Skip page header and navigation

Mae Lee Pratt, Rheolwr Academi Sgiliau Gweithgynhyrchu Uwch (AMSA) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wedi cael ei gydnabod ym Mhalas Buckingham am ei gyfraniad eithriadol i ddatblygiad addysg a sgiliau yn y DU.

A man dressed in a smart suit standing next to a woman in a smart dress and a hat.

Wedi’i enwebu gan Adran Addysg y DU a WorldSkills UK, mynychodd Lee Barti Gardd Frenhinol y Brenin i gydnabod ei waith wrth gefnogi addysg dechnegol, cydweithredu â diwydiant, a chystadlaethau WorldSkills UK dros y pum mlynedd diwethaf.

Fel Llysgennad Sgiliau PCYDDS, mae Lee wedi chwarae rhan allweddol wrth gryfhau cysylltiadau rhwng addysg a diwydiant wrth hyrwyddo rhagoriaeth alwedigaethol ledled Cymru a’r DU.

Dywedodd Lee: “Roedd derbyn y gwahoddiad yn anrhydedd anhygoel ac yn rhywbeth rwy’n hynod falch ohono. Roedd cael fy nghydnabod gan yr Adran Addysg a WorldSkills UK am waith sydd mor bwysig i mi yn brofiad gostyngedig a boddhaus.

“Drwy ymgysylltu â WorldSkills UK rwyf wedi gweld yr effaith drawsnewidiol y gall cystadlaethau sgiliau ei chael ar ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg. Mae gwylio myfyrwyr a phrentisiaid yn tyfu mewn hyder, datblygu sgiliau sy’n barod am y diwydiant, a gwthio eu hunain i gyflawni ar y lefel uchaf yn hynod ysbrydoledig.

“Yn PCYDDS rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd sy’n cysylltu addysg â diwydiant, ac mae WorldSkills yn chwarae rhan hanfodol yn y genhadaeth honno. Rwy’n falch o weithio ochr yn ochr â chydweithwyr, cyflogwyr a dysgwyr sy’n helpu i lunio gweithlu’r dyfodol ac arddangos y dalent anhygoel sydd gennym yng Nghymru a ledled y DU.”

Wedi’u cynllunio mewn cydweithrediad â chyflogwyr, mae cystadlaethau WorldSkills yn adlewyrchu safonau a disgwyliadau’r diwydiant modern. Mae cystadleuwyr yn cael eu herio i berfformio o dan amodau byd go iawn wrth ddatblygu gwytnwch, creadigrwydd, hyder, a sgiliau datrys problemau ochr yn ochr ag arbenigedd technegol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Brifysgol wedi cael llwyddiant mawr yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK fel sefydliad cystadleuol sydd wedi ennill medalau, lleoliad swyddogol y digwyddiad ac yn fwyaf diweddar wedi ei phenodi’n Bartner Trefnu Cystadleuaeth swyddogol WorldSkills UK ar gyfer Peiriannu CNC a Gweithgynhyrchu Haen-ar-Haen.

Ymhlith myfyrwyr PCYDDS sydd wedi elwa’n sylweddol o gymryd rhan yn y rhaglen, mae’r Gradd-brentis Ddigidol Luke Redmore, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau lleoliad yng Ngwasanaeth Sifil y DU, sy’n dweud bod y profiad wedi rhoi hwb i’w hyder wrth fireinio ei sgiliau peirianneg meddalwedd. Dywed Rehan Joseph, sy’n astudio Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch, fod paratoi ar gyfer y gystadleuaeth Technegydd Seilwaith Rhwydweithiau wedi hogi ei uchelgeisiau gyrfa a’i hyder proffesiynol.

Mae’r Brifysgol hefyd wedi cryfhau partneriaethau â chyflogwyr drwy AMSA gan gefnogi’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol gan gynnwys Oscar McNaughton a Tamzin Brewer o’r Ganolfan Gweithgynhyrchu Sypiau Uwch a’r peiriannydd CNC dan hyfforddiant Lloyd Thomas, trwy ei chydweithrediad â Safran Seats GB.

Mae’r partneriaethau hyn wedi helpu i greu llwybrau hyfforddi sy’n canolbwyntio ar y diwydiant ac yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion cyflogwyr wrth gefnogi datblygiad gyrfa hirdymor dysgwyr.

Dywedodd Deon Cynorthwyol PCYDDS, Richard Morgan: “Llongyfarchiadau i Lee ar y gydnabyddiaeth haeddiannol hon ym Mhalas Buckingham. Mae ei ymroddiad i addysg dechnegol, datblygu sgiliau, a chryfhau partneriaethau rhwng diwydiant ac addysg wedi cael effaith sylweddol o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar draws y sector ehangach. Mae angerdd Lee dros gefnogi dysgwyr a hyrwyddo rhagoriaeth alwedigaethol trwy fentrau fel WorldSkills UK yn parhau i greu cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr, cyflogwyr a chymunedau. Rydym yn hynod falch o’i gyflawniadau a’r cyfraniad y mae’n parhau i’w wneud i hyrwyddo addysg sgiliau a gweithgynhyrchu yng Nghymru a ledled y DU.”

Pennawd y llun: Mae Lee Pratt i’w weld yn y llun gyda’i wraig Sara, y tu allan i Balas Buckingham.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon