Cefnogi Llythrennedd AI Cynhyrchiol yn Ymarferol: Myfyrdodau’r Tîm Dysgu Digidol a Sgiliau Gwybodaeth
Mae Olivia Edmonds yn Llyfrgellydd Sgiliau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi’i lleoli ar gampws Birmingham. Cyn ymuno â’r Brifysgol roedd hi’n athrawes Saesneg Uwchradd o dros 10 mlynedd ac yn Rheolwr Adnoddau Dysgu ar lefel y Chweched Dosbarth am 6 blynedd. Mae ei meysydd diddordeb yn cynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant; hygyrchedd digidol a’r defnydd o AI Cynhyrchiol i gefnogi myfyrwyr a staff mewn cyd-destun addysg uwch. Yn yr erthygl hon, mae Olivia yn esbonio dull y Drindod Dewi Sant o gefnogi myfyrwyr a staff i ddefnyddio AI Cynhyrchiol yn effeithiol.
Un o’r pethau a’m denodd at weithio yn PCYDDS yw ei hymrwymiad i ddileu rhwystrau i addysg uwch ac i gynorthwyo dysgwyr o ystod eang o gefndiroedd i gyflawni eu nodau academaidd a phroffesiynol. Ar ein campysau canol dinas yn Birmingham a Llundain yn enwedig, rydym yn gweithio gyda myfyrwyr y mae eu hamgylchiadau, eu profiadau a’u dyheadau yn eithriadol o amrywiol, ac mae ein darpariaeth addysgu a chymorth yn adlewyrchu hynny.
Mae llawer o’n myfyrwyr yn cydbwyso eu hastudiaethau ag ymrwymiadau gwaith a theulu, neu’n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant sylweddol. O ganlyniad, gall lefelau hyder digidol amrywio’n sylweddol. O fewn y tîm Dysgu Digidol a Sgiliau Gwybodaeth, rydym yn meddwl yn barhaus am y ffordd orau o gynorthwyo myfyrwyr ar wahanol gamau o’u taith ddysgu, yn enwedig o ran AI Cynhyrchiol (GenAI).
Fel rhan o’n rhaglen Sgiliau Gwybodaeth Ar-lein (Llythrennedd Gwybodaeth) sefydledig, mae’r tîm Llyfrgellwyr Sgiliau Gwybodaeth wedi creu dau diwtorial sy’n canolbwyntio ar y defnydd o AI Cynhyrchiol. Wedi’u datblygu ochr yn ochr â chanllawiau ar gyfer y sefydliad cyfan gan ein tîm Gwasanaethau Academaidd, mae’r adnoddau hyn yn darparu sylfaen i fyfyrwyr a staff. Yn hytrach na thrin llythrennedd AI fel set sgiliau ar wahân, rydym wedi ceisio ei ymgorffori o fewn y dirwedd llythrennedd gwybodaeth ehangach, gan annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am gynnwys a gynhyrchir gan AI yn yr un ffordd ag y byddent yn gwerthuso unrhyw ffynhonnell arall o wybodaeth.
Mae mynediad i Microsoft Copilot ar gyfer y sefydliad cyfan hefyd wedi rhoi man cychwyn gwerthfawr i ni wrth gyflwyno AI Cynhyrchiol i fyfyrwyr a staff. Fel platfform diogel a hygyrch, mae wedi profi’n ddefnyddiol i unigolion ag ystod eang o alluoedd digidol, ac fe’i argymhellir trwy gydol ein darpariaeth Sgiliau Gwybodaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb yn unol â chanllawiau’r Brifysgol.
Ynghyd â Microsoft Copilot, rydym hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i offer AI Cynhyrchiol sydd wedi’u cyfuno â rhai o’n systemau a’n platfformau presennol. Un enghraifft yw’r Primo Research Assistant, y tynnir sylw ato yn ystod ein sesiynau Sgiliau Gwybodaeth wyneb yn wyneb. Un o’r pethau rwy’n eu hoffi fwyaf am yr arddangosiadau hyn yw gweld ymatebion myfyrwyr. Mae llawer yn synnu pa mor hawdd eu deall a’u defnyddio y gall yr offer hyn fod. Yn aml daw’r sgwrs yn fwy diddorol fyth pan fyddwn yn trafod sut mae AI eisoes yn bresennol mewn llawer o’r platfformau cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio, a chymwysiadau symudol a ddefnyddir ganddynt bob dydd. Yn aml, mae yna foment o gydnabyddiaeth pan fydd myfyrwyr yn sylweddoli eu bod wedi bod yn rhyngweithio â thechnolegau AI am lawer hirach nag yr oeddent yn meddwl.
Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, mae’r tîm Dysgu Digidol a Sgiliau Gwybodaeth hefyd wedi gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i gyflwyno gweithdai AI Cynhyrchiol fel rhan o’n rhaglen Wythnos Sgiliau bob tymor yn Birmingham, sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd a pharatoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle. Mae’r adborth wedi bod yn hynod galonogol. Yn aml mae myfyrwyr yn sôn eu bod yn teimlo’n fwy hyderus ynglŷn ag ymgysylltu ag offer AI Cynhyrchiol, yn fwy parod i’w harchwilio’n annibynnol, ac yn fwy ymwybodol o sut y gallent eu cymhwyso yn eu meysydd pwnc eu hunain a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dim ond un rhan o’r darlun yw cynorthwyo myfyrwyr. Mae yr un mor bwysig sicrhau bod staff yn teimlo’n hyderus yn eu dealltwriaeth eu hunain o AI Cynhyrchiol fel y gallant gynorthwyo myfyrwyr yn effeithiol a mynd i’r afael â’r cyfleoedd a’r heriau y mae’r technolegau hyn yn eu cyflwyno.
Sylfaen y cymorth hwn yw’r canllawiau ar gyfer y sefydliad cyfan a ddatblygwyd ac a ddiweddarwyd yn rheolaidd gan ein tîm Gwasanaethau Academaidd. Un o’r prif ffyrdd y mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu yw trwy dudalen Cymuned Ddysgu bwrpasol ar ADRh y Brifysgol. Yn ogystal â dogfennau canllaw, mae’r dudalen yn cynnwys adnoddau ar gyfer staff addysgu, diweddariadau ar ddatblygiadau yn y sector, ac argymhellion ar offer AI Cynhyrchiol a allai fod yn briodol neu beidio ar gyfer defnydd addysgol. Yn bersonol, rwyf wedi gweld yr adnodd hwn yn amhrisiadwy. Mae cael lleoliad canolog sy’n hygyrch ym mhob man i’r holl staff yn ei gwneud hi’n llawer haws ymgyfarwyddo â gwybodaeth mewn maes sy’n esblygu mor gyflym.
Mae staff hefyd wedi cael cynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu proffesiynol, llawer ohonynt wedi’u darparu gan ein Swyddogion Sgiliau Digidol ymhlith eraill sydd â gwybodaeth arbenigol wahanol. Mae’r rhain wedi cynnwys gweithdai ymarferol yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer dysgu annibynnol trwy LinkedIn Learning a Microsoft Learn. Denodd un sesiwn benodol, o’r enw Co-Pilot ar gyfer Cynhyrchiant, y nifer mwyaf erioed o fynychwyr, sef dros 100 o staff y Brifysgol o bob campws, gan amlygu’r galw a’r diddordeb o ran AI Cynhyrchiol. Yn ystod y sesiynau hyn, mae staff hefyd wedi cael eu hannog i archwilio’r rhaglen Sgiliau Gwybodaeth Ar-lein, ar gyfer eu datblygiad eu hunain ac fel adnodd y gallant ei argymell i fyfyrwyr.
