Skip page header and navigation

Cefndir

Enillodd Yiying ei BSc mewn Athroniaeth, Rhesymeg a Dull Gwyddonol o Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, ac MA Addysg (Rhyngwladol) ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn ymgymryd â Gradd Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. 

Mae gan Yiying dros 10 mlynedd o brofiadau proffesiynol ac addysgu ym maes addysg ac ymgysylltu diwylliannol. Mae ei phrofiad diwydiant ym myd addysg a chyfathrebu rhyngddiwylliannol a diddordebau ymchwil yn helpu i lywio ei haddysgu ar draws y portffolios israddedig ac ôl-raddedig yn Athrofa Addysg a’r Dyniaethau. 

Pynciau Arbenigol

  • AI Cynhyrchiol (GAI) mewn Addysg Uwch
  • Dinasyddiaeth Fyd-eang a Chynaliadwyedd
  • Dulliau Ymchwil mewn Addysg
  • Dealltwriaeth Rhyngddiwylliannol (DU-Tsieina)
  • Daoaeth (Athroniaeth) a Llesiant Tsieineaidd

Profiad Proffesiynol a/neu Ymchwil

Mae gan Yiying dros 10 mlynedd o brofiad ym maes addysg ac ymgysylltu diwylliannol. Cyn gweithio yn y byd academaidd, roedd ei gyrfa wedi rhychwantu'r cyfryngau, addysg a rheoli diwylliannol, a ganolbwyntiodd ar gyfathrebu traws-ddiwylliannol ac arloesi addysgol.



Yn PCYDDS, mae Yiying yn cyd-reoli'r rhaglen MA Astudiaethau Addysg, yn ymwneud ag addysgu ac ymchwilio ar draws canolfannau o fewn yr Athrofa Addysg a'r Dyniaethau mewn meysydd astudiaethau addysg, athroniaeth addysg, moeseg addysgol, athroniaeth Daoaeth a llesiant Tsieineaidd. Mae hefyd yn gweithredu fel swyddog lles ar gyfer myfyrwyr ar y campws sy'n astudio'r Dyniaethau.

Mae diddordebau ymchwil cyfredol Yiying yn archwilio effeithiau trawsnewidiol AI Cynhyrchiol ar addysgu a dysgu mewn addysg uwch, yn ogystal â moeseg addysgol.

Cymwysterau

  • BSc (Anrh) Athroniaeth, Rhesymeg a Dull Gwyddonol, Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain
  • MA (Anrh) Addysg (Rhyngwladol), Prifysgol Caerfaddon

Ieithoedd a Siaradwyd

Tsieinëeg Mandarin
Saesneg
Siapaneaidd

Aelodaeth Broffesiynol neu Rôl

Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain, Aelod
Cymdeithas Astudiaethau Addysg Ryngwladol, Aelod
Cymdeithas Athroniaeth Addysg Prydain Fawr, Aelod of Education Society of Great Britain, Member
BAMEed Cymru, Aelod
Cymrawd LEAP yn PCYDDS