Chung Lai Johnny Wan
Cefndir
Mae gan Johnny PhD o Brifysgol Caergrawnt, yn ogystal â MPhil a BA (Anrh) mewn Rheolaeth o Brifysgol Polytechnig Hong Kong. Ers 2009, mae wedi dysgu ystod eang o bynciau busnes ym Mhrifysgol Polytechnig Hong Kong ac, yn fwy diweddar, ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) - Campws Birmingham. Mae ei brofiad addysgu yn ymestyn o Dystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU) i lefelau ôl-raddedig, ar draws fformatau grwpiau bach a dosbarthiadau mawr, wedi’u cyflwyno mewn dulliau wyneb yn wyneb, ar-lein a hybrid.
Ar hyn o bryd Johnny yw Rheolwr Rhaglen y Dystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU) mewn Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle ar Gampws PCYDDS Birmingham.
Mae ei bortffolio ymchwil yn cynnwys saith erthygl cyfnodolion, dau bapur cynhadledd, dau lyfr, ac un astudiaeth achos. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil mewn rheolaeth gweithrediadau, rheoli’r gadwyn gyflenwi, ac addysg.
Pynciau Arbenigol
- LCHS4001 Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
- LCLM4003 Gwaith Tîm a Chyfathrebu Effeithiol
- LCLM4005 Cyflogadwyedd a Datblygiad Gyrfa
- LCLM4006 Menter ac Entrepreneuriaeth
- LCLM6005 Prosiect Annibynnol (Goruchwylydd)
- LCMB7024 Rheolaeth Marchnata
- LCMB7034 Cysyniadau Busnes Rhyngwladol
- LCMB7035 Traethawd MBA (Goruchwylydd)
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Cymwysterau
- PhD, Prifysgol Caergrawnt, y Deyrnas Unedig
- MPhil, Prifysgol Polytechnig Hong Kong, Hong Kong
- BA (Anrh) mewn Rheolaeth (gydag arbenigedd mewn Rheolaeth Gweithrediadau), Prifysgol Polytechnig Hong Kong, Hong Kong