Penodi arweinydd iechyd meddwl yn Athro Ymarfer er Anrhydedd
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi penodi Helen Wadley, Prif Swyddog Gweithredol Birmingham Mind, yn Athro Ymarfer er Anrhydedd.
Mae’r penodiad yn adlewyrchu’r bartneriaeth gynyddol a phwrpasol rhwng campws Birmingham y Brifysgol a Birmingham Mind sy’n deillio o’r cyd- ymrwymiad i gryfhau canlyniadau iechyd ac addysgol pobl a chymunedau ledled Birmingham. Mae’n garreg filltir bwysig wrth ddyfnhau cydweithredu rhwng addysg a’r sector gwirfoddol, gan helpu i yrru newid ystyrlon mewn iechyd meddwl a lles ledled y rhanbarth.
Dyfernir y teitl ‘Athro Ymarfer’ i gydnabod rhagoriaeth academaidd a phroffesiynol unigolyn mewn meysydd sy’n cyd-fynd â bwriadau strategol y brifysgol.
Bydd y cydweithrediad rhwng y Brifysgol a Birmingham Mind yn creu cyfleoedd newydd i gysylltu ymchwil academaidd, profiad byw ac ymarfer rheng flaen drwy:
- gydweithio cryfach rhwng y sector gwirfoddol a chymunedol a’r byd academaidd
- ddatblygu arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol
- ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
- ymhelaethu ar brofiad byw o fewn dysgu, ymchwil a dylunio gwasanaethau.
Mynegodd Dr John Deane, Deon Campws Birmingham y Brifysgol ei falchder o gael Helen Wadley yn Athro Ymarfer Anrhydeddus. Dywedodd: ‘Mae’r Athro Wadley yn dod â chyfoeth o brofiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol a fydd o fudd mawr i’n myfyrwyr a’n staff ar sawl lefel, gan gynnwys datblygu cyfleoedd cyflogadwyedd, adeiladu rhwydweithiau a datblygu prosiectau byw.”
Ychwanegodd yr Athro Helen Wadley:
“Rwy’n gyffrous iawn am y cyfleoedd y mae hyn yn eu creu, nid yn unig i mi yn bersonol, ond i Birmingham Mind, ein partneriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Mae’n gam arall i sicrhau bod arbenigedd ac effaith y sector gwirfoddol a chymunedol yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a’i ymgorffori yn y ffordd yr ydym yn llunio dyfodol iachach.”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790