Archwilio Dyfodol Addysg Bensaernïol Trwy Arloesi HBIM
Mae Brandon Roberts, Arddangosydd Technegol mewn Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), yn helpu i lunio sgyrsiau am sut mae sgiliau digidol yn trawsnewid addysg bensaernïol.
Cyflwynodd Brandon ei anerchiad, “Dysgu HBIM - Ychwanegiad Angenrheidiol at Addysg Bensaernïol?,” yng Nghynhadledd Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yng Nghaerlŷr, sy’n dod ag arbenigwyr, penseiri a dylunwyr at ei gilydd. Roedd ei gyflwyniad yn seiliedig ar brosiect arloesol yn PCYDDS i greu model digidol manwl, neu “gefell digidol,” o adeilad hanesyddol Dewi Sant y Brifysgol.
Mae HBIM (Modelu Gwybodaeth Adeiladu Treftadaeth) yn ddefnydd arbenigol sy’n canolbwyntio ar strwythurau presennol a hanesyddol, yn hytrach na phrosiectau adeiladu newydd. Yn ei anerchiad, disgrifiodd Brandon HBIM yn “llyfrgell lle gellir disgrifio pob manylyn am y ffurf adeiledig bresennol.” Yn ymarferol, mae hyn yn golygu creu gefell digidol cynhwysfawr sy’n casglu popeth o ffabrig ffisegol yr adeilad, gan gynnwys waliau a nodweddion pensaernïol cymhleth, i wybodaeth dechnegol fanwl megis adroddiadau cyflwr ac oedran a pherfformiad elfennau unigol, gan gynnwys ffenestri a gosodiadau.
Dyluniwyd Adeilad Dewi Sant rhwng 1822 a 1827 gan y pensaer enwog Charles Robert Cockerell mewn arddull Gothig Tuduraidd syml.
Dan arweinyddiaeth dechnegol Brandon, nod y prosiect oedd creu fersiwn ddigidol gywir o’r adeilad i gynorthwyo tîm ystadau PCYDDS gyda chynnal a chadw a chynllunio yn y dyfodol. Mae’r model yn caniatáu i nodweddion adeiladu, megis goleuadau ac elfennau allweddol eraill, gael eu mapio a’u cofnodi’n glir, gan helpu’r Brifysgol i ofalu am yr adeilad yn fwy effeithlon a chynaliadwy.
Gan ddefnyddio sganiwr Leica RTC360, cofnododd Brandon a’r tîm filiynau o fesuriadau o’r adeilad. Datblygwyd y data hwn yn fodel 3D sy’n gweithio gan ddefnyddio Autodesk Revit a’i gyflwyno wedyn i Twinmotion, gan ganiatáu iddo gael ei archwilio mewn Realiti Rhithwir.
Un prif ffocws yn anerchiad Brandon oedd gwerth cynnwys myfyrwyr yn uniongyrchol yn y prosiect. Trwy weithio ar adeilad hanesyddol, enillodd myfyrwyr brofiad ymarferol mewn arolygu digidol, modelu 3D a deall sut y gellir cynnal ac addasu adeiladau hŷn ar gyfer y dyfodol.
Yn hytrach na dysgu ar lawr dosbarth yn unig, gallai myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau mewn amgylchedd byw, gan eu paratoi nhw ar gyfer proffesiwn sy’n fwyfwy dibynnol ar offer digidol a dulliau mwy cynaliadwy o reoli adeiladau.
Pwysleisiodd Brandon fod gweithio gydag adeiladau presennol yn arbennig o bwysig, gan fod llawer o ddyfodol y diwydiant adeiladu yn ymwneud â gwella ac addasu’r hyn sy’n bodoli eisoes yn hytrach nag adeiladu o’r newydd.
Meddai: “Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor bwerus y gall hi fod pan fydd addysg ac ymarfer yn y byd go iawn yn dod at ei gilydd. Trwy greu model digidol o’r adeilad, rydyn ni nid yn unig yn helpu’r Brifysgol i ofalu am ran bwysig o’i hanes, ond rydyn ni hefyd yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr gyda’r offer a’r ffyrdd o feddwl sy’n llunio dyfodol pensaernïaeth.
“Nid bonws yw sgiliau digidol yn ein diwydiant ni erbyn hyn, maen nhw’n hanfodol. Mae rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio ar brosiect treftadaeth fyw yn eu helpu nhw i ddeall y cyfrifoldeb o ofalu am adeiladau hanesyddol a’r rôl y gall technoleg ei chwarae wrth wneud y broses honno’n glyfrach ac yn fwy cynaliadwy.”
Trwy ei waith, mae Brandon Roberts yn helpu i sicrhau bod myfyrwyr pensaernïaeth PCYDDS yn graddio gyda’r sgiliau ymarferol, yr hyder a’r meddylfryd blaengar sydd eu hangen ar gyfer sector amgylchedd adeiledig sy’n prysur newid.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071