Arbenigwyr diwydiant Nikon yn dod â thechnoleg gwneud ffilmiau proffesiynol i fyfyrwyr PCYDDS
Daeth myfyrwyr a staff at ei gilydd ar gyfer gweithdy ymarferol ysbrydoledig ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel rhan o bartneriaeth gynyddol y Brifysgol â Nikon.
Cafodd myfyrwyr BA Gwneud Ffilmiau Antur a BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol gyfle i brofi’r camerâu a’r lensys Nikon diweddaraf, gan archwilio’r dechnoleg flaengar a ddefnyddir ar draws diwydiannau ffotograffiaeth a gwneud ffilmiau proffesiynol. Cyfunodd y sesiwn brofiad ffilmio ymarferol â mewnwelediad gwerthfawr i arferion cyfredol y diwydiant, llifoedd gwaith a llwybrau gyrfa.
Gan ychwanegu egni a symudiad i’r diwrnod, ymunodd myfyrwyr blwyddyn olaf BA Addysg Antur Awyr Agored â’r gweithdy ar eu beiciau mynydd, gan ddarparu pynciau deinamig ar gyfer ffotograffiaeth portreadau a ffotograffiaeth symudiadau cyflym. Creodd y gwaith ar y cyd amgylchedd saethu bywiog, go iawn, gan ganiatáu i gyfranogwyr arbrofi gyda thracioffocws awtomatig, dulliau cyfresi cyflym (‘burst mode’), dewis lens, a thechnegau fframio sinematig mewn lleoliad awyr agored.
Dywedodd y myfyriwr Kim Skeels:
“Roedd cael y cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o Nikon yn ystod eu hymweliad â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn brofiad gwirioneddol werthfawr ac ysbrydoledig. Rhoddodd y cyfle i mi glywed yn uniongyrchol oddi wrth bobl broffesiynol sy’n gweithio o fewn y diwydiant. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Nikon, gan fy mod yn credu bod hwn yn gyfle gwych i ni fel myfyrwyr gymryd rhan mewn prosiect sy’n caniatáu inni gydweithio â chleient fel Nikon, gan roi profiad a mewnwelediad yn y byd go iawn i ni weithio gyda chleientiaid.
“Roedd y diwrnod ei hun yn wych, ac roedd cael y cyfle i roi cynnig ar rywfaint o offer Nikon yn anhygoel ac yn fewnweledol.
Croesawodd y digwyddiad hefyd fyfyrwyr o Goleg Sir Gâr, gan gryfhau partneriaethau creadigol rhanbarthol a chynnig profiad dysgu a rennir ar draws sefydliadau.
Cyflwynwyd y sesiwn gan arbenigwyr diwydiant Nikon, sef Bruno Muraru a Jac Fieldhouse, a rannodd arddangosiadau ymarferol a mewnwelediadau proffesiynol. Trefnwyd y digwyddiad gan Maja Zwolinska, Rheolwr Addysg Iau y DU, a Dr Brett Aggersberg y mae eiwaith parhaus yn parhau i adeiladu cyfleoedd ystyrlon rhwng y Brifysgol a brandiau technoleg creadigol blaenllaw.
Dywedodd Maia Zwolinska o Nikon:
“Roedd yn anhygoel dychwelyd i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am ail flwyddyn a threulio amser gyda grŵp arall o fyfyrwyr talentog a llawn cymhelliant. Mae cyflwyno ein pecyn di-ddrych Nikon diweddaraf a rhoi’r cyfle iddyn nhw ei archwilio trwy sesiynau ymarferol bob amser yn uchafbwynt, ac roedd gweld pa mor gyflym y dechreuon nhw feddwl am bosibiliadau creadigol newydd yn ysbrydoliaeth.
“Fel rhan o’n partneriaeth barhaus â’r brifysgol, rydym unwaith eto wedi cydweithio ar friff creadigol i fyfyrwyr ei gwblhau fel rhan o’u cwricwlwm. Rydym yn falch o’u cefnogi trwy rannu mewnwelediad i’r diwydiant a darparu mynediad i’r offer Nikon diweddaraf fel y gallant ddod â’u syniadau yn fyw. Mae cefnogi pobl greadigol sy’n dod i’r amlwg yn hynod bwysig i ni, ac mae mentrau fel hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol gydag offer proffesiynol wrth ddatblygu eu llais gweledol eu hunain. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld canlyniadau eu gwaith a pharhau i adeiladu ar y gwaith cydweithredol hwn yn y dyfodol.”
Dywedodd Dr Brett Aggersberg, Rheolwr Rhaglen y BA Gwneud Ffilmiau Antur:
“Mae’r gweithdy yma’n ffurfio rhan o waith ar y cyd parhaus rhwng y Brifysgol a Nikon a Red Digital Cinema, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael mynediad uniongyrchol at offer ac arbenigedd o safon y diwydiant. Trwy bontio astudiaeth academaidd ag arfer proffesiynol, mae’r bartneriaeth yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu’r hyder technegol, yr uchelgais greadigol, ac ymwybyddiaeth o’r diwydiant sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd mewn gwneud ffilmiau antur, cynhyrchu cyfryngau digidol, ac adrodd straeon awyr agored.
Tynnodd y diwrnod sylw at gryfder dysgu cydweithredol yng Nghaerfyrddin, lle mae creadigrwydd, technoleg ac antur yn dod at ei gilydd i baratoi’r genhedlaeth nesaf o storïwyr gweledol.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476