Skip page header and navigation

Rheolaeth Peirianneg (Rhan-amser) (BSc Anrh)

Abertawe
4 blynedd, rhan amser
112 - 128 Pwyntiau UCAS

Mae’r cwrs rhan-amser BSc (Anrh) Rheolaeth Peirianneg hwn wedi’i gynllunio i ehangu eich dealltwriaeth o ddisgyblaethau craidd sy’n gysylltiedig â pheirianneg a meithrin sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eich gyrfa. Byddwch yn ennill sgiliau ymchwil a busnes sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ddiwydiant a chyrff proffesiynol. Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sydd am gydbwyso gwaith ac astudio, gan gynnig dysgu seiliedig ar waith a’r hyblygrwydd i symud ymlaen ar eich cyflymder eich hun.

Mae’r cwrs yn cynnwys ystod eang o ddisgyblaethau peirianneg, gan gynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg gweithgynhyrchu a pheirianneg systemau. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau rheoli pwysig mewn peirianneg, a fydd yn eich helpu i ddeall sut i reoli timau, prosiectau ac adnoddau yn effeithiol. Mae’r rhain yn sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer datblygu gyrfa yn y sector peirianneg fodern.

Rhan allweddol o’r cwrs hwn yw ei fod yn canolbwyntio ar roi dysgu ar waith yn y byd go iawn. Byddwch yn ymwneud â rheoli prosiectau ac yn gweithio ar broblemau peirianneg go iawn, a fydd yn rhoi profiad ymarferol i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich gyrfa. Mae’r ffocws hwn ar integreiddio peirianneg a busnes yn sicrhau y byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer bodloni gofynion y diwydiant.

Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant, a byddwch yn elwa o’n partneriaethau â chwmnïau blaenllaw’r byd fel Tata Steel, Dow Chemicals, Aston Martin, Ford, Zimmer Biomet, Rolls Royce a Valero. Mae’r partneriaethau diwydiant hyn yn golygu y byddwch yn dysgu o arferion diweddaraf y diwydiant ac yn cael cyfle i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn rhai o gwmnïau peirianneg gorau’r byd.

Mae’r cwrs hefyd yn cynnig hyblygrwydd, gan ganiatáu i chi astudio wrth weithio. P’un ai eich bod ar y safle neu’n manteisio ar ein dewisiadau dysgu o bell, mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau presennol. Gallwch ddefnyddio eich swydd bresennol fel llwyfan dysgu, gan ddefnyddio’r sgiliau a gewch yn uniongyrchol i’ch gwaith.

I’r rhai sy’n bwriadu mynd â’u gyrfa hyd yn oed ymhellach, gall y cwrs hwn hefyd fod yn llwybr i ddod yn Beiriannydd Siartredig. Gan ganolbwyntio ar wybodaeth dechnegol a busnes, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer cymwysterau a rolau lefel uwch.

I grynhoi, mae’r cwrs hwn yn cynnig cydbwysedd perffaith o ddysgu technegol ac egwyddorion ac arferion busnes, ynghyd â phrofiad ymarferol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu eu gyrfaoedd mewn peirianneg wrth barhau i weithio, diolch i’w ddull hyblyg a’i gysylltiadau cryf â chwmnïau blaenllaw yn y diwydiant.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd, rhan amser
Gofynion Mynediad:
112 - 128 Pwyntiau UCAS

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Astudio'n rhan-amser tra byddwch chi'n gweithio, gan gymhwyso sgiliau newydd yn uniongyrchol i'ch swydd.
02
Adeiladu cysylltiadau diwydiant trwy bartneriaethau â chwmnïau sy'n arwain y byd gan gynnwys Rolls Royce, Aston Martin, a Tata Steel.
03
Carreg gamu i statws Peiriannydd Siartredig, sy'n cyfuno gwybodaeth dechnegol â sgiliau rheoli a busnes hanfodol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein dull o addysgu yn cyfuno dysgu ymarferol, gyda gwybodaeth academaidd i sicrhau eich bod yn cael arbenigedd technegol a dealltwriaeth am fusnes. Trwy gymryd rhan mewn rhoi dysgu ar waith yn y byd go iawn a phrosiectau sy’n gysylltiedig â diwydiant, byddwch yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn rheoli peirianneg.

Yn Lefel 4, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn pynciau peirianneg craidd. Byddwch yn astudio gweithrediadau peiriannau, mathemateg peirianneg a phrosesu deunyddiau, tra hefyd yn datblygu sgiliau astudio hanfodol. Byddwch yn cael dealltwriaeth o wella ansawdd a busnes ac yn dechrau deall sut i ddefnyddio egwyddorion dylunio prosiectau mewn amgylcheddau peirianneg go iawn.

