Skip page header and navigation

Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (Rhan amser) (DProf)

Dysgu o Bell
6 Blynedd Rhan amser

Mae’r Ddoethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (DProf) yn integreiddio astudiaethau rhan-amser ar lefel doethuriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus, ac mae’n ffordd ddelfrydol o sicrhau doethuriaeth wrth gynnal ymrwymiadau proffesiynol.

Mae rhaglen Y Drindod Dewi Sant yn un o’r ychydig raglenni DProf generig yn y byd, ac mae mewn sefyllfa unigryw i ddarparu ar gyfer ystod eang o gefndiroedd proffesiynol a phynciau ymchwil. Mae’r Rhan 1 a addysgir yn cynnwys astudio mewn amgylchedd grŵp cefnogol, sy’n wedd unigryw a gwerthfawr arall ar y rhaglen.

Mae Rhan 1 y rhaglen yn helpu ymgeiswyr i adolygu eu dysgu proffesiynol ac adeiladu sgiliau ymchwil. Mae Rhan 2 yn darparu cefnogaeth ar gyfer prosiect ymchwil mawr sy’n ffocysu ar agweddau ar arfer proffesiynol ymgeiswyr.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cael statws Doethuriaeth wrth barhau â rôl broffesiynol yn eich gweithle.
02
Cynnal ymchwil yn eich arfer proffesiynol.
03
Elwa ar gymorth cymheiriaid.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy brif ran. Mae rhan 1 (180 credyd; hyd, tua 2 flynedd, rhan amser) yn cynnwys astudio chwech modwl lefel 7. Mae hyn yn adolygu eich dysgu proffesiynol presennol, yn darparu sgiliau ymchwil ac yn eich paratoi at ymchwil Rhan 2. Mae Rhan 2 y rhaglen (360 credyd; hyd, tua 3-4 blynedd, rhan amser) yn canolbwyntio ar brosiect ymchwil pwysig seiliedig ar waith, gan arwain at lunio traethawd ymchwil 60,000 o eiriau.

Cynhelir gweithdai preswyl yn Y Drindod Dewi Sant Llambed. Cynhelir pob seminar a thiwtorial arall yn Y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin a/neu ar-lein.

Gorfodol

Dulliau Ymchwil a Chyfathrebu Academaidd

(30 credydau)

Dulliau Ymchwil Ansoddol

(30 credydau)

Dulliau Ymchwil Meintiol

(30 credydau)

Adolygu Dysgu Proffesiynol

(30 credydau)

Cynnig Ymchwil Ymarferwyr

(30 credydau)

Prosiect Dysgu Ymarferydd (Canolradd)

(30 credydau)

Prosiect Ymchwil Seiliedig ar Waith

(360 credydau)

Dewisol

Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol

(30 credydau)

Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol

(60 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen yn agored i ymarferwyr sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad o rôl broffesiynol sylweddol, ac sy’n meddu ar radd ail ddosbarth uwch, ac yn ddelfrydol gradd meistr neu gyfwerth yn ogystal.

    Gofynion Iaith Saesneg

    Mae angen i ymgeiswyr gael sgôr IELTS o 6.0 at ei gilydd, gyda dim llai na 5.5 mewn darllen ac ysgrifennu, a dim llai na 5.5 mewn gwrando neu siarad (neu gyfatebol). Gweler ein Polisi Iaith Saesneg.

  • Mae gan bob modwl ei elfen asesu’i hun yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniad, portffolio, ac adroddiadau neu draethawd ysgrifenedig. Ar ddiwedd Rhan 2, disgwylir y bydd ymgeiswyr wedi cynhyrchu traethawd ymchwil 60,000-word gair sy’n seiliedig ar eu prosiect ymchwil a ddylai gyfrannu at arfer proffesiynol unigolion a datblygiad strategol eu sefydliadau. Unwaith y bydd y traethawd ymchwil wedi ei astudio a’i gymeradwyo, bydd ymgeiswyr wedi cyflawni 540 o gredydau a’r cymhwyster DProf, ynghyd â’r teitl ‘Dr’.

  • Disgwylir i fyfyrwyr fynychu gweithdy preswyl unwaith y flwyddyn yng Ngorllewin Cymru ar gyfer rhan un y rhaglen, a disgwylir iddynt dalu eu costau teithio eu hunain.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae pob ymgeisydd DProf mewn swydd yn barod. Yn aml, dilynir y rhaglen am ei fod yn cyfrif fel darn sylweddol o ddatblygiad proffesiynol parhaus, sy’n cyfoethogi eich dilyniant gyrfaol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau