Justin Evans
Cefndir
Mae Justin yn Ddarlithydd mewn Plismona a Chyfiawnder Troseddol yn PCYDDS ac mae’n Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglenni Plismona israddedig ac ôl-raddedig.
Mae’n gyn-Uwcharolygydd Heddlu gyda thros 30 mlynedd o wasanaeth i’r heddlu.
Fe wnaeth ei yrfa gwmpasu plismona rheng flaen a gweithredol, ymchwilio troseddol, diogelu ac amddiffyn y cyhoedd, troseddau difrifol a chyfundrefnol, arfau tanio, dysgu a datblygu, arweinyddiaeth strategol, diogelwch amddiffynnol gwrthderfysgaeth, ac arweinyddiaeth sefydliadol.
Yn ddiweddarach yn ei yrfa, cafodd rolau uwch arweinyddiaeth oedd yn cwmpasu datblygiad sefydliadol, addysg broffesiynol, diogelwch amddiffynnol a gweithrediadau amlasiantaeth ar lefel heddluoedd unigol, Cymru gyfan a chenedlaethol.
Graddiodd o PCYDDS yn 2023 gydag MSc mewn Arweinyddiaeth Strategol a Gweithredol yr Heddlu.
Pynciau Arbenigol
- Ymchwilio troseddol a throseddau mawr
- Troseddau difrifol a chyfundrefnol
- Diogelu ac amddiffyn y cyhoedd
- Gwrthderfysgaeth a diogelwch amddiffynnol
- Arweinyddiaeth a rheolaeth yr heddlu
- Gwaith amlasiantaeth a rhyngweithredu
- Llywodraethu a gwneud penderfyniadau yn yr heddlu
- Addysg a datblygiad proffesiynol yr heddlu
- Plismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
O fod yn Dditectif Gwnstabl i fod yn Dditectif Brif Arolygydd, arweiniodd ymchwiliadau mawr a chymhleth gan gynnwys lladdiadau, trais difrifol, troseddau rhywiol a throseddau cyfundrefnol.
Fel Cydlynydd Diogelwch Gwrthderfysgaeth achrededig, fe ymgymerodd â rolau diogelwch amddiffynnol mewn nifer o ddigwyddiadau a gweithrediadau mawr, ac fe wasanaethodd fel asesydd cenedlaethol, gan gefnogi’r gwaith o asesu a datblygu ymarferwyr yn y DU a thramor.
Ymestynnodd ei waith hyd at lefel genedlaethol wrth iddo ymwneud â’r Bwrdd Diogelwch Gwrthderfysgaeth Cenedlaethol a’r Coleg Plismona.
Yn gyn-Gomander Arfau Tanio Tactegol a chyn-Gomander digwyddiadau mawr, mae gan Justin brofiad helaeth ym meysydd rheoli amlasiantaethol, rheoli’r gallu i ryngweithredu a rheoli risg.
Mae ei brofiadau o uwch arweinyddiaeth hefyd yn cynnwys arwain ar ddysgu a datblygu’r heddlu, ar ddatblygiad sefydliadol ac ar hyfforddiant ymchwiliol, ynghyd ag arwain ar raglenni cydweithredol ym mhob un o heddluoedd Cymru.
Cymwysterau
- MSc Plismona (Arweinyddiaeth Strategol a Gweithredol yr Heddlu), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
- Wedi Cwblhau Rhaglen Addysg i Hyfforddwyr (TEP) y Coleg Plismona.
- Rheolwr Rhaglen Achrededig ar gyfer Proffesiynoli Ymchwiliadau.
- Wedi Cwblhau Rhaglen Uwch Swyddog Ymchwilio y Coleg Plismona.
- Cydlynydd Diogelwch Gwrthderfysgaeth (CT SecCo).
- Asesydd CT SecCo. Comander Arian JESIP ar gyfer Digwyddiadau Mawr.
- Comander Arfau Tanio Tactegol.