Skip page header and navigation

Mae academydd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi chwarae rhan weithredol wrth lunio trafodaethau rhyngwladol drwy ei gwaith gyda Rhaglen Rheoli Trawsnewidiadau Cymdeithasol (MOST) UNESCO, gan helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng gwybodaeth, polisi a gweithredu.

Left to Right - Joni Adamson, Director of the BRIDGES Flagship Hub at ASU Julie Ann Wrigley Global Futures Lab, Carlos Álvarez Pereira, Secretary General of the Club of Rome. Luci Attala, Deputy Executive Director of BRIDGES and Director of the UK Hub Steven Hartman, Founding Executive Director of BRIDGES Peter Schlosser, University Vice President and Director General, Global Futures Laboratory.
Joni Adamson, Cyfarwyddwr Canolfan BRIDGES ym Mhrifysol Talaith Arizona Julie Ann Wrigley Global Futures Lab; Carlos Álvarez Pereira, Ysgrifennydd Cyffredinol Club of Rome; Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol BRIDGES a Chyfarwyddwr Canolfan y DU; Steven Hartman, Cyfarwyddwr Gweithredol a Sylfaenydd BRIDGES; Peter Schlosser, Is-lywydd Prifysgol Talaith Arizona a Chyfarwyddwr Cyffredinol Global Futures Laboratory.

Mae Luci Attala yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol BRIDGES ac yn Gyfarwyddwr ei Hwb yn y DU a Swyddfa Rhaglen Ryngwladol BRIDGES, sydd wedi’u lleoli yn Y Drindod Dewi Sant. Mae BRIDGES yn rhan o raglen ehangach MOST UNESCO ac yn gweithio i ddatblygu dulliau sy’n cryfhau cysylltiadau rhwng gwybodaeth, polisi a gweithredu mewn ymateb i heriau cymdeithasol cymhleth.

Cymerodd Luci ran yn Fforwm MOST UNESCO 2026 ym Mharis, a ddaeth â llunwyr polisi, ymchwilwyr ac ymarferwyr o bob cwr o’r byd ynghyd i archwilio dulliau o drawsnewid cymdeithasol.

Rhoddodd y Fforwm gyfle i gyflwyno tri offeryn BRIDGES – y Maniffesto, y Fframwaith Polisi a’r Pecyn Cymorth Polisi – i Aelod-wladwriaethau Cyngor Rhynglywodraethol MOST. Yn dilyn trafodaethau, cymeradwywyd y Maniffesto, y Fframwaith a’r Pecyn Cymorth yn unfrydol gan y Cyngor Rhynglywodraethol.

Mae Swyddfa Rhaglen Ryngwladol BRIDGES, sydd wedi’i lleoli yn y brifysgol, wedi chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu’r tri offeryn arweiniol mewn partneriaeth â Labordy Dyfodol Byd-eang Julie Ann Wrigley ym Mhrifysgol Talaith Arizona, Clwb Rhufain, ac aelodau o glymblaid a hybiau BRIDGES ledled y byd.

Mae’r Maniffesto, A Time of Great Consequence: A Manifesto for Bridging Knowledge and Action, yn galw am weithredu mewn ymateb i’r newidiadau cymdeithasol, amgylcheddol a thechnolegol sylweddol sy’n wynebu cymdeithasau.

Yn ogystal â’r Maniffesto a’r Fframwaith Polisi, bwriad y Pecyn Cymorth Polisi yw darparu arweiniad ymarferol i lunwyr polisi, gan eu helpu i ddatblygu dulliau mwy cynhwysol a chryfhau’r cysylltiad rhwng ymchwil, gwybodaeth a gwneud penderfyniadau.

