Cyflwyniad
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau proffesiynol ar iaith a diwylliant Tsieina i athrawon mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Mae ein cyrsiau ar gyfer athrawon yn seiliedig ar themâu a dulliau’r Cwricwlwm i Gymru newydd ac yn darparu’r holl adnoddau sydd eu hangen ar athrawon i gyflwyno pynciau cyffrous diwylliant Tsieina yn eu dosbarth.
Rydym hefyd yn trefnu diwrnodau blasu, arddangosiadau addysgu a gweithdai i ysgolion yn ogystal â chyrsiau mwy cyffredinol i oedolion.
Ein Cyrsiau
Yn gwasanaethu cadarnleoedd Cymru ledled Ceredigion, Sir Benfro, De Powys, a Morgannwg, Athrofa Confucius yw’r drws i Tsieina i fyfyrwyr, cymunedau a busnesau. Ein nod yw galluogi cyfnewid diwylliannol â Tsieina a darparu cyfleoedd ar gyfer astudio, ymchwil a chydweithrediad busnes
Prawf Hyfedredd Iaith Tsieinëeg HSK
Gallwch sefyll prawf hyfedredd HSK dewisol ar ddiwedd pob cwrs. Mae hon yn dystysgrif sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac mae pob cyflogwr a phrifysgol Tsieineaidd yn cydnabod ei gwerth.
Os ydych chi eisoes wedi astudio Tsieinëeg ac eisiau paratoi ar gyfer y prawf HSK, rydym yn cynnig cyrsiau byr, dwys o ffug arholiadau ac adolygu gramadeg. I gofrestru ar gyfer y prawf HSK, dilynwch y ddolen i’r Ganolfan Brofion HSK.
Cofrestru a thalu
Dilynwch y ddolen i siop ar-lein PCYDDS i ddewis y cwrs rydych chi am ei ddilyn a thalu ar-lein. Mae talu ar-lein gyfystyr â chofrestru, a byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau manylion tiwtor eich cwrs a’ch ystafell ddosbarth.