Martin Bush
Cefndir
Mae Matin yn gyfarwyddwr rhaglen, artist cyfoes ac ymchwilydd doethurol celfyddyd gain sy’n seiliedig ar arfer sy’n astudio ar gyfer PhD.
Mae’n Gyfarwyddwr Rhaglen y cyrsiau BA (Anrh) ac MA Darlunio, yn uwch ddarlithydd ar y rhaglen MA Deialogau Cyfoes ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae Martin wedi gweithio yn y diwydiant hysbysebu am 25 mlynedd , 15 o’r rhain gydag un o’r 30 o asiantaethau hysbysebu integredig gorau. Trwy’r gwaith hwn, mae wedi ennill profiad helaeth o gyfathrebu darlledu, print a digidol fel cyfarwyddwr celf, dylunydd graffig, ysgrifennwr copi a chyfarwyddwr creadigol.
Mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd ar y cwrs BA (Anrh) Cyfathrebu Graffeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn siaradwr rheolaidd yng nghynhadledd flynyddol Dyfodol Creadigol a gynhelir ym Mhrifysgol De Cymru, ac yng Nghynhadledd Addysgu NEXUS yn PCYDDS.
Ymunodd Martin â’r byd academaidd 13 mlynedd yn ôl, lle mae wedi bod yn dysgu ac yn ymarfer ers hynny.
Pynciau Arbenigol
- Mae ymarfer creadigol Martin yn cynnwys creu gweithiau celf trwy gyfrwng AI, technoleg ddigidol, fideo, ffotograffiaeth, testun a sain.
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Cymwysterau
- BA (Anrh) Cyfathrebu Graffig
- MA Celfyddyd Gain
- Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
- Ymgeisydd PhD