Skip page header and navigation

Pan gyrhaeddodd Lily a Ruslan y DU o Wcráin dair blynedd yn ôl, roedd popeth yn teimlo’n newydd ac yn ansicr. Fel llawer o bobl sy’n ailadeiladu eu bywydau mewn gwlad wahanol, roedden nhw’n gwybod y byddai addysg yn allweddol i greu sefydlogrwydd a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Lily and Ruslan standing on a cliff with the sea in the background

A’r pâr bellach yn byw yng Nghymru, maen nhw wedi bod yn astudio cwrs CertHE Sgiliau Busnes  ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac ochr yn ochr â’u hastudiaethau, maen nhw’n rhedeg busnes creadigol sy’n tyfu ac sy’n cynhyrchu rygiau pwythog wedi’u gwneud â llaw. Mae eu taith yn un o wydnwch, creadigrwydd a phŵer addysg gefnogol.

“Fe wnaethon ni benderfynu y byddai parhau â’n haddysg yn gam pwysig i’n dyfodol,” maen nhw’n esbonio. “Ein nod hirdymor erioed fu dod yn entrepreneuriaid llwyddiannus ac adeiladu nifer o fusnesau. Mae Cymru wedi dod yn gartref i ni, ac rydyn ni’n gobeithio tyfu a datblygu ein prosiectau yma.”

Daeth eu penderfyniad i astudio yn PCYDDS yn dilyn argymhellion gan ffrindiau yn Wcráin a oedd eisoes yn gyfarwydd â’r brifysgol. O’r cychwyn cyntaf, teimlai Lily a Ruslan groeso a chymorth.

“Helpon nhw ni i ddeall y cyrsiau sydd ar gael a’n tywys ni trwy’r broses ymgeisio,” medden nhw. “Ar adeg pan oedd popeth yn anghyfarwydd, roedd staff y brifysgol yn hynod gefnogol a chroesawgar. Nid ydym wedi difaru ein penderfyniad am un diwrnod.”

Troi creadigrwydd yn fusnes

Wrth astudio Busnes, roedd Lily a Ruslan eisoes yn gosod y sylfeini ar gyfer eu menter eu hunain. Mae eu busnes yn canolbwyntio ar rygiau pwythog wedi’u gwneud â llaw, wedi’u creu gan ddefnyddio gwn pwytho arbenigol. Mae pob darn wedi’i wneud yn arbennig a’i gynllunio o amgylch stori neu syniad personol cleient.

Ruslan a feddyliodd am y cysyniad gwreiddiol. Roedd ganddo yntau brofiad blaenorol o bwytho yn Wcráin. Yn gyflym gwelodd Lily, sydd bob amser wedi bod yn berson creadigol, ei botensial.

“Rydw i wedi archwilio llawer o grefftau trwy gydol fy mywyd, gan gynnwys gwau, brodwaith a darlunio,” eglura Lily. “Pan ddysges i ragor am bwytho, sylweddoles i ei fod e’n cyfuno creadigrwydd â rhywbeth ymarferol ac ystyrlon.”

O’r cychwyn cyntaf, dyma nhw’n mynd  i’r afael â’r syniad yn broffesiynol yn hytrach na fel hobi. Am fod costau offer yn uchel, dechreuodd Lily ymchwilio i gyfleoedd ariannu a darganfod grant cychwynnol a gynigiai Busnes Cymru. Gyda’u cymorth nhw, dyma hi’n datblygu cynllun busnes ac yn cynnal ymchwil i’r farchnad i brofi’r galw am rygiau pwythog wedi’u gwneud â llaw.

“Dwedodd pobl wrthym ni ei fod e’n syniad anarferol a gwreiddiol iawn gyda photensial cryf,” medden nhw. “Derbyn y grant oedd yr eiliad y sylweddolon ni y gallai hyn droi’n beth real mewn gwirionedd.”

Yn fuan wedyn, agoron nhw siop fechan yn Llandeilo. Er bod costau rhent uchel wedi arwain yn ddiweddarach atyn nhw’n symud y busnes ar-lein, maen nhw’n parhau i greu eu rygiau yn lleol ac i dyfu’r brand o’u cartref. Heddiw, mae eu gwaith yn adnabyddus yn y gymuned leol ac yn cael ei gydnabod yn fwyfwy yn y brifysgol.

Welsh dragon rug standing upright against stone wall

Dysgu tyfu gyda hyder

Erbyn i Lily a Ruslan ddechrau eu hastudiaethau yn PCYDDS, roedd eu busnes eisoes wedi bod yn rhedeg ers tua blwyddyn. Rhoddodd astudio Busnes y strwythur a’r eglurder iddyn nhw nad oedd ganddyn nhw o’r blaen.

“Cyn y brifysgol, fe wnaethon ni reoli popeth yn seiliedig ar brofiad a greddf,” dyma nhw’n esbonio. “Ar ôl i ni ddechrau astudio, dechreuon ni ddeall ein busnes yn llawer gwell a gallwn ni weld yn glir beth oedd angen ei wella.”

Profodd llawer o’r modylau yn uniongyrchol berthnasol i’w gwaith o ddydd i ddydd. Dechreuon nhw ddefnyddio offer cynllunio a phennu nodau, gwella eu rheolaeth ariannol, cynnal ymchwil marchnad fwy effeithiol a dadansoddi ymddygiad cwsmeriaid.

“Mae’r cwrs wedi ein helpu ni i feddwl yn fwy strategol a gwneud penderfyniadau ar sail dadansoddi yn hytrach na dyfalu,” medden nhw. “Defnyddion ni beth ddysgon ni mewn darlithoedd yn uniongyrchol yn ein busnes. Rhoddodd hynny lawer mwy o gyfeiriad a hyder i ni.”

