TAR Uwchradd Ffiseg gyda SAC (Llawn amser) (TAR)
Mae ein cwrs TAR Uwchradd mewn Ffiseg wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus fel athro ffiseg, gan roi’r sgiliau i chi gael Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac addysgu ar y lefel uwchradd.
Mae’r rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) hon yn cyfuno dysgu academaidd â phrofiad ymarferol i sicrhau eich bod yn barod i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ffisegwyr.
Byddwch yn archwilio ffyrdd effeithiol o addysgu ffiseg, gan gynnwys pynciau craidd fel grymoedd, ynni, tonnau a thrydan, yn ogystal â chysyniadau mwy datblygedig fel ffiseg cwantwm ac astroffiseg. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar ddulliau addysgu diddorol sy’n defnyddio arbrofion a rhoi dysgu ar waith yn y byd go iawn i wneud ffiseg yn hygyrch ac yn gyffrous i fyfyrwyr.
Bydd lleoliadau ysgol mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith, gan gynnwys ysgolion trefol, gwledig, a chyfrwng Cymraeg, yn eich galluogi i gael profiad ymarferol mewn amgylcheddau addysgu gwahanol. Bydd y lleoliadau hyn yn rhoi dealltwriaeth werthfawr o ddeinameg yr ystafell ddosbarth a’r cyfle i ddefnyddio eich gwybodaeth mewn sefyllfaoedd addysgu yn y byd go iawn.
Yn ogystal â hyfforddiant sy’n benodol i’r pwnc, byddwch yn datblygu sgiliau mewn rheoli ystafell ddosbarth, asesu myfyrwyr, a chefnogi dysgwyr ag anghenion amrywiol. Bydd mentoriaid yn cefnogi eich datblygiad drwy gydol y cwrs, gan eich helpu i ddatblygu fel addysgwr.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i ysbrydoli chwilfrydedd a chariad at ffiseg, gan roi’r sgiliau gwyddonol sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.
Mae’r rhaglen yn amlygu pwysigrwydd addysg wyddoniaeth mewn byd cynyddol dechnolegol. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau. Mae’r cwrs hwn wedi’i nodi gan Lywodraeth Cymru fel maes pwnc â blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o £15,000 ar gael.
Mae bwrsariaethau gwerth £15,000 ar gael gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd pwnc blaenoriaeth uchel.
Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: canllawiau i fyfyrwyr 2024 i 2025 | LLYW.CYMRU
Manylion y cwrs
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn a chynhwysfawr a luniwyd i’ch paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu. Mae’r rhaglen yn cwmpasu 36 wythnos, gydag oddeutu 12 wythnos o ddarpariaeth yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgolion.
Cwricwlwm Craidd
Ein cwricwlwm craidd arloesol a achredwyd yn ddiweddar yw asgwrn cefn ein rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n cynnwys:
- Modylau Gorfodol: Mae’r modylau hanfodol hyn yn cwmpasu agweddau sylfaenol ar addysgu ac addysg.
- Datblygu Sgiliau Ymchwil: Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
- Llwybr Proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC): Mae’r llwybr hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau proffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer SAC.
- Llwybr Datblygu’r Gymraeg: Byddwch yn gwella’ch gallu i addysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg, sgil gwerthfawr yn ein system addysg ddwyieithog.
- Pontio: Gweithgareddau sy’n integreiddio damcaniaeth yn ddi-dor â chymhwyso’n ymarferol, gan atgyfnerthu eich profiad dysgu.
- Profiadau dewisol: Dewiswch brofiad yn yr ysgol mewn maes o ddiddordeb i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol.
- Lleoliad Amgen: Cewch fewnwelediad drwy brofi lleoliadau addysg tu allan i ysgolion traddodiadol, megis amgylcheddau addysg arbennig.
Partneriaeth Gydweithredol
Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth o ysgolion, yn cynnwys ysgolion cynradd ac arbennig. Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig ystod amrywiol o brofiadau addysgu i chi, gan ehangu eich gwybodaeth ymarferol a’ch sgiliau.
Cyfleoedd Datblygu Proffesiynol
- Partneriaeth Dysgu Proffesiynol yr Athrofa: Cynhadledd Anelu at Ragoriaeth: Gallwch gymryd rhan yn ein cynhadledd fawreddog, gan wella eich rhwydwaith proffesiynol a dysgu gan arbenigwyr.
- Ysgrifennu Blog: Cewch gyfrannu i’n blog addysgol, gan rannu eich dealltwriaeth a phrofiadau.
- Canolfannau Ymchwil: Cewch fudd o’n canolfannau ymchwil, gyda mynediad at ymchwil addysg a methodolegau blaengar.
Erbyn diwedd y rhaglen hon, byddwch wedi’ch paratoi’n dda gyda’r profiad ymarferol, y sgiliau ymchwil, a’r wybodaeth broffesiynol i ragori fel athro cymwysedig.
Ymwrthodiad
tysteb
Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored
Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni.
Staff
Ein Pobl
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.