Skip page header and navigation

Rheoli Prosiectau Peirianneg (Rhan amser) (MSc)

Abertawe
3 Blynedd Rhan amser
Gradd anrhydedd 2:2

Ydych chi’n angerddol am beirianneg ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau wrth gydbwyso gwaith ac astudio? Mae’r cwrs MSc Rheoli Prosiectau Peirianneg (Rhan-amser) wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd am ddatblygu eu harbenigedd mewn rheoli prosiectau o fewn y sector peirianneg, wrth gynnal eu hymrwymiadau presennol. P’un ai eich bod yn dod o gefndir peirianneg fecanyddol, dylunio peirianyddol, peirianneg sifil neu beirianneg gweithgynhyrchu, bydd y  rhaglen hyblyg hon yn eich helpu i ehangu eich gwybodaeth ac agor drysau newydd yn eich gyrfa.

Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau gradd israddedig ac sy’n dymuno archwilio cyfleoedd newydd mewn peirianneg dechnegol. Mae hefyd o fudd i reolwyr profiadol sydd am adnewyddu eu gwybodaeth a ffurfioli eu cymwysterau, gan eu helpu i aros ar y blaen mewn marchnad swyddi sy’n datblygu.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n gryf ar ddatblygu sgiliau reoli prosiectau sy’n hanfodol ar gyfer arwain prosiectau peirianneg. Ochr yn ochr â dysgu craidd, bydd myfyrwyr yn mireinio eu galluoedd mewn arwain prosiectau, rheoli ansawdd a rheoli’r gadwyn gyflenwi. Mae’r rhain yn elfennau allweddol ar gyfer llwyddiant yn y diwydiannau sy’n datblygu’n gyflym heddiw. Mae deall sut i reoli caffael hefyd yn rhan bwysig o’r cwrs, gan roi dealltwriaeth i fyfyrwyr ar agwedd hanfodol ar gynllunio a gweithredu prosiectau.

Bydd graddedigion yn gadael y rhaglen yn meddu ar sgiliau sy’n eu gwneud yn apelgar i gyflogwyr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. P’un ai eich bod yn anelu i fod yn rheolwr prosiect medrus iawn neu ymgymryd â rolau arweinyddiaeth mwy technegol, bydd yr hyfforddiant a ddarperir yn cefnogi eich cyflogadwyedd.

Mae’r rhaglen hefyd wedi’i chynllunio i baratoi myfyrwyr ar gyfer heriau’r gweithle modern. Mae cyflogwyr heddiw yn gwerthfawrogi mwy na gwybodaeth dechnegol yn unig; maent yn chwilio am weithwyr proffesiynol sy’n gallu arwain timau, rheoli prosiectau cymhleth, a chyflawni canlyniadau o fewn amser ac o fewn cyllideb. Mae’r cwrs hwn yn mynd i’r afael â’r holl agweddau hyn, gan roi addysg gyflawn i fyfyrwyr mewn arweinyddiaeth, rheoli, a pheirianneg dechnegol.

Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth ddamcaniaethol i reoli prosiectau’n hyderus, gan sicrhau eich bod yn sefyll allan fel arweinydd prosiect cymwys a galluog iawn ym maes peirianneg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd 2:2

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu mewn partneriaeth â chyrff y diwydiant a chyrff proffesiynol.
02
Cyfle i astudio ar Gampws Glannau Abertawe - ein campws modern sydd werth £350m.
03
Mae gan yr adran beirianneg dros 20 mlynedd o brofiad o gyflwyno'r cyrsiau hyn yn llawnamser ac yn rhan-amser.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth addysgu yn canolbwyntio ar ddarparu cydbwysedd o sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol. Ein nod yw rhoi dealltwriaeth eang i fyfyrwyr o reoli prosiectau mewn peirianneg, gan bwysleisio arweinyddiaeth, cynaliadwyedd ac arloesedd. Trwy ddysgu rhyngweithiol, astudiaethau achos sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, ac asesiadau sy’n seiliedig ar brosiectau, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y sector peirianneg sy’n datblygu’n gyflym heddiw.

Ymwrthodiad

tysteb

Student ambassadors with potential students

Ymwelwch  Ni Ar Gyfer Diwrnod Agored

Dewch i’n hadnabod ni, a’r lle y byddwch yn ei alw’n gartref tra byddwch yn astudio gyda ni, a chwrdd â’r arbenigwyr sy’n arwain ein cyrsiau a chlywed gan ein myfyrwyr presennol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei garu am astudio gyda ni. 

Staff

Ein Pobl

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol