Skip page header and navigation

Ymunwch â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru wrth i ni ddathlu fod Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru. 

Inside underground cave

Ar 12 Mawrth 2026, 1.30 y.h.–6.00 y.h, cynhelir sesiwn anffurfiol, creadigol a thraws-ddisgyblaethol yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar y thema Tirweddau Tanddaearol.

Ceir cymysgedd o ddarlleniadau a chyflwyniadau yn trafod sut y gall gwaith creadigol a hanes diwylliannol hybu prosiectau amgylcheddol, gwyddonol, treftadaeth a chymunedol ar dirweddau mawn a mwyngloddio a phridd. Ymhlith ein siaradwyr bydd beirdd, artistiaid ac haneswyr - Elinor Gwynn, Sean Harris, Ioan Lord a Hilary Davies, gyda chydweithwyr o’r Ganolfan Geltaidd.

Tan 4.30 y.h. ceir digwyddiau byw yn unig; am 5 y.h. bydd yr hanesydd celf Eleanor Stephenson yn rhoi darlith hybrid ar ‘Landscapes of Extraction: Philippe de Loutherbourg and the Morris Family’s Copper Works, Swansea’.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan, ‘Mae byw a gweithio mewn  Dinas Llên yn agor posibiliadau newydd cyffrous inni i gyd. Rydym yn falch bod y Ganolfan yn cael y cyfle hwn i gydweithio gydag awduron ac artistiaid i ddarganfod ymatebion unigryw i dirweddau Ceredigion - a thu hwnt.’ 

Meddai’r Athro Mary-Ann Constantine o’r Ganolfan, ‘Dewch i weld y byd wedi ei droi tu chwith allan! Mae persbectifau tanddaearol yn gorfodi inni ailystyried y tirweddau hardd o’n cwmpas: yn llythrennol, ac yn ddychmygol, rydym i gyd yn ddyledus i hanes dwfn y byd sy’n cuddio dan ein traed.’

Digwyddiad rhad ac am ddim gyda phaned. Cofrestrwch erbyn dydd Llun, 9 Mawrth  trwy e-bostio a.elias@cymru.ac.uk

Croeso cynnes i bawb!

Nodiadau i Olygyddion 

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk 

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. 

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk 

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/

4. Mae’r Ganolfan yn falch o fod yn rhan o Bartneriaeth Dinas Llên ar y cyd â Chyngor Tref Aberystwyth, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth. Am ragor o wybodaeth am y dynodiad Dinas Llên gweler: Aberystwyth Ceredigion Dinas Llên City of Literature

Aberystwyth Ceredigion City of Literature Logo

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon