Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Rheolaeth Peirianneg (BSc Anrh)

Abertawe
4 blynedd, rhan amser

Mae’r cwrs BSc (Anrh) Prentisiaeth mewn Rheolaeth Peirianneg hwn wedi’i gynllunio i ehangu eich dealltwriaeth o ddisgyblaethau craidd sy’n gysylltiedig â pheirianneg a meithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eich gyrfa. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a busnes sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ddiwydiant a chyrff proffesiynol. Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am gydbwyso gwaith ac astudio, gan gynnig dysgu seiliedig ar waith a’r hyblygrwydd i symud ymlaen ar eich cyflymder eich hun.

Mae’r cwrs yn cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg, gan gynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg gweithgynhyrchu a pheirianneg systemau. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau rheoli pwysig mewn peirianneg, a fydd yn eich helpu i ddeall sut i reoli timau, prosiectau ac adnoddau yn effeithiol. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer datblygu gyrfa yn y sector peirianneg fodern.

Rhan allweddol o’r cwrs hwn yw ei fod yn canolbwyntio ar roi dysgu ar waith yn y byd go iawn. Byddwch yn ymwneud â rheoli prosiectau ac yn gweithio ar broblemau peirianneg go iawn, a fydd yn rhoi profiad ymarferol i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich gyrfa. Mae’r ffocws hwn ar integreiddio peirianneg a busnes yn sicrhau y byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer bodloni gofynion y diwydiant.

Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant, a byddwch yn elwa o’n partneriaethau â chwmnïau blaenllaw’r byd fel Tata Steel, Dow Chemicals, Aston Martin, Ford, Zimmer Biomet, Rolls Royce a Valero. Mae’r partneriaethau diwydiant hyn yn golygu y byddwch yn dysgu o arferion diweddaraf y diwydiant ac yn cael cyfle i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn rhai o gwmnïau peirianneg gorau’r byd.

Mae’r cwrs hefyd yn cynnig hyblygrwydd, gan ganiatáu i chi astudio wrth weithio. P’un ai eich bod ar y safle neu’n manteisio ar ein dewisiadau dysgu o bell, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol. Gallwch ddefnyddio eich swydd bresennol fel llwyfan dysgu, gan ddefnyddio’r sgiliau a gewch yn uniongyrchol i’ch gwaith.

I’r rhai sy’n bwriadu mynd â’u gyrfa hyd yn oed ymhellach, gall y cwrs hwn hefyd fod yn llwybr i ddod yn Beiriannydd Siartredig. Gan ganolbwyntio ar wybodaeth dechnegol a busnes, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer cymwysterau a rolau lefel uwch.

I grynhoi, mae’r cwrs hwn yn cynnig cydbwysedd perffaith o ddysgu technegol ac egwyddorion ac arferion busnes, ynghyd â phrofiad ymarferol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd mewn peirianneg wrth barhau i weithio, diolch i’w ddull hyblyg a’i gysylltiadau cryf â chwmnïau blaenllaw yn y diwydiant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd, rhan amser

Telir y Ffioedd gan Lywodraeth Cymru. Nid oes cost i’r prentis na’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Cyflog cyfwerth â’r isafswm cyflog cenedlaethol i’r prentisiaid hynny sy’n 18 oed neu’n hŷn. Mae prentisiaethau hefyd yn agored i’r rhai sydd eisoes mewn gwaith ac yn dymuno uwchsgilio.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein dull o addysgu yn cyfuno dysgu ymarferol, gyda gwybodaeth academaidd i sicrhau eich bod yn cael arbenigedd technegol a dealltwriaeth am fusnes. Trwy gymryd rhan mewn rhoi dysgu ar waith yn y byd go iawn a phrosiectau sy’n gysylltiedig â diwydiant, byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn rheoli peirianneg.

Yn Lefel 4, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn pynciau peirianneg craidd. Byddwch yn astudio gweithrediadau peiriannau, mathemateg peirianneg a phrosesu deunyddiau, tra hefyd yn datblygu sgiliau astudio hanfodol. Byddwch yn cael dealltwriaeth o wella ansawdd a busnes ac yn dechrau deall sut i ddefnyddio egwyddorion dylunio prosiectau mewn amgylcheddau peirianneg go iawn.

Gweithrediadau a Pherfformiad Peiriannau

(20 credydau)

Dylunio Prosiect

(20 credydau)

Ansawdd a Gwella Busnes

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Yn Lefel 5, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect grŵp diwydiannol, gan gydweithio ag eraill i ddatrys problemau peirianneg yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu am ddylunio gweithgynhyrchu, arloesi mewn rheolaeth, a chynaliadwyedd. Byddwch hefyd yn cael Gwregys Gwyrdd Six Sigma, fydd yn rhoi sgiliau datrys problemau uwch i chi. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar beirianneg amgylcheddol ac ynni cynaliadwy.

Prosiect Diwydiannol Grŵp

(40 credydau)

Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg

(20 credydau)

Gwregys Gwyrdd Six Sigma

(20 credydau)

Rheoli Arloesedd a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Peirianneg Amgylcheddol ac Ynni Cynaliadwy

(20 credydau)

Yn Lefel 6, daw eich dysgu i ben gyda phrosiect annibynnol, lle byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer problem sy’n berthnasol i’r diwydiant. Byddwch yn astudio prosesau a deunyddiau uwch, ynghyd â systemau gweithgynhyrchu ac efelychu. Yn ogystal, byddwch yn archwilio peirianneg peiriannau ac asedau ac yn dysgu sgiliau busnes hanfodol ym maes caffael a negodi, gan eich paratoi ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn peirianneg.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Prosesau a Deunyddiau Uwch

(20 credydau)

Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu

(20 credydau)

Peirianneg Peiriannau ac Asedau

(20 credydau)

Caffael a Negodi

(20 credydau)

testimonial

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Wedi’ch cyflogi mewn sector sy’n berthnasol i’r rhaglen brentisiaeth.  

    3 blynedd o brofiad gwaith, cymhwyster L3 (Safon Uwch, Diploma BTech neu gyfwerth) neu Brentisiaeth L3 mewn sector perthnasol.

    Mae angen TGAU gradd C (gradd 4 yn Lloegr) mewn Mathemateg hefyd. 

    Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried: 

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth.  

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn.  

    • Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol Uwch (HNC neu HND). Mae’r rhain yn gyrsiau un neu ddwy flynedd sy’n cyfateb i’r flwyddyn gyntaf neu’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o’r radd baglor amser llawn tair blynedd.    

     Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau HNC neu HND yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen am weddill blynyddoedd yr opsiwn gradd baglor amser llawn yn y pwnc hwn. 

    Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.


     

  • I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr. 

    Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen Ceisio am Brentisiaethau. Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau.

  • Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect sy’n seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a gronnwyd trwy’r cwrs i ddatrys problem peirianneg gweithle go iawn.

  • Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.