Mae effaith AI Cynhyrchiol ar ddysgu ac addysgu hefyd wedi dod yn destun trafod ar lefel uwch ledled y Brifysgol. Mae wedi bod yn galonogol gweld sut mae’r gwaith cychwynnol a wnaed gan y Tîm Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellwyr Sgiliau Gwybodaeth wedi datblygu’n ddull ehangach, mwy cydlynol. Mae hyn wedi cynnwys creu canllawiau ymarferol i staff, megis rhestrau gwirio sy’n amlinellu defnydd priodol o AI Cynhyrchiol mewn asesiadau, awgrymiadau ar gyfer ymgorffori AI Cynhyrchiol mewn deunyddiau addysgu, ac enghreifftiau o sut y gall cydweithwyr Gwasanaethau Proffesiynol ddefnyddio’r offer hyn i gefnogi eu hamcanion strategol eu hunain. Er mwyn ehangu’r wybodaeth hon ymhellach, bydd y Brifysgol yn lansio rhaglen datblygu staff ar-lein newydd cyn bo hir – Deall a Defnyddio AI Cynhyrchiol mewn Addysg Uwch – a grëwyd gan y Tîm Dysgu Digidol, gan ganiatáu i’r holl staff adfyfyrio ar eu sylfeini gwybodaeth eu hunain a rhoi cyfle iddynt ddatblygu ac ymestyn eu sgiliau yn y maes allweddol hwn.
Wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwaith hwn, rydym yn ymwybodol o’r heriau sydd o’n blaenau. O safbwynt myfyrwyr, un o’r ystyriaethau mwyaf yw’r ystod eang o sgiliau a phrofiadau digidol sydd gan ddysgwyr wrth iddynt ymuno â’r Brifysgol. Mae rhai myfyrwyr yn dod ar draws y technolegau hyn am y tro cyntaf, tra bod eraill eisoes yn arbrofi gydag ystod o offer AI Cynhyrchiol. Mae canfod ffyrdd o gefnogi dau begwn y sbectrwm hwnnw, yn ogystal â phawb yn y canol, yn parhau i fod yn her barhaus.
Ar lawer cyfrif, nid ydym yn gweld AI Cynhyrchiol fel mater sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Yn hytrach, rydym yn ei weld fel rhan o’r gwaith ehangach o helpu myfyrwyr i adeiladu’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn addysg uwch ac, yn y pen draw, yn y gweithle. Wrth i AI Cynhyrchiol gael ei integreiddio mwyfwy i fywyd bob dydd ac arfer proffesiynol, bydd cynorthwyo myfyrwyr i fynd i’r afael â’r offer hyn yn feirniadol ac yn gyfrifol yn dod yn bwysicach.
I staff, mae’r ffocws yn aml ar feithrin hyder a chreu cyfleoedd i ddysgu mewn amgylchedd cefnogol. Mae sgyrsiau â chydweithwyr wedi dangos diddordeb gwirioneddol mewn ymgyfarwyddo â datblygiadau yn nhirwedd AI Cynhyrchiol, ochr yn ochr â’r awydd i ddeall yn well sut y gellir defnyddio’r technolegau hyn yn effeithiol o fewn eu swyddi eu hunain. O ganlyniad, mae rhannu diweddariadau amserol, adnoddau defnyddiol, ac enghreifftiau o arfer da wedi dod yn rhan bwysig o’n gwaith.
Wrth edrych ymlaen, mae yna hefyd gwestiynau ehangach ar lefel sector i’w hystyried. Mae llawer o’r offer sydd ar gael ar hyn o bryd i staff a myfyrwyr naill ai’n rhad ac am ddim i’w defnyddio neu’n gweithredu o fewn lwfansau credyd cyfyngedig. Mae p’un a fydd y modelau hyn yn parhau i fod ar gael, neu’n symud fwyfwy y tu ôl i waliau talu tanysgrifiad, yn rhywbeth y bydd angen i sefydliadau feddwl yn ofalus amdano. Mae cwestiynau ynghylch cynaliadwyedd, mynediad a buddsoddiad sefydliadol hefyd yn debygol o ddod yn fwyfwy pwysig ar draws y sector Addysg Uwch wrth i AI Cynhyrchiol barhau i esblygu.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790