Skip page header and navigation

Pensaernïaeth (Llawn amser) (BSc Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
128 o Bwyntiau UCAS

Mae penseiri’n arbenigwyr mewn dylunio adeiladau a lleoedd, gan greu’r lleoliad ar gyfer bywyd dynol. Eu sgil pennaf yw troi cysyniadau’n realiti. Maent yn gweithio gyda pheirianwyr, contractwyr ac ymarferwyr proffesiynol eraill i greu amgylcheddau cynaliadwy, dychmygus. Mae’r cwrs hwn yn ymgorffori ymagwedd newydd at addysg bensaernïol sydd wedi’i gwreiddio yn yr ardal leol ond sydd â phersbectif byd-eang.

Y cwrs yw’r cam cyntaf (rhan un) yn y broses tri cham i gymhwyso’n broffesiynol yn bensaer. Caiff ei ddilysu gan y Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) a’i ragbenodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Mae’r addysgu yn cynnal cydbwysedd rhwng agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar hyfforddiant pensaernïol. Mae pensaernïaeth yn ymwneud â bodloni anghenion pobl mewn ffyrdd sy’n parchu eu diwylliant ynghyd â datblygiadau technoleg a dylunio cyfoes.

Yn y stiwdio, rydym yn addysgu ystod eang o sgiliau: darlunio â llaw, arolygu, CAD a gwneud modelau. Rydym hefyd yn defnyddio staff rhan amser arbenigol i ddatblygu sgiliau penodol, fel CAD a chyfansoddiad graffig. Cewch eich annog i archwilio a datblygu dyluniad, yn gyntaf trwy weithio mewn grwpiau bach ac yn ail trwy ddatblygu eich dull unigol eich hun o ddylunio

Y cwrs yw’r cam cyntaf (Rhan Un) proses tri cham cymhwyso’n broffesiynol yn bensaer.  Caiff y cwrs ei ragnodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) ac mae’r Brifysgol yn ceisio cydnabyddiaeth i’r cwrs gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
K100
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
128 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Achrededig:
RIBA

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae gan y cwrs hwn ymagwedd ffres at addysg bensaernïol sydd wedi’i wreiddio yn ei ardal ond â safbwynt fyd-eang cyffredinol.
02
Mae ein gweithdai mawr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud elfennau adeilad maint llawn o bob graddfa a maint.
03
Mae ein haddysgu wedi’i seilio ar ymchwil mewn pynciau sy’n ymestyn ar draws ein portffolio, wedi’i gefnogi gan arbenigwyr allanol o’r ddinas, ardal ac ar draws y byd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs wedi’i anelu at y rheiny sy’n gobeithio dod yn bensaer cymwys, ond y mae hefyd yn ddewis da ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn pensaernïaeth a dylunio ac sy’n chwilio am raglen radd â sylfaen eang sy’n gallu arwain at ystod eang o gyfleoedd gwaith.

Mae’r rhaglen astudio’n canolbwyntio ar gyfres o brosiectau stiwdio dylunio sy’n dechrau yn yr wythnosau cyntaf drwy archwilio lle, ffurf, lliw a defnyddiau. Erbyn diwedd y blynyddoedd cynnar, mae myfyrwyr yn dylunio adeiladau a lleoedd bach ond cymhleth yn fanwl. Mae’r ail flwyddyn yn ffocysu ar syniadau o gartref a chymuned trwy ddylunio tai, fflatiau a chymunedau a’r adeiladau cyhoeddus sy’n cefnogi bywyd cymdeithasol.

Mae’r flwyddyn olaf yn cyflwyno’r myfyrwyr i adeiladau ar raddfa fwy a daw’r cwrs i’w anterth mewn dyluniad cynhwysfawr ar gyfer adeilad diwylliannol sylweddol mewn lleoliad go iawn.

