrydedd flwyddyn imi wrando ar gyflwyniad Rebecca Davies, un o raddedigion 2021, ond rwy’n teimlo fy mod bob amser yn dysgu rhywbeth newydd ganddi. Mae ei thaith yn enghraifft wych o pam ei bod mor bwysig ceisio am yr holl gyfleoedd y mae’r brifysgol yn eu cynnig i ni. Pan aeth Rolls-Royce at y cwrs Patrymau Arwyneb a Thecstilau am y tro cyntaf gyda briff yn 2021, cyflwynodd Rebecca ymateb oedd wedi’i ystyried yn drwyadl a’i fireinio ac yn un a enillodd interniaeth iddi o 13 mis. Yna, enillodd ei sgiliau a’i syniadau swydd barhaol iddi fel dylunydd pwrpasol i’r brand lle mae’n parhau i weithio heddiw. Mae’n tynnu sylw at sut y gall y cwrs agor drysau uniongyrchol i gyfleoedd yn y diwydiant, gyda Rolls-Royce yn cymryd o leiaf un o’n myfyrwyr fel intern bob blwyddyn ers hynny. Eleni, mae dwy swydd interniaeth ar gael, ac er nad wyf yn gallu gwneud cais fel myfyriwr rhyngwladol - o Kennebunk, Maine - oherwydd cyfyngiadau Visa, rwy’n ecstatig bod fy nghyd-fyfyrwyr yn cael eu hystyried gan frand mor sefydledig a mawreddog. Rwy’n gweld ymatebion i’r briff hwn yn arbennig o drawiadol o ystyried yr amserlen dynn a’r disgwyliadau o safon uchel ar gyfer y cyflwyniadau, gan roi cipolwg gwirioneddol ar y modd y mae’r diwydiant yn gweithredu.

Ar ôl clywed yr holl gyflwyniadau, roeddwn i’n teimlo nid yn unig yn gyffrous ond yn obeithiol am y dyfodol, ac yn fwy hyderus nawr bod gen i ddealltwriaeth ddyfnach o’r hyn y dylwn ganolbwyntio arno yn y dyfodol. Dysgodd i mi hefyd nad yw’r llwybr ar ôl graddio bob amser yn llinol, ond i ddyfalbarhau ac ymbaratoi. Mae’r briffiau byw a’r interniaethau rydw i wedi gallu cymryd rhan ynddyn nhw trwy’r cwrs wedi darparu sylfaen gadarn o sgiliau sy’n uniongyrchol drosglwyddadwy i waith yn y diwydiant go iawn, ac wedi siapio a mireinio fy sgiliau i’r pwynt lle mod i’n hyderus yn fy ngalluoedd i fynd i mewn i’r diwydiant ar ôl graddio. Rwyf mor gyffrous i gymhwyso’r gwersi rydw i wedi’u dysgu o’r Symposiwm i’r interniaeth a’r ceisiadau am swyddi y byddaf yn eu cyflwyno yn y dyfodol ac rwy’n siŵr y bydd y gwersi hyn yn parhau i fod yn berthnasol ymhell i mewn i’m gyrfa. 

A group of people looking at a camera with some holding up artwork

Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon