Skip page header and navigation

Mae ymchwilwyr ac arloeswyr yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cydweithio â VRGO Ltd a Phrifysgol Abertawe i ddatblygu Fyt 02, dyfais lesiant newydd a gynlluniwyd i fynd i’r afael ag effaith iechyd gynyddol ffyrdd o fyw eisteddog. 

A mono image with curved shape and a monogrammed tag.

Mae Fyt 02 a lansiwyd ar Kickstarter ar 2 Mehefin 2026, yn trawsnewid unrhyw gadair yn “hyfforddwr llesiant goddefol”, gan ddefnyddio synwyryddion pwysau sydd wedi cael patent a thechnoleg olrhain symudiadau er mwyn annog symudiad ac ystum iachach trwy gydol y diwrnod gwaith. 

Mae’r ddyfais a ddatblygwyd trwy gydweithrediad rhwng VRGO Ltd, PCYDDS a Phrifysgol Abertawe yn cyfuno gwyddoniaeth ymddygiadol, technoleg synhwyrydd a dyluniad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr er mwyn helpu i fynd i’r afael ag effeithiau iechyd corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig ag eistedd am gyfnodau hir. 

Dywedodd Dr Fatma Layas, Cymrawd Arloesi ATiC yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol PCYDDS:   “Mae cyfranogiad ATiC wedi sicrhau bod datblygiad Fyt wedi seilio ar broses ddylunio drylwyr sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr.  O’r camau cynharaf o ddeall anghenion y defnyddiwr hyd at werthuso’r galedwedd a’r feddalwedd, mae ein gwaith wedi helpu i lunio datrysiad sy’n reddfol ac yn effeithiol sy’n cyd-fynd yn agos ag ymddygiadau yn y gweithle go iawn.” 

Meddai Joe Ryan, Sylfaenydd a Phrif Weithredwr VRGO Ltd:  “Mae desgiau y gellir sefyll wrthynt a dyfeisiau y gellir eu gwisgo yn trin eistedd fel y gelyn.  Rydym yn credu y gall eistedd ei hun ddod yn weithgaredd iach.  Mae Fyt yn troi amser goddefol wrth eich desg yn llesiant egnïol, mesuradwy, heb drafferth. Mae eich cadair yn dod yn hyfforddwr!”

Mae Fyt 02 yn mesur ystum, symudiad a phwysau mewn amser real gan ddarparu awgrymiadau cyffyrddiadol ysgafn ochr yn ochr â “Sgôr Eistedd” wedi’i bersonoli trwy ei ap cysylltiedig.  Yn ogystal, mae’r system yn cynnwys ymarferion mewn cadair ac mae’n olrhain tueddiadau pwysau, yn ogystal â gosod preifatrwydd y dyluniad yn gyntaf. 

Lansiodd y ddyfais ar Kickstarter ar 2 Mehefin 2026.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon