Prentisiaeth mewn Rheolaeth Peirianneg (BEng Anrh)
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i ehangu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth mewn disgyblaethau craidd sy’n gysylltiedig â pheirianneg. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a busnes a fynnir gan ddiwydiant a chyrff proffesiynol.
Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant a sefydliadau blaenllaw o’r radd flaenaf megis Tata Steel, Dow Chemicals, Aston Martin, Ford, Biozimmer Met, Rolls Royce a Valero.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Gan astudio ar y rhaglen BSc Rheoli Peirianneg byddwch yn ennill profiad a gwybodaeth yn y byd go iawn gyda chefnogaeth tîm o ddarlithoedd gyda nifer helaeth o flynyddoedd o brofiad mewn diwydiant.
Mae graddedigion Rheolaeth Peirianneg yn chwarae rhan bwysig mewn dylunio a gweithgynhyrchu lle mae’r heriau’n cynnwys datblygu systemau a phrosesau gweithgynhyrchu mwy effeithlon ac effeithiol, creu cynhyrchion arloesol, cynaliadwyedd ac adeiladu modelau busnes newydd i gefnogi gweithgynhyrchu gwerth uchel.
Bydd yn rhoi addysg eang i chi gan gynnwys astudiaethau mewn technoleg a deunyddiau peirianneg, systemau a phrosesau gweithgynhyrchu, dylunio cynnyrch a systemau, wedi’u hategu gan astudiaethau mewn busnes a rheolaeth.
Bydd y cwrs hwn yn datblygu’r sgiliau amlddisgyblaethol a meddal y mae gofyn cynyddol amdanynt yn yr amgylchedd deinamig ac ymwybodol o adnoddau sydd ohoni.
Datblygwyd y cwrs hwn i fodloni galw’r diwydiant am beirianwyr proffesiynol sy’n meddu ar sgiliau busnes a rheoli cadarn ynghyd â phrofiad peirianyddol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Saesneg a Mathemateg lefel 2 (TGAU A*-C, 4-8 neu gyfwerth) a chymhwyster lefel 3 (Safon Uwch, BTech, Diploma neu gyfwerth) yw’r gofyniad mynediad gofynnol arferol.
-
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect sy’n seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a gronnwyd trwy’r cwrs i ddatrys problem peirianneg gweithle go iawn.