Chwaraeodd Luci ran weithredol hefyd yn rhaglen tri diwrnod o ddigwyddiadau BRIDGES ym Mharis, a gafodd ei chynllunio a’i chyflwyno gan dîm Swyddfa Rhaglen Ryngwladol BRIDGES yn PCYDDS mewn cydweithrediad â UNESCO. Chwaraeodd Sophie Spooner a Catrin Bradley ran allweddol wrth gefnogi trefnu, dylunio a chyfathrebu’r rhaglen ddigwyddiadau, gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid BRIDGES a chydweithwyr o’r glymblaid ryngwladol. Fel rhan o’r rhaglen, arweiniodd Luci weithdy BRIDGES o dan y teitl ‘Creu’r Amodau ar gyfer Arweinwyr Ifanc: Nid Ydym yn Aros’, a hwyluswyd ar y cyd â Nolita Mvunelo o Glwb Rhufain (Club of Rome). Daeth y gweithdy â phobl ifanc, llunwyr polisi, ymchwilwyr ac ymarferwyr ynghyd i archwilio sut mae arweinyddiaeth ieuenctid eisoes yn digwydd mewn gwahanol gyd-destunau a pha amodau sydd eu hangen i’w galluogi i ffynnu.

Rhannodd y cyfranogwyr enghreifftiau o fentrau dan arweiniad pobl ifanc a gweithio gyda’i gilydd i nodi’r ffactorau a all gefnogi neu gyfyngu ar arweinyddiaeth ieuenctid. Bydd y mewnwelediadau hyn yn cyfrannu at ddatblygu Pecyn Cymorth Polisi BRIDGES, a fydd yn cael ei brofi a’i fireinio trwy ysgolion maes UNESCO ledled y byd.

Hwylusodd Luci weithdy arall hefyd ar ‘Wydnwch Cymunedol’ gyda Sefydliad Tamkeen ym Moroco. Creodd y gweithdy le i gyfranogwyr archwilio sut mae gwydnwch yn cael ei feithrin trwy berthnasoedd, arferion a rennir a gwybodaeth sydd wedi’i gwreiddio’n lleol, gan gynhyrchu mewnwelediadau pwysig i’r amodau sy’n galluogi cymunedau i ymateb i newid ac ansicrwydd.

Gyda’i gilydd, dangosodd y gweithdai’r dull sydd wrth wraidd BRIDGES: creu mannau lle gall gwahanol fathau o wybodaeth a phrofiad ddod ynghyd, gan alluogi cyfranogwyr i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chynhyrchu mewnwelediadau a all lywio polisi ac arfer.

Mae’r rhaglen hefyd yn tynnu sylw at gyrhaeddiad rhyngwladol BRIDGES a rôl Y Drindod Dewi Sant wrth greu a hwyluso deialog a chydweithrediad ystyrlon rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi, ymarferwyr, pobl ifanc a chymunedau i fynd i’r afael â heriau byd-eang cymhleth.

Dywedodd Luci Attala:

“Roedd bod yn UNESCO ym Mharis yn gyfle i ddod â gwahanol safbwyntiau ynghyd ac i feddwl sut y gallwn symud y tu hwnt i gynhyrchu gwybodaeth yn unig i ddod o hyd i ffyrdd o wneud y wybodaeth honno’n ddefnyddiol wrth lunio polisi ac arfer.

“Roedd y gweithdy ar arweinyddiaeth ieuenctid yn arbennig o werthfawr oherwydd ei fod yn dechrau o’r gydnabyddiaeth bod pobl ifanc eisoes yn arwain newid. Ein ffocws oedd deall beth sy’n galluogi’r arweinyddiaeth honno a sut y gallwn greu’r amodau iddi dyfu.

“Mae gwaith BRIDGES yn creu cyfleoedd i UWTSD fod yn rhan o sgyrsiau rhyngwladol pwysig ac, yn bwysig iawn, i helpu i’w llunio trwy ddeialog ac cydweithrediad ystyrlon.”

Mae BRIDGES yn rhaglen ryngwladol sy’n gweithio i gryfhau cysylltiadau rhwng gwybodaeth a gweithredu wrth ymateb i heriau cymdeithasol cymhleth. Mae ei Swyddfa Rhaglen Ryngwladol a’i Hyb yn y DU ill dau wedi’u lleoli yn UWTSD.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon