Clinig tylino ac anafiadau am ddim yn agor ei ddrysau i'r gymuned leol yng Nghaerfyrddin
Mae aelodau o’r gymuned leol yn cael eu gwahodd i fanteisio ar sesiynau tylino chwaraeon a thriniaeth anafiadau am ddim ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wrth i glinigau a redir gan fyfyrwyr baratoi i ddychwelyd yn ystod y mis hwn.
Cynhelir y clinigau ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin, a chaiff y gwasanaethau eu darparu gan fyfyrwyr sy’n astudio Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Maent yn cynnig triniaethau o safon broffesiynol i’r cyhoedd, tra’n ennill profiad ymarferol hanfodol fel rhan o’u gradd.
Goruchwylir yr holl sesiynau gan diwtoriaid cymwys, gan sicrhau amgylchedd diogel, cefnogol a phroffesiynol i bob cleient.
Mae’r fenter ar agor nid yn unig i staff a myfyrwyr, ond hefyd i aelodau o’r cyhoedd. Mae wedi cael ei chanmol am wneud triniaeth effeithiol a hygyrch ar gael i bobl efallai na fyddent fel arall yn ceisio cymorth.
Mae’r clinigau’n cynnig sesiynau tylino meinweoedd meddal yn ogystal ag asesu anafiadau. Maent yn cefnogi pobl sy’n dioddef o bopeth, o boenau cyffredinol i anafiadau mwy penodol, ac yn helpu i wella lles cyffredinol.
Dywedodd Sam Holland, un o’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu’r sesiynau, fod y profiad wedi bod yn amhrisiadwy:
“Mae gweithio yn y clinig wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn. Mae wedi rhoi cyfle i mi weithio gyda chleientiaid go iawn o’r gymuned leol, magu hyder, a datblygu sgiliau ymarferol y byddaf yn eu defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae gweld y gwahaniaeth y gall y triniaethau ei wneud i bobl yn brofiad hynod werthfawr.”
Mae trigolion lleol sydd wedi mynychu’r sesiynau hefyd wedi canmol y gwasanaeth yn fawr. Dywedodd Richard Thomas:
“Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl i ddechrau, ond mae’r sesiynau wedi bod yn rhagorol. Mae’r myfyrwyr yn broffesiynol ac yn cymryd yr amser i ddeall yn iawn beth sy’n achosi anghysur. Rwyf wedi teimlo gwelliant amlwg, ac mae’n wych bod rhywbeth fel hyn ar gael yn lleol.”
Tynnodd Siân Bowen, Darlithydd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn PCYDDS, sylw at y budd deuol a ddaw yn sgil y fenter:
“Mae’r clinigau hyn yn hynod werthfawr i’n myfyrwyr, gan roi profiad byd go iawn iddynt mewn amgylchedd cefnogol. Ar yr un pryd, maent yn darparu gwasanaeth pwysig i’r gymuned leol, gan gynnig triniaeth o ansawdd uchel sy’n hygyrch i bawb – nid yn unig i’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon.”
Bydd y clinigau’n ailddechrau ym mis Hydref a byddant yn cael eu cynnal ar yr amseroedd canlynol:
- Sesiynau tylino meinwe meddal: dyddiad i’w gadarnhau
- Clinigau anafiadau chwaraeon: Dydd Llun 12-1yp / Dydd Iau 3-5yp
Mae pob sesiwn yn rhad ac am ddim.
Gellir archebu apwyntiadau drwy ap GloFox (ar gyfer aelodau campfa’r campws) neu drwy anfon e-bost at sian.bowen@uwtsd.ac.uk.
Gan fod disgwyl galw mawr, anogir unigolion i archebu’n gynnar.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076