Profiad Brody yn PCYDDS
Profiad Brody ar BEng Peirianneg Beiciau Modur
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Yn wreiddiol, y gweithdai a’m perswadiodd i astudio yn PCYDDS ac mae’n ail gartref i mi erbyn hyn. Mae’r offer sydd gennym fynediad ato, ynghyd â’r staff a’u hymagwedd ddilys yn ei wneud yn amgylchedd llawn mwynhad, ac o ganlyniad mae llawer llai o straen wrth weithio am y gallwch siarad gyda’r darlithwyr a’r technegwyr unrhyw bryd.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Gwnaeth y wybodaeth a’r angerdd am feiciau modur a rasio oedd gan y staff yn y diwrnod agored i mi deimlo bod croeso i mi yno, ac rwy’n dal i gofio cerdded i mewn i’r gweithdy am y tro cyntaf i weld yr holl feiciau, peiriannau a phrosiectau oedd ar waith.
Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Tu allan i’m hastudiaethau, rwy’n gweithio mewn timau rasio cenedlaethol a rhyngwladol yn beiriannwr data. Ar wahân i hyn, rwy’n mwynhau archwilio ardaloedd cyfagos Abertawe, fel y traethau a chlogwyni o gwmpas y Gŵyr.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar ôl graddio, rwy’n gobeithio mynd ymlaen i weithio ym myd rasio fel peiriannydd, gan ddod yn arweinydd prosiect neu’n bennaeth criw. Yr ymdrech cyson i wneud i feiciau modur berfformio yw beth sy’n fy ysbrydoli, felly byddai gallu gwneud hynny bob dydd yn freuddwyd.
Beth oedd eich hoff beth am BEng Peirianneg Fodurol?
Rwyf wedi mwynhau bod yn rhan o’r tîm rasio beiciau modur yn fawr iawn, wedi helpu i’w sefydlu yn 2023. Roedd mynd trwy heriau rhedeg yr NSF250R gyda rhai o’m ffrindiau gorau yn y tîm yn arbennig ac fe ganiataodd i ni roi cynnig ar bethau newydd heb lawer o bwysau. Yn rhan o’m hastudiaethau, mae rhai o’n darlithoedd deinameg beiciau modur wedi bod yn agoriad llygad ac wedi ysbrydoli syniadau newydd ar gyfer fy mhrosiectau ac offer gwaith fy hun.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Buaswn yn argymell y cwrs hwn i unrhyw un sy’n angerddol am feiciau modur/chwaraeon moduro. Ar yr amod eich bod yn fodlon gweithio’n galed ar y gwaith cwrs, cewch eich gwobrwyo mewn profiadau, cyfleoedd a mwynhad trwy’r gweithdai a’r timau rasio.