Becky Williams
Cefndir
Mae Becky yn artist gweithredol a hi yw un hanner o’r ddeuawd gydweithredol Jason&Becky, y mae ei gwaith yn cwmpasu amryw ddulliau gan gynnwys sain, mapio tafluniad fideo, a pherfformio byw.
Gan gynhyrchu gwaith ar gyfer orielau ac amgueddfeydd yn ogystal â phrosiectau cymunedol sy’n ymgysylltu â chymdeithas, maent wedi ymgymryd â chyfnodau preswyl ac arddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn Fenis, Colorado, Tsieina a Japan.
Maent wedi gweithio gyda sefydliadau megis Disney ac Universal Studios yn y gorffennol, ac wedi darparu cymorth technegol wrth osod arddangosfeydd celf amrywiol yn y DU, gan gynnwys gosodiadau clyweledol sy’n cynnwys tafluniadau aml-sgrin a sain, yn ogystal ag atebion creadigol ar gyfer amgáu neu arddangos gwaith gweledol a cherfluniol.
Mae eu harfer celf gain bresennol yn archwilio dulliau newydd o ymgysylltu â chelf yn y parth cyhoeddus, gan ddilyn dau PhD seiliedig ar arfer yn ymchwilio i’r cyfarfyddiad a llesiant mewn perthynas â phrofiad cyfranogwyr.
Pynciau Arbenigol
- Celf Gain
- Celf Gosodwaith
- Celf Glyweledol Ryngweithiol a Throchi
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Arddangosfeydd a chyfnodau preswyl dethol: Responsive Artefacts (PCYDDS ac Oriel G39, Caerdydd/Abertawe, 2022, ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru); Tibro Yalp (Oriel G39, Caerdydd, 2022); Under the Counter Culture (tactileBOSH & IAFT, Tokyo/Kyoto, Japan, 2019); Hwyrnos yr Amgueddfa: SPACE (Amgueddfa9); Viscositecture (Mission
Cymwysterau
- BA Celf Gain
- MA Deialogau Cyfoes
- PhD