Julia Holloway
Cefndir
Mae gan Julia dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu yn y sectorau addysg oedolion ac uwchradd. Yn dilyn gyrfa flaenorol mewn radiograffeg, bu Julia’n gweithio fel tiwtor ysgrifennu creadigol mewn addysg oedolion.
Ar ôl cwblhau TAR mewn Saesneg Uwchradd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe, bu Julia’n dysgu Saesneg ar lefel uwchradd.
Enillodd Julia BA (Anrh) mewn Llenyddiaeth Saesneg a gradd Meistr mewn Arfer Addysgol o Brifysgol Caerdydd.
Ers ennill Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg o Brifysgol Caerdydd, mae Julia wedi parhau i ymchwilio i brofiadau mentora athrawon newydd a phrofiadau myfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd ar y rhaglen EdD yn PCYDDS.
Mae gan Julia brofiad helaeth o gefnogi gallu ymchwil mewn ysgolion trwy ei chyfranogiad yn y Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (PYPC). Mae hi hefyd wedi cefnogi datblygu a gwireddu cwricwlwm drwy ei hymwneud â phrosiect ymchwil a datblygu Camau i’r Dyfodol.
Pynciau Arbenigol
- Llythrennedd
- Addysgu Darllen yn Dactegol
- Siarad ymddiddanol
- Athroniaeth i Blant
- Mentora
- Dysgu proffesiynol
- Gwireddu cwricwlwm
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Bu Julia’n ymwneud â chyd-ddatblygu’r modwl Arweinyddiaeth ar gyfer yr MA Cenedlaethol yng Nghymru, a chyn hynny bu'n addysgu a goruchwylio myfyrwyr Meistr.
Ar hyn o bryd mae Julia yn arweinydd modwl ar yr EdD ac yn goruchwylio myfyrwyr doethurol ar y cam traethawd hir.
Mae Julia wedi ennill profiad sylweddol mewn ymchwil addysgol. Roedd ei thesis Meistr yn canolbwyntio ar wella ansawdd siarad yn yr ystafell ddosbarth uwchradd. Ymchwiliodd ei hymchwil doethurol i brofiadau Athrawon Newydd Gymhwyso o gael eu mentora yn ystod y cyfnod sefydlu.
Ar hyn o bryd mae Julia yn ymchwilio i sut mae'r model trawsnewidiol o AGA yn cael ei brofi mewn mannau mentora. Mae hi hefyd yn ymchwilio i brofiadau myfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd ar raglen ddoethurol yng Nghymru.
Cymwysterau
- Diploma Coleg y Radiograffwyr (DCR)
- BA (Anrh) Llenyddiaeth Saesneg, Prifysgol Caerdydd
- Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) Saesneg Uwchradd, Prifysgol Fetropolitan Abertawe
- Gradd Meistr mewn Arfer Addysgol (MEP), Prifysgol Caerdydd
- Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA)
- Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg, Prifysgol Caerdydd
Ieithoedd a Siaradwyd
Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl
Addysgu Academaidd
Cyhoeddiadau Proffesiynol
- Holloway, J.M. (2023) An exploration of the ‘lived’ experiences of newly qualified teachers, with a specific focus on mentoring, as they undergo the mandatory induction year during the global Covid-19 pandemic. EdD Thesis, Cardiff University.
- Holloway, J., Morgan, A., and Milton, E. (2025) Is mentoring of newly qualified teachers (NQTs) in Wales supportive of the development of teacher professionalism or simply adding to NQTs' 'to-do lists'? Impact Issue 23, Spring 2025.