Skip page header and navigation

Mae tad i chwech o ferched a ddychwelodd i addysg yn ddiweddarach yn ei fywyd yn dathlu graddio heddiw ar ôl cwblhau ei  radd Iechyd  a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS Birmingham.

A dad standing proudly surrounded by his six daughters.

Bydd Kamran Khan, 45 oed, o Birmingham, yn graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gyflawni nod y meddyliai gynt oedd y tu hwnt i’w gyrraedd. Wedi’i ysbrydoli a’i annog gan ei ferched, penderfynodd Kamran gymryd y naid i addysg uwch gan gydbwyso bywyd teuluol, cyfrifoldebau maethu ac ymrwymiadau gwaith.

Yn hanu o gefndir dosbarth gweithiol, dywedodd Kamran ei fod wedi treulio blynyddoedd lawer yn cefnogi ei deulu ac yn gofalu am eraill. Ysbrydolodd ei brofiad fel gofalwr maeth ef i astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan ei ganiatáu i adeiladu ar ei wybodaeth ymarferol wrth ennill dealltwriaeth ddyfnach o’r polisïau, damcaniaethau ac arferion sy’n siapio’r sector.

“Y cymhelliant mwyaf i mi oedd fy merched,” meddai Kamran. “Fe wnaethon nhw fy annog i gredu ynof i fy hun a’m hatgoffa nad oes terfyn oedran ar ddysgu. Rhoddodd eu cefnogaeth hyder i mi wneud cais i’r brifysgol a dilyn rhywbeth roeddwn i wastad wedi eisiau ei wneud.”

Trwy gydol ei astudiaethau, fe wnaeth Kamran fwynhau dysgu am y polisïau a’r fframweithiau sy’n sail i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’r ystod o gymorth cymunedol sydd ar gael i unigolion a theuluoedd. Gan dynnu ar ei brofiad fel gofalwr maeth, roedd yn gallu cysylltu dysgu academaidd â sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan wneud y cwrs yn arbennig o ystyrlon.

Nid oedd cydbwyso gwaith prifysgol â bywyd fel gofalwr maeth, gyrrwr bws mini gyda’r gwasanaeth cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, a thad i chwech o blant heb heriau. Fodd bynnag, trwy gynllunio gofalus, penderfyniad a chefnogaeth barhaus ei deulu, cwblhaodd Kamran ei radd yn llwyddiannus.

“Mae’r cwrs wedi rhoi dealltwriaeth llawer ehangach i mi o iechyd a gofal cymdeithasol ac wedi cryfhau’r wybodaeth rwy’n ei defnyddio bob dydd fel gofalwr maeth,” meddai. “Yn bersonol, mae wedi rhoi ymdeimlad enfawr o gyflawniad a hyder i mi. Mae’n dangos, gyda gwaith caled a phenderfyniad, nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu.”

Mae Kamran yn gobeithio parhau i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn y dyfodol, gan ddefnyddio ei addysg academaidd a’i brofiad ymarferol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau pobl.

A proud dad dressed in cap and gown with two of his daughters.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon