Skip page header and navigation

David Jones - Gwyddor Cyfrifiaduron (BSc Anrh)

Profiad Daniel yn PCYDDS

David Jones

Enw: David Jones

Cwrs: Gwyddor Cyfrifiaduron (BSc Anrh) 

Cwestiwn: Rôl gyfredol:  Prif Ymgynghorydd (canolbwyntio ar Drawsnewid ac Arloesi) 

Tref eich cartref: Glyn-nedd 

Profiad David

Prif gyntedd adeilad IQ; mae rhes o risiau yn arwain at oriel ar y llawr cyntaf; gellir gweld dwy oriel arall ar y lloriau uchaf; ar y llawr gwaelod mae myfyrwyr yn eistedd wrth gadeiriau a byrddau gan ddefnyddio cyfrifiaduron a gliniaduron.

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Fy hoff ran am gampws Abertawe oedd yr amgylchedd dysgu clos a chefnogol. Roedd yn ddigon fawr i ddarparu cyfleusterau a chyfleoedd rhagorol, ond yn ddigon fach bod y darlithwyr yn eich adnabod yn bersonol ac wedi buddsoddi yn eich llwyddiant.  Roedd y campws wedi creu synnwyr cryf o gymuned, gan ei wneud hi’n hawdd adeiladu cyfeillgarwch, cydweithio ag eraill, a chael mynediad at gymorth pryd bynnag y bo angen. Roedd hi bob amser yn teimlo fe lle lle’r oedd myfyrwyr yn cael eu hannog i ddysgu, tyfu a llwyddo. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Dewisais i Sefydliad Addysg Uwch Abertawe (Prifysgol Fetropolitan) gan ei fod yn cynnig ymagwedd ymarferol i gyfrifiadura a thechnoleg wedi’i ffocysu ar ddiwydiant. Cyfunodd y cyrsiau ddysgu academaidd â chymhwysiad yn y byd go iawn, a apeliodd ataf fel rhywun a oedd eisiau adeiladu gyrfa mewn technoleg yn hytrach na dim ond ei astudio. Roedd y campws hygyrch, y darlithwyr cefnogol, a’r enw da am gynhyrchu graddedigion cyflogadwy yn golygu mai Abertawe oedd y dewis cywir i mi.  

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Y tu allan i’m hastudiaethau, fe wnes i fwynhau cadw’n actif a threulio amser yn yr awyr agored. Mae diddordeb cryf gen i mewn ffitrwydd a chrefftau ymladd wedi bod erioed, ar ôl bod yn hyfforddwr Karate ers blynyddoedd lawer. Yn ogystal, rwy’n mwynhau cerdded, archwilio llefydd newydd, dysgu am wyddoniaeth, technoleg a’r byd naturiol. Mae’r diddordebau hyn wedi fy helpu i gynnal cydbwysedd iach ochr yn ochr â’m gwaith academaidd ac yn parhau i fod yn rhan bwysig o’m bywyd heddiw. Mae’r awyr agored yn bwysig iawn i mi o hyd, a dw i bellach yn sgïo’n rheolaidd ac yn cerdded y mynyddoedd gyda’m ci defaid Almaenig. 

Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut wnaethoch chi gyrraedd ble ydych chi nawr a sut mae eich cwrs wedi’ch helpu yn eich gyrfa? 

Heddiw, rwy’n gweithio fel Ymgynghorydd Trawsnewid Digidol gyda Fujitsu, gan helpu sefydliadau i foderneiddio gwasanaethau, mabwysiadu technolegau sy’n dod i’r amlwg, gwella profiad y cwsmer, a chofleidio dulliau arloesi. Mae fy ngyrfa wedi datblygu trwy amrywiaeth o rolau technegol, gweithredol, ac ymgynghorol ar draws Fujitsu, DVLa, Alert Logic, Rackspace, ac yn ôl i Fujitsu. Roedd fy ngradd wedi darparu’r sylfeini technegol a’m galluogodd i ddechrau fy ngyrfa mewn TG, ond yn ogystal, dysgodd i mi sut i ddadansoddi problemau, meddwl yn feirniadol, cyfathrebu’n effeithiol a dysgu yn barhaus. Mae’r sgiliau hyn wedi bod yr un mor bwysig â’r wybodaeth dechnolegol ei hun. Trwy gydol fy ngyrfa, mae’r gallu i ddeall technoleg a chanlyniadau busnes wedi fy helpu i symud o rolau technolegol arbenigol i arweinyddiaeth, ymgynghori, arloesi, a thrawsnewid digidol. 

Beth oedd eich hoff beth am eich cwrs? 

Yr hyn roeddwn i’n ei fwynhau fwyaf oedd y cydbwysedd rhwng theori a chymhwysiad ymarferol. Nid oedd y cwrs yn addysgu technoleg yn unig; dysgodd sut mae technoleg yn datrys problemau yn y byd go iawn. Roedd y modylau rhwydweithio a thechnegol wedi darparu sylfaen gref, tra bod gwaith prosiect wedi annog datrys problemau, gwaith tîm a meddwl annibynnol. Wrth edych yn ôl, mae llawer o’r sgiliau rwy’n eu defnyddio bob dydd yn fy ngwaith ymgynghorol, megis dadansoddi, cyfathrebu, a datrys problemau strwythuredig, wedi deillio o’m hastudiaethau.

David Jones 3

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Yn bendant. Mae PCYDDS yn darparu amgylchedd cefnogol lle mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol. Mae’r darlithwyr wir yn poeni am lwyddiant myfyrwyr, ac mae’r cyrsiau wedi’u dylunio er mwyn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer gyrfaoedd go iawn yn hytrach na chyflawniad academaidd yn unig. Mae’r sgiliau, yr hyder, a’r cyfleoedd a gefais yn ystod fy amser yno wedi helpu i sefydlu sylfaeni gyrfa sydd bellach wedi rhychwantu mwy na dau ddegawd, ar draws Rheoli Gweithrediadau, Rheoli Menter, Rheoli Cyfrifon, technoleg a thrawsnewid digidol. 

Gwybodaeth Gysylltiedig