Skip page header and navigation

Tamzin Cooper - Peirianneg Chwaraeon Modur (BEng)

Profiad Tamzin y yn PCYDDS

Tamzin Cooper

Enw: Tamzin Cooper

Cwrs: BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro

Tref eich cartref: Sir Benfro, Cymru

Profiad Tamzin ar BEng Peirianneg Beiciau Modur

Garej mawr llawn golau gyda thri char rasio yn y blaendir ar wahanol gamau eu cydosod.

Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?

Y cyfleusterau! Y gweithdy, yr ystafell efelychu, yr ystafell gyfrifiaduron 24 awr, y llyfrgell ac ati. Roedd yn gwneud dysgu ac astudio mor hawdd ag y gall fod!

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Yn wreiddiol oherwydd doedd y lleoliad ddim yn rhy bell o fy nhref enedigol, ond pan ddes i i’r diwrnod agored, cefais fy mherswadio gan y cyfleusterau / cynnwys y cwrs a’r staff croesawgar. 

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Ymunais â’r tîm MCR Sports 2000 sy’n cael ei redeg gan y Brifysgol lle aethom i rasio ar draws sawl cylched yn y DU. Roedd y cyfle yn anhygoel, roedd cymhwyso’r hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth i brofiad ymarferol yn y byd go iawn yn amhrisiadwy. Ac fe roddodd gipolwg ar sut mae timau rasio yn gweithio a datblygu fy sgiliau gwaith tîm fel peiriannydd data lle’r oedd yn rhaid i mi gyfathrebu â’m cyd-beirianwyr, mecanyddion a gyrwyr. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?

Rwy’n gobeithio cwblhau fy ngradd meistr mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro, gan barhau â’m hangerdd am ddadansoddi data sydd wedi datblygu o’m cyfnod yn y Brifysgol hon a’m hamser ar y tîm rasio. 

Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?

Tîm MCR 100%, heb hwn, ni fyddai gennyf unrhyw brofiad peirianneg ymarferol. Ond nawr rydw i wedi cael y cyfle i gymhwyso fy sgiliau yn Silverstone, Brands Hatch, Donington ac ati. Mae’r rhain yn sgiliau y gallaf eu defnyddio ar fy CV ynghyd â fy ngradd.

Motorsport Management 4

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Yn sicr! Fel y soniais uchod, mae’r cyfleusterau a’r cyfleoedd sy’n dod gyda’r radd yn anhygoel. Ac mae’r dosbarthiadau llai yn bendant yn gadarnhaol, mae pob darlithydd yn eich nabod yn bersonol ac yn eich tywys trwy’r tair blynedd i gael y gorau o’ch amser yma. Heb gefnogaeth fy narlithwyr, dwi ddim yn credu y byddwn wedi cyflawni’r hyn a wnes i yn y radd hon, nhw a wnaeth fy mhrofiad yn y Brifysgol yn un arbennig.

Gwybodaeth Gysylltiedig