Academi Chwaraeon PCYDDS yn Rhoi Profiad o’r Byd Diwydiant Go Iawn i Fyfyrwyr
Mae Academi Chwaraeon Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) unwaith eto wedi darparu profiad ymarferol amhrisiadwy i fyfyrwyr israddedig drwy ei rhaglen Staff Cymorth sy’n Fyfyrwyr, gan helpu i baratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr chwaraeon proffesiynol ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus.
Mae’r rhaglen yn galluogi myfyrwyr sy’n astudio ar draws ystod o raglenni gradd yn gysylltiedig â chwaraeon, gan gynnwys Hyfforddi Chwaraeon, Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, ac Addysg Gorfforol, i weithio’n uniongyrchol gydag athletwyr fyfyrwyr a thimau chwaraeon PCYDDS drwy gydol y flwyddyn academaidd.
Mae staff cymorth sy’n fyfyrwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o rolau arbenigol, gan gynnwys dadansoddi chwaraeon, hyfforddi, therapi chwaraeon, a chryfder a chyflyru. Gan weithio ochr yn ochr â thimau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd PCYDDS, yn ogystal ag athletwyr unigol, mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol mewn amgylcheddau chwaraeon go iawn wrth wneud cyfraniad sylweddol at lwyddiant a llesiant athletwyr y Brifysgol.
Cydnabuwyd pwysigrwydd y rhaglen yng Ngwobrau Academi Chwaraeon blynyddol PCYDDS, lle derbyniodd Cynyr Llywelyn-Jones y Wobr Cyfraniad Eithriadol. Yn fyfyriwr Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 5, gweithiodd Cynyr yn agos gyda thîm rygbi’r Brifysgol, gan ddarparu gofal meddygol hanfodol ar ddiwrnod gêm a darparu triniaeth i chwaraewyr drwy glinigau dan arweiniad myfyrwyr y Brifysgol.
Gwnaeth llawer o fyfyrwyr eraill gyfraniadau gwerthfawr trwy gydol y flwyddyn. Bu Iestyn Wood, Naomi Eynon, Finley Jones, Sam Holland, Sophie France, a Lauren Evans, pob un yn astudio Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn cefnogi’r Academi drwy ddarparu gofal meddygol i dimau ac athletwyr.
Yn y cyfamser, bu Stephen Tonkiss, myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn darparu cymorth cryfder a chyflyru ar gyfer y rhaglen pêl-rwyd, tra bu’r myfyrwyr Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon, Owain Lewis a Rhys Morris, yn darparu dadansoddiad o berfformiad chwaraeon i helpu i wella gwaith paratoi a pherfformiad y tîm.
Canmolodd Lee Tregoning, Pennaeth Chwaraeon a Bywyd Egnïol yn PCYDDS, ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff cymorth sy’n fyfyrwyr.
“Rhaid tynnu sylw at bwysigrwydd cyfraniad y myfyrwyr hyn. Yn ogystal â chael profiad o fywyd go iawn eu hunain, maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i athletwyr fyfyrwyr yr Academi Chwaraeon. Mae’r profiad yn eu paratoi ar gyfer y diwydiant maen nhw’n awyddus i ddechrau gyrfa ynddo a’u helpu i raddio gyda phrofiad yn y diwydiant a bod yn barod am waith.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476