Lisa-Marie Bassler
Cefndir
Mae Lisa yn dod â sawl blwyddyn o brofiad ymarferol yn y diwydiant i’r tîm Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth (HATM), ar ôl gweithio mewn amrywiaeth o rolau ym maes lletygarwch a manwerthu ar draws Cymru a’r Almaen. Mae ei chefndir ymarferol, ynghyd â’i phrofiad o oruchwylio lleoliadau myfyrwyr, wedi ei helpu i ddatblygu rhwydwaith o gysylltiadau eang ac amrywiol yn y diwydiant.
Enillodd BA ac MBA mewn Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yn ystod ei hastudiaethau, datblygodd ddiddordeb brwd mewn dysgu trwy brofiad mewn lleoliadau lletygarwch, sy’n parhau i ddylanwadu ar ei hymchwil a’i dull addysgu. Yn ddiweddarach, ymunodd â thîm addysgu’r Brifysgol a chwblhaodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch.
Mae ei phrofiad yn y diwydiant a’i diddordebau ymchwil yn llywio ei dull addysgu ar draws y rhaglenni israddedig HATM, gan sicrhau bod y cwricwlwm yn parhau i fod yn academaidd drylwyr ac yn berthnasol i’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth deinamig.
Pynciau Arbenigol
- Gweithrediadau Bwyd a Diod (Lleoliad)
- Gweithredu Cyfleusterau Gwestai (Lleoliad)
- Gweinyddiaeth a Gweithrediadau Blaen Swyddfa Gwestai (Lleoliad)
- Leithoedd Tramor ac Ymwybyddiaeth Ryngddiwylliannol
- Rheoli Cyfarfodydd Rhyngwladol
- Sgiliau Academaidd, Diwydiant a Digidol
- Dulliau Ymchwil a Phrofiad o Astudiaeth Maes
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Yn PCYDDS, mae Lisa yn gweithio ar draws amrywiaeth o raglenni HATM fel darlithydd a thiwtor lleoliadau. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Cydlynydd Camymddwyn Academaidd ar gyfer disgyblaeth HATM, gan hyrwyddo a chynnal uniondeb academaidd wrth gefnogi myfyrwyr mewn arferion academaidd moesegol.
Cymwysterau
- Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol, BA (Anrh), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Rheoli Gwestai Rhyngwladol, MBA (Rhagoriaeth), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant