Image and intro
Darlithydd mewn Seicoleg
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
Ffôn: +44 (0)1267 676697
E-bost: s.a.jones@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
- Rheolwr Rhaglen BSc Seicoleg Gymhwysol
- Goruchwylio Myfyrwyr PhD
- Mentor Cymrodyr yr AAU
Cefndir
Rwyf wedi bod yn addysgu ar y rhaglenni Seicoleg yn ogystal â rhaglenni eraill ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant er 2010 ac wedi cyfrannu at gyflwyno a goruchwylio ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig.
Cyn hynny bûm yn gweithio fel darlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg am chwe blynedd, yn darlithio ar y rhaglenni BSc Seicoleg, BSc Seicoleg Chwaraeon a BSc Gwyddor Chwaraeon. Hefyd bûm yn gweithio fel ymchwilydd Seicoleg Iechyd am brosiect a gyllidwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerfaddon a GIG Gogledd Wiltshire yn archwilio buddion a dichonoldeb mentora cymheiriaid o fewn menter iechyd ac ymarfer corff gymunedol ar gyfer cleifion â diagnosis o COPD (2007-2009). Arweiniodd hyn at ddatblygu Llawlyfr ar gyfer Mentoriaid Cymheiriaid a gyhoeddwyd gan GIG Gogledd Wiltshire.
Yn ystod fy nghyfnod yn y Drindod Dewi Sant bûm yn rheolwr rhaglen y Dystysgrif Raddedig mewn Seicoleg Pobl Ifanc ac rwyf wedi cael swyddi ar bwyllgorau niferus yn cynnwys y Pwyllgor Graddau Ymchwil a’r Pwyllgor Ymchwil. Bûm yn aelod o Bwyllgor Moeseg y Brifysgol (2016-2022) gan gyd-gadeirio’r Pwyllgor rhwng 2019 a 2022.
Diddordebau Academaidd
Ar hyn o bryd mae fy meysydd addysgu israddedig yn cynnwys seicoleg fiolegol, niwrowyddoniaeth, datblygiad a chyfnodau pontio pobl ifanc, seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff, seicoleg iechyd, seicoleg esblygiadol, seicoleg alwedigaethol, y cyfryngau a seicoleg defnyddwyr a seicoleg gymhwysol. Hefyd rwy’n cyfrannu at addysgu dulliau ymchwil (gan ganolbwyntio ar ddulliau ymchwil ansoddol).
Meysydd Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn eang ac yn cynnwys:
- Yr ymatebion emosiynol yn dilyn anafiadau mewn athletwyr lefel hamdden
- Mentrau iechyd cymunedol a hyfforddi a datblygu Mentoriaid Cymheiriaid ym maes iechyd
- Cymhwyso ymyriadau seicolegol yng nghyswllt salwch cronig
- Datblygu, profi dilysrwydd a chymhwyso holiaduron
- Iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig
- Rheoli emosiynau ac ymddygiad dryslyd
- Llif mewn lleoliadau seiliedig ar berfformiad.
Hefyd mae gennyf ddiddordeb ymchwil mewn addasiad gweithwyr mudol yng Nghymru ac yn 2012 sicrheais gyllid y Polisi Mewnwelediad Strategol i archwilio gwaith y Gymdeithas Gydfuddiannol Bwylaidd-Gymreig (PWMA) ac agweddau pobl mae’r PWMA yn eu gwasanaethu.
Arbenigedd
- Defnyddiwr Profion Cynorthwyol: Cymhwyster Galwedigaethol
- Defnyddiwr Profion: Cymhwyster Galwedigaethol, Gallu
- Defnyddiwr Profion: Cymhwyster Galwedigaethol, Personoliaeth
- Cofrestr Cymwysterau mewn Defnyddio Profion (RQTU)