
Cyfleusterau Pensaernïaeth
Ein Cyfleusterau
Ein Cyfleusterau
Yn fyfyriwr pensaernïaeth, fe welwch fod ein cyfleusterau’n fwy na dim ond mannau dysgu – maent yn hybiau deinamig a ddyluniwyd i ysbrydoli a meithrin eich angerdd am ddylunio.
Mae gan ein stiwdios o’r radd flaenaf ddigon o le i arbrofi’n ymarferol a chynnal prosiectau cydweithredol, ac mae ein gweithdai gwneud pwrpasol yn cynnig mynediad i offer a thechnolegau blaengar er mwyn dod â’ch gweledigaethau’n fyw. Ag amrywiaeth gyfoethog o adnoddau, o feddalwedd modelu digidol 3D i offer drafftio traddodiadol, fe gewch eich cefnogi i archwilio dulliau dylunio amrywiol a gwthio ffiniau mynegiant pensaernïol. Dewch i ymuno â’n cymuned fywiog o ddarpar benseiri a dechrau ar daith yn archwilio, creu a thrawsnewid o fewn ein cyfleusterau eithriadol yn yr Ysgol Bensaernïaeth
Ein Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Pensaernïaeth arbenigol yn cynnwys:
Mae gan ein cyfleusterau pensaernïaeth ddwy stiwdio bwrpasol sy’n cynnwys offer darlunio traddodiadol ac offer arolygu, yn ogystal â chyfleusterau darlunio symudol sydd â gweithleoedd cyfrifiadur CAD. Rydym yn cynnig nifer o blotwyr fformat mawr pwrpasol ac ystafell olau ar gyfer ffotograffiaeth modelau.
Mae gan y ddwy stiwdio gyfleusterau storio modelau a loceri ar gyfer myfyrwyr, ynghyd â mannau ‘pin-up’ yn y stiwdio ac ardal oriel adeilad IQ



Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC)
Mae gan fyfyrwyr Pensaernïaeth fynediad hefyd i’r gweithdai yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) ar gyfer gwneud modeli fformat mawr, torri â laser, peiriant CNC ac argraffwyr 3D. Ymhlith yr adnoddau technegol eraill, mae’r mynediad hefyd yn cynnwys mynediad i ddronau perfformiad uchel a thechnoleg thermograffig.



Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws

Bywyd Campws Abertawe
Archwiliwch y cyfleusterau trawiadol sydd ar gampysau Abertawe, sy’n cynnig profiad myfyrwyr deinamig. Mae’r campysau yn cynnwys labordai blaengar, gweithdai celf a dylunio arbenigol, a mannau addysgu arloesol. Mae’r llyfrgelloedd cynhwysfawr yn llawn casgliadau digidol a chorfforol helaeth. Mae myfyrwyr yn elwa o feysydd pwrpasol ar gyfer celf, peirianneg, adeiladu a labordai seicoleg. Mae’r ystafelloedd trochi, sydd ar gael i bob myfyriwr gan gynnwys rhai Plismona, yn darparu profiadau dysgu unigryw. Yn ogystal, mae mannau cymdeithasol bywiog, caffis, a hwb Undeb y Myfyrwyr gweithredol yn meithrin awyrgylch cymunedol bywiog ar gyfer datblygiad academaidd a phersonol.