Gweithrediadau a Pherfformiad Peiriannau

(20 credydau)

Ansawdd a Gwella Busnes

(20 credydau)

Rheolaeth Cyllid

(10 credyd)

Rheolaeth Sefydliadol

(20 credydau)

Rheoli newid

(10 credyd)

Sgiliau Adolygu

(10 credyd)

Dadansoddi Data ac Efelychu

(20 credyd)

Cyflwyniad i Beirianneg Deunyddiau

(10 credyd)

Technoleg Gynhyrchu Cynaliadwy

(10 credyd)

Yn Lefel 5, byddwch yn cymryd rhan mewn prosiect grŵp diwydiannol, gan gydweithio ag eraill i ddatrys problemau peirianneg yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu am ddylunio gweithgynhyrchu, arloesi mewn rheolaeth, a chynaliadwyedd. Byddwch hefyd yn cael Gwregys Gwyrdd Six Sigma, fydd yn rhoi sgiliau datrys problemau uwch i chi. Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar beirianneg amgylcheddol ac ynni cynaliadwy.

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Cynllunio Capasiti

(10 credyd)

Strategaethau Caffael

(10 credyd)

Gweithrediadau’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg

(20 credyd )

Technegau Cyfrifiadurol 1

(10 credyd)

Cynhyrchu Main a Six Sigma

(20 credyd)

Yn Lefel 6, daw eich dysgu i ben gyda phrosiect annibynnol, lle byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer problem sy’n berthnasol i’r diwydiant. Byddwch yn astudio prosesau a deunyddiau uwch, ynghyd â systemau gweithgynhyrchu ac efelychu. Yn ogystal, byddwch yn archwilio peirianneg peiriannau ac asedau ac yn dysgu sgiliau busnes hanfodol ym maes caffael a negodi, gan eich paratoi ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn peirianneg.

Caffael a Negodi

(20 credydau)

Rheolaeth Peirianneg

(10 credyd )

Rheoli Risg a Bregusrwydd

(20 credydau)

Dylunio ar gyfer Cynaliadwyedd

(10 credyd)

Rheolaeth Strategol

(10 credyd)

Priosect Annibynnol

(40 credyd)

testimonial

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 112-128 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.

    TGAU

    TGAU Mathemateg gradd B (neu 6) neu gyfwerth.

    Cyngor a Chymorth Derbyn

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect sy’n seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a gronnwyd trwy’r cwrs i ddatrys problem peirianneg gweithle go iawn.

  • Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

    Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig

    A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.

  • Mae’r cymhwyster hwn yn agor drysau ar draws ystod eang o rolau peirianneg a rheoli. Dyma lle gallai fynd â chi.

    • Symud i rôl rheoli peirianneg, arwain timau a goruchwylio prosiectau o fewn amgylchedd gweithgynhyrchu, mecanyddol neu beirianneg systemau.
    • Camu i fyny i swydd rheolwr prosiect, gan gymryd cyfrifoldeb am gynllunio, cyllidebau, a chyflawni prosiectau peirianneg ar amser.
    • Gweithio mewn gweithrediadau neu reoli cynhyrchu, gan gadw prosesau cymhleth yn rhedeg yn effeithlon mewn sefydliadau diwydiannol mawr.
    • Adeiladu gyrfa gyda chwmnïau sy’n arwain y byd mewn sectorau fel modurol, cemegau, dur, gofal iechyd, ac ynni.
    • Ymgymryd â rôl ymgynghori, gan helpu busnesau i ddatrys heriau peirianneg a gweithredol gan ddefnyddio eich gwybodaeth dechnegol a busnes gyfunol.
    • Defnyddiwch y radd hon fel carreg gamu tuag at statws Peiriannydd Siartredig a’r rolau lefel uwch sy’n dod gydag ef.
    • Symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig, gan ddyfnhau eich arbenigedd mewn maes arbenigol o beirianneg neu reolaeth. 
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • This qualification opens doors across a wide range of engineering and management roles. Here is where it could take you.

    • Move into an engineering management role, leading teams and overseeing projects within a manufacturing, mechanical, or systems engineering environment.
    • Step up to a project manager position, taking responsibility for planning, budgets, and delivering engineering projects on time.
    • Work in operations or production management, keeping complex processes running efficiently in large industrial organisations.
    • Build a career with world-leading companies in sectors such as automotive, chemicals, steel, healthcare, and energy.
    • Take on a consultancy role, helping businesses solve engineering and operational challenges using your combined technical and business knowledge.
    • Use this degree as a stepping stone towards Chartered Engineer status and the higher-level roles that come with it.
    • Progress to postgraduate study, deepening your expertise in a specialist area of engineering or management.