Academydd o'r Drindod Dewi Sant yn cyd-olygu cyhoeddiad rhyngwladol newydd blaenllaw ar drais rhywiol mewn meddygaeth a seiciatreg
Mae llyfr rhyngddisgyblaethol newydd sy’n archwilio sut mae meddygaeth, seiciatreg a systemau gofal iechyd ehangach wedi ymateb i drais rhywiol drwy gydol hanes wedi’i gyd-olygu gan ymchwilydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae Sexual Violence in Medicine and Psychiatry: Addressing Harms Through Interdisciplinarity wedi’i gyd-olygu gan Dr Rhian Elinor Keyse ochr yn ochr ag Dr Adeline Moussion Esteve o Birkbeck, Prifysgol Llundain, a Dr Emma Yapp o Brifysgol Bryste.
Wedi’i gyhoeddi gan Springer Nature fel rhan o’r gyfres Genders and Sexualities in History, mae’r casgliad yn dwyn ynghyd ysgolheictod rhyngwladol gan archwilio sut mae gwybodaeth, ymarferwyr a sefydliadau meddygol a seiciatrig wedi ymateb i drais rhywiol ar draws gwahanol gyd-destunau hanesyddol a chyfoes.
Mae’r llyfr yn archwilio sut mae systemau gofal iechyd a seiciatrig ar adegau wedi atgyfnerthu gwahaniaethu, ymylu a gwyliadwriaeth, gan siapio dealltwriaeth gyfreithiol a chymdeithasol o drais rhywiol ar yr un pryd. Gan ddefnyddio astudiaethau achos o wledydd yn gynnwys y DU, Awstralia, Kenya a’r Ariannin, dywedir mai’r cyhoeddiad hwn yw’r casgliad cydlynol cyntaf wedi’i olygu i uno ysgolheictod rhyngddisgyblaethol ar y pwnc hwn. Mae’r llyfr yn cynnwys pennod a ysgrifennwyd gan Dr Keyse, yn seiliedig ar waith archifol helaeth yn Kenya, lle mae’n rhoi mewn cyd-destun hanesyddol y rhwystrau i ofal y mae goroeswyr trais rhywiol o Kenya yn eu hwynebu, gan ddadlau y gellir olrhain y diffyg o ran adnoddau a chyllido gwasanaethau i resymeg hiliol drefedigaethol.
Dywedodd Dr Keyse, sy’n Ddarlithydd Astudiaethau Hanesyddol Byd-eang yn PCYDDS:
“Mae’r casgliad hwn yn dwyn ynghyd ysgolheigion o ystod o ddisgyblaethau i archwilio sut mae ymatebion meddygol a seiciatrig i drais rhywiol wedi datblygu dros amser, a sut mae’r hanesion hynny’n parhau i lunio profiadau a systemau heddiw.
Rydym yn gobeithio y bydd y llyfr yn annog sgyrsiau rhyngddisgyblaethol ystyrlon ymhlith academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr, gan hefyd gyfrannu at drafodaethau ehangach ynghylch cyfiawnder, gofal a chyfrifoldeb sefydliadol.”
Mae’r casgliad eisoes wedi denu canmoliaeth academaidd gref. Meddai Carine Mardorossian, Athro Saesneg ac Astudiaethau Rhyw a Rhywioldeb Byd-eang ym Mhrifysgol Buffalo, UDA:
“Mae’r traethodau a ymchwiliwyd yn ofalus iawn yn y gyfrol hon yn archwilio’r ffyrdd y mae gwybodaeth feddygol a seiciatrig wedi cael ei hystyried a’i herio gan ei chroestoriad â thrais rhywiol. Mae’r awduron yn datgelu’r ymatebion diwylliannol rhyweddol, ar sail hil ac ableddol i drais rhywiol wrth ymgorffori ystod drawiadol o arbenigedd diwylliannol a rhyngddisgyblaethol a fydd yn apelio at ysgolheigion o’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.”
Bwriad y casgliad yw cefnogi academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr sy’n gweithio ar draws gofal iechyd, seiciatreg, seicoleg a meysydd cysylltiedig, gan helpu i ddyfnhau dealltwriaeth o sut mae ymatebion i drais rhywiol wedi esblygu a lle mae angen newid pellach.
Mae rhagor o wybodaeth am y llyfr ar gael drwy Springer Nature Link.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076