Ellie yn PCYDDS
Profiad Ellie
Beth oedd eich hoff beth am gampws Caerfyrddin?
Wrth gwrs, roeddwn i wrth fy modd â’r gweithdy. Treuliais lawer o amser yno, yn ogystal â’n hystafelloedd dylunio dynodedig. Fe wnes i fwynhau gwneud y gofod yn lle arbennig i mi fy hun a chael lle i fod yn greadigol. Nid oedd yr offer a’r deunyddiau byth yn brin. Gallwn (ac fe wnes i) dreulio oriau, wedi fy ngorchuddio â phaent, yn gweithio’n galed gyda fy nghyd-fyfyrwyr mewn gofod a roddodd lawer o ryddid i ni weithio wrth ein pwysau ac yn ein ffordd ein hunain.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Ar y cychwyn roeddwn i’n anghyfarwydd iawn â’r broses gynhyrchu, a doeddwn i ddim yn gwybod pa rôl fyddwn i’n ei hoffi orau, neu a fyddai’n gweddu orau i mi. Rhoddodd fy nghwrs gyfle i mi roi cynnig ar bob agwedd ar gynhyrchu a darganfod drosof fy hun pa rôl neu rolau roeddwn i eisiau eu dilyn. Roedd hyn yn bwynt gwerthu go iawn i mi. Hefyd, rhoddodd drosolwg mor eang i mi o sut y mae pob adran yn dod at ei gilydd ar brosiect. Roedd y dosbarthiadau’n llai nag mewn prifysgolion eraill, a olygodd bod y gefnogaeth yn ardderchog, ac roedd adborth wir wedi’i deilwra i’r unigolyn, a doeddech chi byth yn teimlo eich bod chi’n cael eich anwybyddu yn eich astudiaethau. Roedd yn teimlo fel eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi fel unigolyn creadigol.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Trwy fod yng Nghaerfyrddin cefais fynediad at rai cysylltiadau a wnaeth fy ngalluogi i gael profiad gwaith yn ystod fy astudiaethau. Cefais waith Rheoli Llwyfan ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf, ac yn yr ail flwyddyn roeddwn i’n Ddirprwy Reolwr Llwyfan yn Theatr y Lyric yn y dref, a roddodd gyfle arall i mi yn yr un rôl yn ddiweddarach y flwyddyn honno.Roedd y ddau yn gyfleoedd anhygoel.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Ar hyn o bryd rwy ar daith fel Technegydd Llwyfan gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Dyma fy ail dymor gyda’r WNO.Mae fy nhîm a minnau yn gyfrifol am fynd â sawl sioe ar raddfa fawr ledled y DU bob tymor, gan osod a thynnu’r set, y goleuadau, y sain ac ati ym mhob lleoliad. Rydym yn gosod y setiau ar bob llwyfan, yn gwneud newidiadau golygfa, ac yn newid y setiau drosodd ar ddiwedd y sioe. Mae’n llawer o waith ac yn llawer o hwyl. Mae fy nhîm yn wych ac mae’n hyfryd cael teithio gyda’r cwmni!
Rhoddodd fy nghwrs brofiad mor realistig i mi o broses gynhyrchu nes fy mod yn gwybod yn union beth sydd angen i mi ei gyfrannu a sut y bydd yn effeithio ar bawb o’m cwmpas. Rwy’n gwybod fy nghryfderau a’m gwendidau ac rwy’n defnyddio hynny i gydweddu â’m tîm yn dda, a helpu adrannau eraill pan allaf weld tasg rwy’n gwybod fy mod i’n gallu ei wneud. Mae digon i’w ddysgu o hyd; mae’n siŵr fy mod i’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd, ond dyna beth rwy’n ei garu am fy swydd.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Er cymaint y gwnes i fwynhau paratoi ar gyfer prosiectau mor fawr, roedd y Prif Gynyrchiadau a’r cynyrchiadau Stiwdio yn fy nhrydedd flwyddyn yn brofiad mor anhygoel. Daeth fy nosbarth at ei gilydd i ffurfio cwmni, a buom yn gweithio ochr yn ochr â’r myfyrwyr actio i lwyfannu sioeau go iawn. Roedd yn wych cael dangos yr hyn yr oeddem wedi’i ddysgu a’r sgiliau yr oeddem wedi’u hennill trwy ein hastudiaethau. I mi, mae gweld fy nyluniadau yn dod yn fyw ar lwyfan am y tro cyntaf yn rhywbeth y byddaf yn ei gofio am amser maith. Cawsom ddigon o arweiniad ond ymddiriedwyd cyfrifoldeb ynom hefyd ac fe ddes i allan o’r ddwy sioe yn teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth mawr.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Yn bendant, ac rwy wedi gwneud hynny. Cefais amser gwych yn PCYDDS a gwnaf i byth ei anghofio. Mae’n brofiad hyfryd cael eich amgylchynu gan bobl sydd eisiau i chi lwyddo, ac sy’n gwybod y byddwch yn gwneud hynny. Rwy wedi gwneud ffrindiau am oes, ac wedi adeiladu cymuned anhygoel o bobl greadigol wych.
Wrth i ni edrych ymlaen at Sioeau Gradd yr Haf yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae'r cyffro’n cynyddu ar gyfer agoriad yr arddangosfa BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau ar 15 Mai yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae'r dathliadau eleni yn arbennig o arwyddocaol, wrth i’r cwrs nodi 25 mlynedd o feithrin talent greadigol a llunio'r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr.
I ddathlu, rydym yn tynnu sylw at Ella Routledge, a raddiodd yn ddiweddar, y mae eu taith o fod yn fyfyriwr i Dechnegydd Llwyfan teithiol gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn adlewyrchu ehangder y cyfleoedd y gall y cwrs eu datgloi.