Robyn yn PCYDDS
Enw: Robyn Thorpe
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Exeter College UAL Sylfaen a Safon Uwch
Tref eich cartref: Dawlish, Dyfnaint
Profiad Robyn ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Rwyf wrth fy modd bod y campws yng nghanol Abertawe, mae o fewn pellter cerdded gwych i unrhyw beth y mae ei angen arnoch. Mae’r holl gyfleusterau naill ai yn Ninefwr neu Alex, ac felly’n agos iawn.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS am sawl rheswm, y gofod stiwdio anhygoel, y dysgu ymarferol roedden nhw’n ei gynnig, y caredigrwydd a ddangosodd pob myfyriwr neu aelod o staff i mi wrth ymweld. Roedd cymaint o bethau positif am y Brifysgol hon wrth ddewis, roeddwn i’n gwybod cyn gynted ag y byddwn i’n ymweld fy mod i am fynd yma.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
| Y tu allan i’m hastudiaethau, roeddwn i’n mwynhau archwilio’r popeth sydd gan Gymru i’w gynnig, treuliais i lawer o’r diwrnodau heulog allan yng Ngŵyr ar draethau newydd yn nofio neu’n ‘ceisio’ syrffio ac es i hefyd ar ychydig o deithiau cerdded bach a hir fel y Pedair Rhaeadr a Llyn y Fan Fach. Y diwrnodau i ffwrdd a dreulies i yn yr awyr agored hefyd a ysbrydolodd lawer o’r prosiectau roeddwn i’n gweithio arnyn nhw, roeddwn i’n teimlo’n lwcus iawn i fod mor agos at rai o’r lleoedd hyn. |
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar ôl graddio rwy’n gobeithio y bydda i wedi sicrhau swydd neu interniaeth mewn rôl dylunio printiau gyda chwmni ffasiwn, neu frand dillad nofio/syrffio. Bydda i’n parhau i fireinio fy mhortffolio a chysylltu â chwmnïau rwy’n teimlo bod fy arddull ddylunio yn cyd-fynd â nhw.
Roeddwn i’n ddigon ffodus i sicrhau cyfnod preswyl gyda Thirweddau Cenedlaethol Gŵyr lle roeddwn i’n creu rhai darnau a arweiniwyd gan Batrymau Arwyneb ac a ysbrydolwyd gan y pedwar diwrnod a dreulies i’n archwilio natur a’r bywyd gwyllt sy’n byw allan ym Mhenrhyn Gŵyr, ac arddangosir y rhain, wedyn, yn Sioe Gŵyr ym mis Awst.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs oedd faint o adborth, cyngor, a sesiynau 1 i 1 yr oeddem ni’n gallu eu derbyn nid yn unig gan ein darlithwyr ond gan dechnegwyr hefyd. Cafodd unrhyw gwestiynau neu ansicrwydd eu datrys bob tro, ac roeddwn i bob amser yn teimlo cymorth yn fy ngwaith. Roeddwn i hefyd wrth fy modd yn cael mynediad agored i’r mannau gweithdy, roedd gallu cael diwrnod naill ai yn printio â sgrin neu’n brodio yn fuddiol iawn yn enwedig pan oeddwn i yng nghanol prosiect prysur.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant byddwn i’n argymell PCYDDS, os oes gennych angerdd am gelf a dylunio, eisiau dysgu sgiliau newydd, a gwneud ffrindiau am oes – nid yn unig gyda’ch cyfoedion ond gydag athrawon hefyd, yna da chi, dewch i PCYDDS.