Mae eu cynnydd nhw wedi bod yn glir i’r rhai sy’n eu dysgu nhw. Canmolodd Ffion Cumberpatch, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd yn PCYDDS, eu hymrwymiad a’u twf drwy gydol eu hastudiaethau.

“Mae Lily a Ruslan yn enghraifft ardderchog o sut y gall penderfyniad, creadigrwydd a moeseg waith gref greu cynnydd go iawn,” meddai. “Maen nhw wedi dangos lefel uchel o broffesiynoldeb a gwytnwch, ac mae wedi bod yn bleser gweld pa mor hyderus maen nhw’n defnyddio eu dysgu academaidd yn eu busnes eu hunain. Dylen nhw fod yn falch iawn o ba mor bell maen nhw wedi dod.”

Roedd sgiliau cyfathrebu yn faes twf mawr arall. Daeth cyflwyno syniadau, ysgrifennu cynigion ac esbonio eu busnes yn glir yn haws gydag amser - sgil hanfodol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol ac wrth weithio gyda buddsoddwyr.

Cymorth y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Mae Lily a Ruslan yn awyddus i dynnu sylw at gryfder y cymorth sydd ar gael yn PCYDDS. Roedd hi bob amser yn hawdd mynd at ddarlithwyr ac roedden nhw bob tro yn barod i helpu, boed trwy ateb cwestiynau yn uniongyrchol neu eu tywys nhw at y person cywir.

Trwy’r cymorth hwn, cafodd Lily gyfle i siarad â Rheolwr Datblygu Menter y brifysgol. Er nad oedd eu busnes yn gymwys i gael un o grantiau dechrau busnes y brifysgol, am ei fod wedi’i sefydlu cyn eu hastudiaethau, bu hon yn sgwrs werthfawr dros ben.

Meddai Rebecca Jones, Rheolwr Datblygu Menter yn PCYDDS:

“Pleser pur oedd gweithio gyda Lily a Ruslan. Roedd eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a’u dull meddylgar o ddatblygu eu busnes yn amlwg o’n cyfarfyddiad cyntaf un. Yn PCYDDS, mae ein tîm menter yma i gefnogi myfyrwyr ar bob cam o’u taith entrepreneuraidd, pa un ai a ydyn nhw’n llunio syniad cynnar, yn tyfu menter sy’n bodoli eisoes neu’n archwilio beth a allai fod yn bosibl. Ein nod yw darparu arweiniad ymarferol, hyder a gofod cefnogol i fyfyrwyr droi eu huchelgeisiau yn gyfleoedd ystyrlon.”

“Sbardunodd hyn syniad newydd a chyffrous yn ein busnes,” maen nhw’n esbonio.

Mae’r syniad hwnnw wedi datblygu ers hynny i fod yn gynlluniau ar gyfer gweithdai pwythog, gyda’r nod o rannu eu proses greadigol ag eraill.

Goresgyn heriau a thyfu’n bersonol

Fel llawer o fyfyrwyr rhyngwladol a pherchnogion busnes, roedd Lily a Ruslan yn wynebu heriau wrth lywio systemau a rheoliadau anghyfarwydd yn y DU. Fodd bynnag, maen nhw’n glod i’r brifysgol a’r gymuned ehangach am eu helpu nhw i addasu.

“Rhoddodd y Brifysgol wybodaeth glir a strwythuredig i ni,” medden nhw. “Fe wnaethon ni ddysgu am strwythurau busnes, rheoli ariannol a sut mae busnesau’n gweithredu yn ymarferol. Roedd hyn yn gwneud i ni deimlo’n llawer mwy hyderus a pharod.”

Roedd astudio mewn iaith arall yn frawychus i ddechrau, ond dros amser tyfodd eu hyder yn sylweddol.

“Pan wnaethon ni ddechrau prifysgol am y tro cyntaf, roedd yn teimlo’n llethol iawn,” medden nhw wrth fyfyrio. “Nawr rydyn ni’n teimlo’n llawn cymhelliant, wedi ein hysbrydoli ac yn falch. Mae cwblhau’r flwyddyn academaidd yn gamp bwysig i ni.”

Edrych ymlaen

Wrth edrych yn ôl, yr hyn sy’n sefyll allan fwyaf yw’r awyrgylch yn PCYDDS.

“Doedd hi byth yn teimlo’n bell nac yn rhy ffurfiol,” medden nhw. “Roedd hi’n teimlo fel cymuned fach lle cawsom ni bobl i wrando arnom ni a’n cefnogi ni, yn academaidd ac yn bersonol.”

I Lily a Ruslan, erbyn hyn mae PCYDDS yn llawer mwy na man astudio.

“Mae’n golygu twf, hyder a throbwynt yn ein taith. Fe wnaeth ein helpu ni i gredu ynddyn nhw ein hunain, ein syniadau a’n dyfodol fel perchnogion busnes yng Nghymru.”

Eu bwriadu nhw yw parhau â’u hastudiaethau ar Lefel 5 a Lefel 6 ac ar hyn o bryd maen nhw’n archwilio cyfleoedd ariannu i lansio eu gweithdai pwytho. Os byddan nhw’n llwyddiannus, maen nhw’n gobeithio cynnal eu gweithdy cyntaf yn y brifysgol ar gyfer myfyrwyr a staff.

“Cyngor syml sydd gennym ni,” medden nhw. “Ewch amdani. Peidiwch ag ofni dechrau, gofynnwch am help ac achubwch ar gyfleoedd wrth iddyn nhw ymddangos. Does dim angen eich bod chi’n gwybod popeth o’r dechrau. Mae dysgu ar hyd y ffordd yn rhan o’r broses.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon