Skip page header and navigation

Cefndir

Mae Kara wedi gweithio ym maes addysgu’r Gymraeg drwy gydol ei gyrfa.  

Mae’n darlithio yn PCYDDS ers 2015 ag arbenigedd yn y Gymraeg ac addysgeg dysgu iaith, ac yn cydlynnu prosiectau amrywiol gyda Rhagoriaith a Peniarth. Mae’n arwain modylau Cymraeg Mewn Blwyddyn, ac yn Rheolwr Rhaglen y Dystysgrif Ôl-Raddedig mewn Polisi a Chynllunio Iaith. 

Mae ganddi brofiad helaeth o sefydlu a rheoli prosiectau, er enghraifft yn ei rôl fel Cyfarwyddydd Canolfan Madog, Prifysgol Rio Grande, trefnai ddigwyddiadau, prosiectau ymchwil a chynnal gweithgarwch rhyngwladol ynghyd â rheoli rhaglen cyrsiau Cymraeg a Chymreig is-raddedig. 

Am gyfnod buodd yn ddarlithydd Is-deitlo i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, ac wedi cyfrannu at y Dystysgrif Ôl-raddedig is-deitlo yn PCYDDS. 

Mae wedi teithio’n helaeth ledled gogledd America yn darlithio, dysgu a chynnal gweithdai gyda chyrff fel Cymdeithas Madog, NAASWCH a’r NAFOW. Mae’n parhau â’r cysylltiadau hyn hyd heddiw. 

Pynciau Arbenigol

  • Methodolegau addysgu'r Gymraeg
  • Technoleg a chaffael iaith
  • Adnoddau caffael iaith
  • Deallusrwydd Artiffisial a'r Gymraeg

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Methodolegau dysgu ac addysgu’r Gymraeg
Technoleg a dysgu ac addysgu iaith
Llesiant a gofal bugeiliol myfyrwyr a staff

Cymwysterau

  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, MHFA
  • MA, PCYDDS, Arfer Proffesiynol, Rhagoriaeth
  • TAR, Prifysgol Morgannwg, Rhagoriaeth
  • MEd, Prifysgol Rio Grande, Summa cum laude
  • BA (Anrhydedd) Cymraeg, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, Dosbarth Cyntaf
  • Tystysgrif Is-deitlo, BBC, Rhagoriaeth

Ieithoedd a Siaradwyd

Cymraeg
Saesneg

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Aelod Bwrdd Ymgynghorol Impact Wales
Aelod Bwrdd Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig
Arweinydd Addysgiadol ieithgar.cymru
Mentor Aurora

Cydnabyddiaeth neu Wobrau Allanol

Cymrawd LEAP 2023-2025

Cyhoeddiadau Proffesiynol

  • Llun a Thrin, Golygydd, Peniarth 2019
  • Beth welwch chi? 2 gyda Llio Dyfri Jones, Maureen Williams, Meleri Jones, Rhian Davies, Nia Evans, Catrin Phillips, Catrin Evans-Thomas, Peniarth 2019
  • Teach Yourself: Speak Welsh With Confidence, gyda Christine Jones, Hodder & Stoughton 2006