Rebecca Ellis
Cefndir
Mae gan Rebecca dros 15 mlynedd o brofiad yn darlithio mewn Astudiaethau Ffilm a dylunio rhaglenni hyfforddi i oedolion ifanc cyn ei rôl fel Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglenni BA Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Rebecca oedd yr Arweinydd Pwnc ar gyfer Astudiaethau Ffilm yng Nghorff Arholi CBAC/Eduqas sy’n arwain y gwaith o ddylunio, gweithredu, cyflwyno ac asesu cymwysterau TGAU a Safon Uwch Astudiaethau Ffilm a’r Cyfryngau diwygiedig ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae Rebecca wedi gweithio fel Beirniad Ffilm ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau gan gynnwys Little White Lies Magazine a Media Magazine. Mae wedi siarad fel eiriolwr dros gydraddoldeb rhywiol mewn digwyddiadau ar thema Ffilm a’r Cyfryngau, gan gynnal digwyddiadau panel mewn gwyliau gan gynnwys Sheffield DocFest, Gŵyl Ffilm Underwire, Gŵyl Ffilm Birds Eye View, Gŵyl Ffilm Gomedi Llundain a Chynhadledd Ffilm a Chyfryngau Sefydliad Ffilm Prydain.
Pynciau Arbenigol
- Astudiaethau Cyd-destunol
- Darlunio a Dylunio
- Astudiaethau Gweledol
- Theori Ffilm
- Beirniadaeth Ffilm
- Sinema'r Byd
- Astudiaethau Ymgysylltiad Gwylwyr
- Astudiaethau Cynrychiolaeth
- Dylunio Gemau
- Hanes Celf
Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil
Mae ei phapurau ymchwil yn cynnwys:
Illustrations of women within editorial responses to the “MeToo Movement” (Prifysgol Leeds, Mai 2025)
Female Friendship in Desperately Seeking Susan (PCYDDS, Ebrill 2025)
Young Female Perspectives – Revising A Nightmare on Elm Street 40 Years on (Prifysgol Nottingham, Hydref 2024)
Cymwysterau
- Doethuriaeth mewn Arfer Proffesiynol (PCYDDS)
- MA Darlunio (Prifysgol Falmouth)
- TAR Addysg Ôl-orfodol (Prifysgol Sheffield Hallam)
- BA Anrh Hanes Celf, Dylunio a Ffilm (Prifysgol Sheffield Hallam)