Eva yn PCYDDS
Enw: Eva Kingston-Gharaati
Cwrs: BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Astudiaethau Blaenorol: Celf a Dylunio Ysgol Olchfa Safon Uwch Sylfaen Celf a Dylunio Llwyn y Bryn
Tref eich cartref: Abertawe
Profiad Eva ar BA mewn Patrwm Arwyneb a Thecstilau
Beth oedd eich hoff beth am gampws Abertawe?
Mae ystod eang o gyfleusterau rydyn ni wedi cael ein hyfforddi i’w defnyddio’n annibynnol, gan roi rhyddid i ni dros ein gwaith dylunio. Mae’r holl ddarlithoedd yn hynod ddefnyddiol, ac yn wybodus yn eu priod feysydd, gan ei gwneud hi’n haws i mi ddod o hyd i syniadau unigryw gyda’u harweiniad.
Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?
Dewisais i PCYDDS fel yr argymhellwyd i mi yn yr ysgol, yn benodol y cwrs patrymau arwyneb. Ar ôl ymweld â noson agored, gwelais i pa mor frwdfrydig oedd y darlithwyr am yr hyn maen nhw’n ei ddysgu, ac fe’m gwnaeth i’n gyffrous am gyfleoedd yn y dyfodol i greu darnau newydd. Yn ystod fy mlwyddyn sylfaen, ces i gyfle i weithio yn PCYDDS ar gyfer y gystadleuaeth sgiliau patrymau arwyneb, ac ar ôl profi’r cyfleusterau helaeth oedd gan y stiwdio i’w gynnig yn uniongyrchol, cadarnhaodd fy mhenderfyniad mai hwn oedd y lle cywir i mi.
Beth y gwnaethoch chi fwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?
Y tu allan i’m hastudiaethau, mae gen i swydd ran-amser mewn becws teuluol lleol. Rydw i wedi cael y swydd hon ers i mi fod yn 16 oed, ac rwy’n caru’r awyrgylch cyfeillgar ac yn adeiladu perthnasoedd â’m cwsmeriaid rheolaidd. Rwyf hefyd wrth fy modd yn hyrwyddo fy sgiliau celf; er nad yw’n rhan o’m cwrs celf presennol, bu gen i ddiddordeb erioed mewn portreadau a darlunio bywyd, felly rwy’n bwriadu arbrofi mwy gyda’r sgiliau hyn yn fy amser rhydd.
Beth ydych chi’n ei wneud nawr, sut y gwnaethoch chi gyrraedd y fan honno ac a yw eich cwrs wedi eich helpu gyda’ch gyrfa?
Er nad oes gen i union gynllun ar ôl graddio, ar ôl gweithio gyda gwahanol friffiau o fewn y cwrs patrymau arwyneb rwy’n gwybod y byddwn i’n hoffi gweithio o dan arweiniad brand yn hytrach nag yn annibynnol. Rwy’n mwynhau agor briff sydd â set themâu penodol, wrth i mi gael arbrofi gyda fy arddull fy hun o fewn y thema. Fe wnes i ddarganfod fy mod i wedi mwynhau hyn pan wnes i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Sgiliau patrymau arwyneb, cawsom ni’r thema ‘Diwylliant’, ac roeddwn i’n gallu ychwanegu fy arddull fy hun i gyd-fynd â’m syniadau.
Beth oedd eich hoff beth am y cwrs?
Fy hoff beth am y cwrs yw’r briffiau rydyn ni’n eu derbyn nhw, maen nhw’n eang iawn felly rydyn ni’n rhydd i arbrofi, ond maen nhw hefyd yn ddigon penodol lle mae’n rhaid i mi ymchwilio i artistiaid a dylunwyr, sy’n ehangu fy ngwybodaeth am ddylunwyr ledled y byd.
A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?
Byddwn i’n argymell PCYDDS, gan ei fod yn amgylchedd croesawgar iawn, mae’r holl ddarlithwyr yn wybodus am eu meysydd nhw, ac mae amrywiaeth eang o gyfleusterau a lle stiwdio y gellir eu defnyddio yn rhad ac am ddim.