Profiad Steffan y yn PCYDDS
Profiad Steffan ar BEng Peirianneg Beiciau Modur
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae’r amrywiaeth o weithdai sydd ar gael i fyfyrwyr, o geir a beiciau modur i beiriannau, yn wych. Mae staff brwdfrydig a gwybodus wrth law bob amser i helpu gyda phrosiectau academaidd, yn ogystal â chynnig syniadau posibl ar gyfer prosiectau peirianneg personol.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
I fod yn rhan o weithgareddau allgyrsiol a oedd o fudd gweithredol i’m hastudiaethau, megis tîm rasio Team MCR. Rhoddodd brofiad o’r byd go iawn i mi mewn amgylchedd chwaraeon moduro a’r cyfle i gymhwyso theori a ddysgwyd mewn darlithoedd, gan weld yr effaith go iawn ar amseroedd lapiau a chanlyniadau rasys.O’r Diwrnodau Agored a’r Prosbectws, y brifysgol hon oedd yn cynnig y cydbwysedd gorau rhwng darlithoedd damcaniaethol a phrofiad ymarferol.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Saethu colomennod clai, sgïo, beicio.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut wnaethoch chi gyrraedd ble ydych chi nawr a sut mae eich cwrs wedi’ch helpu yn eich gyrfa?
Fy rôl gyntaf oedd fel Peiriannydd Iau yn M-Sport, lle gweithiais am tua phedair blynedd a hanner. Wedi hynny, des i’n beiriannydd rali / rasio llawrydd yn gweithio gyda gwahanol dimau a gweithgynhyrchwyr. Yn ystod 2022, cysylltodd Toyota Gazoo Racing World Rally Team â mi (y Pencampwyr Byd presennol) gan nodi bod ganddyn nhw brosiect newydd ar y gorwel ac yn gofyn a oedd gennyf ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm. Paciais gês a symud i ‘r Ffindir, ac rydw i yma o hyd 4 blynedd yn ddiweddarach.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?
Y berthynas rhwng y darlithwyr a’r myfyrwyr, yn ogystal â’r gallu i weithio ar geir rasio yn y gweithdy sy’n caniatáu cymhwyso theori i fywyd go iawn.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn yn argymell PCYDDS yn fawr - mae’r cyfuniad o gyfleusterau’r campws, gweithgareddau allgyrsiol a thimau rasio, ynghyd â’r berthynas gref rhwng darlithwyr a myfyrwyr, yn darparu profiad dysgu amhrisiadwy.Mae nid yn unig yn cyfoethogi’r hyn mae myfyrwyr yn ei ddysgu ond hefyd yn helpu i’w paratoi ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.