Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle - Darpariaeth ar Benwythnosau (Llawn amser) (BA Anrh)
Datblygwyd y rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) mewn ymateb i’r galw gan fyfyrwyr am lwybr priodol i’w ddilyn ar ôl cwblhau’r cwrs Sgiliau ar gyfer y Gweithle (CertHE).
Gydag arddull dysgu hyblyg o ran sut a ble y cyflwynir rhaglenni, bydd y rhaglen hon yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr astudio theori ac arfer rheoli, a hynny o fewn cyd-destun profiad o’r gweithle.
Mae’r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr Cartref yn unig.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) wedi’i chynllunio i ddilyn y Tystysgrif Lefel 4 Sgiliau Addysg Uwch ar gyfer y Gweithle neu ar gyfer y rhai sy’n trosglwyddo credydau o raglenni eraill sy’n gysylltiedig â busnes.
Ar ôl cwblhau TystAU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle, gall dysgwyr symud ymlaen yn syth i Lefel 5 y rhaglen radd hon, sy’n dilyn patrwm tebyg i’r Dystysgrif o ran ei darpariaeth hyblyg, gan ei bod yn cael ei chyflwyno trwy astudio cyfres o fodiwlau unigol yn olynol, ynghyd â hyfforddiant wyneb yn wyneb mewn lleoliad cymunedol cyfleus. Bydd y rhaglen hon yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr astudio theori ac arfer rheoli, a hynny o fewn cyd-destun profiad o’r gweithle.
O ran cynnwys y pwnc, mae’r teitl “ar gyfer y gweithle” yn adlewyrchu sut y caiff pob modiwl ei osod o fewn cyd-destun profiadau personol y dysgwyr yn y gweithle. Mae’r dull cynhwysfawr hwn o gynnal astudiaeth sy’n seiliedig ar brosiect yn sicrhau bod modelau damcaniaethol generig yn cael eu harchwilio o fewn cyd-destun y gweithle bob tro, gan sicrhau perthnasedd parhaus i anghenion cyflogwyr ac i ddilyniant gyrfa.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Llundain
Fel prif ddinas, mae gan Lundain gymaint o amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr fydd yn addas ar eich cyfer chi ac yn yr ardal lle’r hoffech chi fyw yn Llundain. Mae ein tîm llety wrth law ac ar gael i’ch arwain trwy eich opsiynau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr Cartref.
Cyflawni TystAU Sgiliau ar gyfer y Gweithle (120 credyd) yn llwyddiannus. -
Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.
Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.
Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae’r rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) wedi’i chreu i fod yn rhaglen israddedig ddeniadol sydd wir yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr yn y gweithle ac sy’n addas i’r rhai sy’n ceisio gwella eu rhagolygon o ddychwelyd i’r gweithle.
Lluniwyd y rhaglen er mwyn sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol priodol a fydd yn eu galluogi i weithio’n effeithiol mewn marchnad fyd-eang sy’n newid yn gyson. Mae’r gallu i gael effaith uniongyrchol ac i gyfrannu’n barhaus yn y gweithle yn agwedd bwysig.
O’r herwydd, bydd y myfyrwyr yn fedrus wrth weithio mewn tîm, yn meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu’n effeithiol, yn gallu nodi strategaethau priodol er mwyn datrys problemau sefydliadol, yn gallu cyfrannu at ymarfer myfyriol, ac yn gallu datblygu fel dysgwyr gydol oes yn hyderus.