Cadwch le ar Ddiwrnod Agored

Eich Stori Chi
Mae gennym ni 20 maes pwnc i chi ddewis ohonynt. O fewn pob un, mae ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli. Mae’n bryd cydio yn eich dyfodol a throi eich uchelgais yn realiti.
Rydym yn cynnig profiad personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd ysbrydoledig, gyda digon o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan. Bydd hyn yn golygu bod digon o amser i drafod a bod gennych well dealltwriaeth o’ch pwnc. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr a fydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
1af
yng Nghymru ac 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr
(Times and Sunday Times 2025)
More to Explore

Wedi Cael Eich Canlyniadau
Os ydych chi wedi cael eich canlyniadau yn barod, gallwch ffonio ein tîm Derbyn sy’n barod i helpu er mwyn gwneud eich cais heddiw.
Ein Cyrsiau Clirio
Archwiliwch ein cyrsiau Clirio, ar ein chwiliwr cyrsiau, i ddod o hyd i gwrs eich gyrfa a dysgu rhagor am astudio gyda ni.
Sicrwydd o Lety yng Nghaerfyrddin
Sicrwydd o lety myfyrwyr yng Nghaerfyrddin i fyfyrwyr sy’n gwneud cais drwy glirio.
Cyrsiau yng Nghaerfyrddin sydd ar gael drwy Glirio.
