Chloe Foulis, un o raddedigion y Gyfraith a Throseddeg PCYDDS, yn dathlu Anrhydedd Dosbarth Cyntaf wrth iddi gymryd y cam nesaf tuag at yrfa yn y gyfraith
Mae un o raddedigion Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn parhau â’i thaith tuag at ddod yn gyfreithiwr ar ôl ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gyfraith gyda Throseddeg.
Graddiodd Chloe Foulis, 22, o Belfast, yr haf hwn o gampws SA1 Glannau Abertawe PCYDDS. A hithau wedi eisiau cymhwyso fel cyfreithiwr erioed, mae hi bellach yn parhau â’i hastudiaethau gyda gradd meistr yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol.
Yn ystod ei gradd, datblygodd Chloe ddiddordeb cryf mewn ymchwil gyfreithiol a theori droseddol, gan hefyd fagu hyder trwy gyflwyniadau, gwaith grŵp, a thrafodaethau gyda chyd-fyfyrwyr.
“Mae’r Brifysgol wedi bod yn eithriadol o foddhaus, yn academaidd ac yn bersonol. Mae wedi rhoi sylfaen academaidd gref i mi, ond mae hefyd wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau yr wyf yn gwybod y bydd eu hangen arnaf trwy gydol fy ngyrfa, yn enwedig trefnusrwydd, rheoli amser, a chyfathrebu,” meddai Chloe.
Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, enillodd Chloe brofiad ymarferol gwerthfawr trwy brofiad gwaith gyda Women’s Aid ac o fewn cwmni cyfreithwyr. Rhoddodd y profiadau hyn gipolwg iddi ar sut mae gwybodaeth gyfreithiol yn cael ei chymhwyso mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn ac atgyfnerthodd bwysigrwydd empathi, proffesiynoldeb a chyfathrebu effeithiol.
Roedd ei phrofiad gyda Women’s Aid yn arbennig o ystyrlon, gan roi gwell dealltwriaeth iddi o’r effaith gymdeithasol ehangach y gall gweithwyr proffesiynol cyfreithiol ei chael ar unigolion a chymunedau.
Cafodd cyflawniadau Chloe eu cydnabod hefyd gyda Gwobr Cwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a oedd yn gyflawniad personol sylweddol ac yn rhoi hyder pellach iddi wrth ddilyn gyrfa yn y gyfraith.
“Un o’r heriau mwyaf a wynebais trwy gydol fy nghyfnod yn y brifysgol oedd goresgyn hunan-amheuaeth a dysgu peidio â sgil-feirniadu fy hun,” meddai. “Gydag anogaeth a chefnogaeth fy narlithwyr, yn raddol fe ddes i’n fwy hyderus yn fy ngalluoedd fy hun. Mae ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf a derbyn y wobr wedi gwneud i mi sylweddoli faint roeddwn i wedi’i gyflawni.”
Mae Chloe yn dweud bod cefnogaeth ei darlithwyr yn rhan bwysig o’i phrofiad prifysgol a byddai’n argymell gradd y Gyfraith a Throseddeg i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa yn y gyfraith neu sydd â diddordeb mewn troseddeg.
“Mae’r cwrs yn darparu sylfaen academaidd ardderchog, ond yr hyn sy’n ei wneud yn arbennig o werthfawr yw’r gefnogaeth a’r anogaeth gan y darlithwyr. Maen nhw’n eich tywys ac yn eich helpu i gyrraedd eich potensial.”
Gyda’i gradd meistr bellach ar y gweill, mae Chloe yn canolbwyntio ar adeiladu ar y wybodaeth a’r profiad a gafodd yn PCYDDS wrth iddi weithio tuag at gymhwyso fel cyfreithiwr.
“Mae fy mhrofiad prifysgol, fy mhrofiad gwaith ymarferol a chyflawniadau academaidd wedi cryfhau fy mhenderfyniad i ddilyn gyrfa fel cyfreithiwr. Rwy’n gyffrous i barhau i ddatblygu fy ngwybodaeth, fy sgiliau a’m hyder wrth i mi gymryd y cam nesaf tuag at gyflawni’r uchelgais honno.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071