Skip page header and navigation

Y Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
88 - 104 Pwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen BA Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol yn cynnig cyfle unigryw i astudio’n ymarferol a datblygu eich sgiliau creadigol drwy ddefnyddio cyfryngau digidol, cyfathrebu a chelfyddydau perfformio trwy gyfrwng y Gymraeg.  Dyma radd unigryw yng ngorllewin Cymru fydd yn rhoi profiadau perthnasol i’r diwydiant gyda mewnbwn ymarferwyr y sector.

Fe fyddwch yn dilyn modylau sydd wedi hyfforddi rhwydwaith enfawr o gyn-fyfyrwyr yn llwyddiannus, yn actorion a chynhyrchwyr. Mae’r modylau hyn bellach wedi cael eu diweddaru i gynnwys asesiadau arloesol newydd fel creu podlediadau a sgiliau actio cymhwysol mewn ymateb i heriau a chyfleoedd y mae ymarferwyr y diwydiant yn eu hwynebu yn yr oes sydd ohoni.

Mae’r cwrs yn cyfuno sgiliau cynhyrchu cyfoes, creu cynnwys a gwybodaeth am actio a thechnegau perfformio, gydag astudiaethau cyfathrebu fydd yn ymestyn eich cyfleoedd i brofi a datblygu sgiliau rhyngddisgyblaethol. 

Trwy heriau creadigol, bydd y radd yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa amrywiol yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Fe fyddwch yn dysgu sut i ddefnyddio ystod eang o sgiliau, o ysgrifennu a chyhoeddi ar gyfer y we i berfformio byrfyfyr, o ddylunio a chynhyrchu cynnwys digidol i gynyrchiadau theatr prif lwyfan, ac o adrodd straeon digidol i recordio llais a chynhyrchu sain.

Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu’n benodol gyda mewnbwn gan raddedigion, gweithwyr proffesiynol a chymheiriaid ar draws y diwydiannau creadigol o’r cychwyn cyntaf. Golyga hyn y bydd ein myfyrwyr yn ennill sgiliau a gwybodaeth sy’n ffocysu ar y diwydiant ac yn cysylltu ag ymarferwyr trwy gydol y radd, gan eu helpu i ddod yn barod i weithio erbyn iddynt raddio. 

Gyda phrofiadau ar leoliadau proffesiynol wedi’u hymgorffori i’ch gradd fe fyddwch yn barod i fwrw ati’n syth ym maes y cyfryngau, theatr a chyfathrebu proffesiynol.

Wrth ddatblygu ein harlwy cyfrwng Cymraeg ym maes Cyfryngau, Perfformio a Chyfathrebu Digidol ar gampws Caerfyrddin,  rydym yn gweithio gyda nifer o dentantiaid sy’n gysylltiedig â’r diwydiant sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan S4C Yr Egin, megis Telesgop, Carlam, Captain Jac, Theatr Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn ogystal, gallwn fanteisio ar y cyfoeth o gwmnïau cyfryngau sydd ledled gorllewin Cymru. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
Eng: MPD1 Cym: CPC1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion Mynediad:
88 - 104 Pwyntiau UCAS

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Profiadau creadigol ym mhob modwl sydd yn meithrin y sgiliau angenrheidiol ar gyfer gyrfa/gwaith proffesiynol yn y diwydiannau creadigol.
02
Cydweithio â’r diwydiannau creadigol proffesiynol yn gyson er mwyn manteisio ar arbenigedd ac ar brofiadau cyfredol go iawn yng Nghanolfan S4C: Yr Egin.
03
Lleoliadau – rydym yn cynnig profiadau ar leoliad er mwyn meithrin y sgiliau angenrheidiol a chynyddu cyflogadwyedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn adeiladu ystod o sgiliau cynhyrchu creadigol, perfformio byw, a chyfathrebu ar ffurfiau traddodiadol a digidol yn ogystal â datblygu eich cryfderau presennol.

Bydd pob modwl yn eich sbarduno i greu gwaith sydd yn dangos eich syniadau a’ch doniau creadigol, boed ar ffurf sgriptio, perfformio, cynhyrchu, creu cynnwys, recordio a golygu sain a llun, neu gasglu portffolio o waith aml-ddisgyblaeth.

Rydym yn dal i gwblhau’r modiwlau ar gyfer y cwrs newydd hwn, felly edrychwch eto yn fuan am ragor o fanylion.

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities

Cardiff & Carmarthen book cover

Ein Llyfrau

Perfformio, Dylunio a’r Cyfryngau: Hyfforddiant ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, o fewn prifysgol gyfoes.

Gwybodaeth allweddol

  • 88-110 o Bwyntiau Tariff UCAS

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariffer mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwchgysylltu â’n tîm ymholiadaui gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Astudiwch drwy gyfrwng y Gymraeg

    Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac mae modiwlau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Os byddwch yn dewis astudio’ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Mae argaeledd modiwlau cyfrwng Cymraeg yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gall amrywio bob blwyddyn yn dibynnu ar staffio, diddordebau ymchwil, amserlenni, galw myfyrwyr, ac isafswm niferoedd cofrestru, felly ni ellir gwarantu modiwlau penodol bob amser, cysylltwch â ni i drafod mwy.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

  • Perfformiadau byw, cynnyrch cyfryngol fideo a sain, prosiectau gwreiddiol, portffolio proffesiynol, adfyfyrio academaidd a chreadigol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

    • Pob agwedd ar y Cyfryngau, cwmnïau Cyfryngau Digidol a Marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, crëwyr cynnwys ac ysgrifenwyr copi, cynhyrchwyr, trefnwyr digwyddiadau, rheolwyr cynnwys gwe.
    • Gyrfaoedd yn y diwydiannau darlledu a chynhyrchu annibynnol a phrif ffrwd, ar lwyfannu perfformio, ym meysydd hyrwyddo a rheoli yn y celfyddydau.
    • Actio gyda chwmnïau sefydledig, creu a chynhyrchu gwaith newydd trwy brosesau ymchwil a datblygu.
    • Astudiaethau pellach megis rhaglenni ôl-raddedig, hyfforddiant dysgu, a gwaith ieuenctid. 

Mwy o gyrsiau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio

Chwiliwch am gyrsiau