Caiff y stiwdios dylunio craidd eu cefnogi gan gasgliad o fodylau cyd-destunol sy’n rhoi i fyfyrwyr gorff cynhwysfawr o wybodaeth berthnasol mewn tri maes: amgylchedd a thechnoleg (strwythurau, adeiladu a ffiseg adeiladu), hanes a damcaniaeth (trosolwg o hanes pensaernïol ac ysgrifennu damcaniaethol o feysydd cysylltiedig) a proffesiwn a busnes (cyfraith adeiladu sylfaenol, rheoli costau caffael adeiladau a rheolaeth busnes).

Yn y flwyddyn olaf, bydd pob myfyriwr yn ysgrifennu traethawd hir — astudiaeth ymchwil annibynnol — ar bwnc o’u dewis o fewn maes eang iawn pensaernïaeth.

Y cwrs yw’r cam cyntaf (Rhan Un) yn y broses dair cam i gymhwyso’n broffesiynol yn bensaer. Mae’r cwrs wedi’i ragnodi gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a’i achredu gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Stiwdio Pensaernïaeth 1A (Sgiliau Dylunio)

(20 credydau)

Technoleg a'r Amgylchedd 1

(20 credydau)

Y Byd Modern

(20 credydau)

Hanes a Theori 1

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 1B (Gofod a Ffurf)

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 1C (Strwythur a Deunyddiau)

(20 credydau)

Technoleg a'r Amgylchedd 2

(20 credydau)

Hanes a Theori 2

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 2A

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 2B

(20 credydau)

Proffesiwn a Busnes 1

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 2C

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 3B

(20 credydau)

Proffesiwn a Busnes 2

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 3A

(20 credydau)

Stiwdio Pensaernïaeth 3C

(20 credydau)

Traethawd Hir Pensaernïaeth

(40 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd angen 128 o bwyntiau Tariff UCAS o lefelau A neu eu cyfwerth.

  • Caiff gwaith prosiect dylunio ei asesu ar sail portffolio o waith sy’n cynnwys cyfres o aseiniadau a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn.

    Bydd y portffolio yn cynnwys darluniau, ffotograffau o fodelau ac adroddiadau ysgrifenedig â darluniau. Rhoddir adborth ar gynnydd myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn – fel arfer ar ffurf sylwadau llafar gan dîm o diwtoriaid wedi’i seilio ar gyflwyniadau myfyrwyr a’i asesu drwy adolygiad gan gyd-fyfyrwyr. Gwneir asesiad ffurfiannol ar ddiwedd pob prosiect – fel arfer ar ffurf marc dros dro, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymateb i adborth cyn cyflwyno’r portffolio pan gwneir yr asesiad terfynol (neu ‘grynodol’).

    Bydd asesiadau gwaith yn y modylau cyd-destunol ar ffurf ymarferion ymarferol yn ystod y flwyddyn, adroddiadau a thraethodau ac asesiadau dan gyfyngid amser ar ffurf profion ac arholiadau ffurfiol.

  • Ym mlwyddyn 1, ceir cyflwyniad i fedrau craidd dylunio mewn tri modiwl stiwdio craidd sy’n ffocysu ar: strwythurau a defnyddiau; lle a ffurf a sgiliau dylunio. Mae’r modylau cyd-destun paralel yn gosod sylfaeni’r corff o wybodaeth allweddol sydd ei hangen ar gyfer y dechnoleg adeiladu pensaer, dylunio amgylcheddol, hanes a theori pensaernïol. Caiff y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer rhaglenni AU eu cyflwyno yn y modwl Byd Modern. 

    Ym mlwyddyn 2 caiff y sgiliau a’r sail wybodaeth a gyflwynir ym mlwyddyn 1 eu datblygu ymhellach. Mae stiwdio ddylunio yn ymwneud ag adeiladau mwy cymhleth, grwpiau o adeiladau a/neu addasiadau i adeiladau presennol. Mae’r modwl technoleg ac amgylchedd yn ymdrin ag adeiladu adeiladau mwy a mwy cymhleth. Mae’r modwl hanes a damcaniaeth yn cynnwys dulliau ymchwil yn ogystal ag ymdrin â materion damcaniaethol uwch ac mae ei waith cwrs yn cynnwys cynnig ar gyfer y traethawd hir a fydd yn cael ei gwblhau yn y drydedd flwyddyn.

    Blwyddyn 3; mae’r modwl dylunio yn y flwyddyn olaf yn ymdrin ag adeiladau mwy a mwy cymhleth a daw i’w anterth mewn prosiect dylunio cynhwysfawr sy’n integreiddio holl agweddau ar y sgiliau a’r wybodaeth yr ymdrinnir â nhw ar y rhaglen. Bydd myfyrwyr yn cwblhau’r traethawd hir a bydd yr ail fodwl busnes a galwedigaeth yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu trosglwyddiad i fyd gwaith.  

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunydd ar gyfer modylau, fel y Prosiect Mawr, ond nid yw hyn yn ofynnol  ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol a gyflawnir.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gael ei rhagnodi/dilysu gan y Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB) a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA) yn rhan o gymhwyster Rhan Un mewn pensaernïaeth felly’r cyrchfan cyntaf mwyaf tebygol i raddedigion yw gwaith fel cynorthwyydd pensaernïol* mewn practis pensaernïol.

    Mae yna lawer o gyfleoedd gwaith posibl eraill gan gynnwys rhannau eraill o’r diwydiant adeiladu (contractwyr adeiladu ac is-adeiladwyr), y diwydiannau creadigol (cymhwyso darlunio cyfrifiadurol a sgiliau delweddu) a chynllunio neu ddylunio trefol.  

    Sgiliau graddedig a ddatblygir gan y rhaglen (wedi’i seilio ar y ‘rhinweddau graddedigion’ a amlinellir yn meini prawf RIBA/ARB ar gyfer dilysu/rhagnodi cymwysterau mewn pensaernïaeth a datganiad meincnod QAA ar gyfer pensaernïaeth.)                

    1. Y gallu i gynhyrchu cynigion dylunio gan ddefnyddio dealltwriaeth o gorff o wybodaeth, peth ohono ar ffiniau presennol arfer proffesiynol a disgyblaeth academaidd pensaernïaeth;
    2. Y gallu i gymhwyso ystod o ddulliau cyfathrebu a chyfryngau i gyflwyno cynigion dylunio presennol yn glir ac yn effeithiol;
    3. Dealltwriaeth o’r defnyddiau, prosesau a thechnegau amgen sy’n berthnasol i ddylunio pensaernïol ac adeiladu adeiladau;
    4. Y gallu i werthuso tystiolaeth, dadleuon a thybiaethau er mwyn gwneud a chyflwyno dyfarniadau cadarn o fwn trafodaeth strwythuredig yn ymwneud â diwylliant, damcaniaeth a dyluniad pensaernïol;
    5. Gwybodaeth o gyd-destun y diwydiant pensaer ac adeiladu a’r rhinweddau proffesiynol sydd eu hangen i wneud penderfyniadau mewn amgylchiadau cymhleth ac annaroganadwy.
    6. Y gallu i adnabod anghenion dysgu unigol a deall y cyfrifoldeb personol sydd ei angen am addysg broffesiynol bellach.

    (* y term ‘cynorthwyydd pensaernïol’ yw teitl swydd y rheiny sydd ar y llwybr i gymhwyster proffesiynol fel pensaer nes cwblhau Rhan Tri. Efallai na fydd termau fel ‘pensaer cynorthwyol’, ‘pensaer dan hyfforddiant’ neu ‘bensaer rhan 1’ eu defnyddio gan fod y teitl ‘pensaer’ wedi’i amddiffyn gan statud a chaiff ond ei ddefnyddio gan y rheiny sydd ar y Gofrestr Penseiri (ar wahân i dri eithriad  a nodir yn y Ddeddf Penseiri: ‘pensaer llyngesol’, ‘pensaer tirlun’ a ‘phensaer meysydd golff’).

Mwy o gyrsiau Peirianneg Sifil a Phensaernïaeth

Chwiliwch am gyrsiau