Skip page header and navigation

Mark Marosan - Pensaernïaeth (BSc Anrh)

Profiad Mark yn PCYDDS

Arch 7

Enw: Mark Marosan

Cwrs: BSc Pensaernïaeth

Tref eich cartref: Stratford-Upon-Avon

Profiad Mark ar BSc Pensaernïaeth

Mark Marosan 2

Beth yw eich hoff beth am gampws Abertawe?

Mae’n agos at ganol y ddinas a’r glannau, mae popeth o fewn pellter cerdded i’r campws, gan ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cymdeithasu ac ymlacio ar ôl diwrnod hir o astudio yn y Llyfrgell neu’r Stiwdio. 

Pam y gwnaethoch chi ddewis PCYDDS?

Roedd PCYDDS yn un o’r opsiynau ar fy rhestr fer ac roedd ffrindiau gen i yn lleol a oedd wedi siarad yn gadarnhaol am yr ardal. Felly cysylltais â PCYDDS a throsglwyddais i’r cwrs.  Roedd y dull addysgu a’r bobl ar y cwrs wedi’i wneud yn brofiad gwych.  

Beth ydych chi’n mwynhau ei wneud tu allan i’ch astudiaethau?

Ar wahân i’r llwyth gwaith hynod heriol a oedd yn ofynnol ar gyfer y cwrs hwn a oedd rhywsut yn dal i fod yn hwyl, llwyddais neilltuo amser ar gyfer gwneud y pethau roeddwn i’n eu hoffi gyda’r bobl anhygoel ar fy nghwrs. Roedd y rhain yn cynnwys mynd am dro i wahanol lefydd, bwyta allan, gwylio ffilmiau a mynychu gigiau. 

Beth ydych chi’n gobeithio gwneud pan fyddwch yn graddio?

Yn y tymor byr, rwy’n bwriadu ymlacio, cynilo a theithio.  Ar ôl amser i ffwrdd i ymlacio, hoffwn ddilyn fy ngyrfa trwy ennill sgiliau gan weithio i bractis a gobeithio bydd hyn yn arwain at gymhwyster Rhan 2. 

Beth yw eich hoff beth am y cwrs? 

Y cydweithio a’r cymorth gan ddarlithwyr a fy nghyfoedion ar y cwrs.  Wedi trosglwyddo o brifysgol wahanol, roedd hyn yn newid i’w groesawu nad oeddwn i wedi’i brofi o’r blaen.  Roedd y cyfuniad o gystadleuaeth gyfeillgar a chefnogaeth gan fy nghyfoedion wedi creu amgylchedd a oedd wedi fy annog i wneud fy ngorau, ochr yn ochr â dysgu sgiliau newydd gan bawb.  Allwn i ddim fod wedi gofyn am grŵp gwell o bobl i dreulio amser yn eu cwmni wrth astudio yn PCYDDS. 

Arch award

A fyddech chi’n argymell PCYDDS a pham?

Mae’r darlithwyr yn angerddol am y cwrs, ac yn wahanol i fy mhrofiadau yn y gorffennol, maen nhw’n mynd y tu hwnt i’r gofyn gan baratoi myfyrwyr gyda sgiliau bywyd sy’n bwysig Yn ogystal, nid ydynt yn cyfyngu’r dysgu i sgiliau dylunio yn unig, ond maent yn archwilio’r ochr dechnegol a busnes hefyd.  Mae cyfathrebu’n allweddol, ac roedd digon o hyn ar y cwrs, gyda’r darlithwyr bob amser yn hapus i helpu, hyd yn oed ar ddiwrnodau y tu allan i’r stiwdio. 

Gwybodaeth Gysylltiedig