Skip page header and navigation

Croesawodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) fyfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled Cymru a Lloegr i’w champws yng Nghaerfyrddin ar gyfer Cwrs Preswyl Haf 2026, ac a gynhelir rhwng 30 Mehefin a 3 Gorffennaf.

A large group of students celebrating a graduation ceremony by throwing their caps high into the air.

Rhoddodd y rhaglen pedwar diwrnod gipolwg i ddarpar fyfyrwyr ar fywyd prifysgol trwy ystod o weithgareddau academaidd, cymdeithasol a datblygiad personol. Cymerodd myfyrwyr ran mewn heriau adeiladu tîm, mynd i un o 11 sesiwn academaidd benodol i bwnc ar draws campysau’r Brifysgol yn Abertawe a Chaerfyrddin, dysgu am broses ymgeisio’r brifysgol, a recordio podlediadau yn adfyfyrio ar eu profiadau. Daeth y preswyl i ben gyda seremoni raddio a dathliad.

Mae’r Cwrs Preswyl Haf yn rhan o ymrwymiad PCYDDS i ehangu mynediad i addysg uwch, gan helpu myfyrwyr i archwilio eu dewisiadau yn y dyfodol wrth adeiladu hyder, annibyniaeth a chyfeillgarwch parhaol.

Meddai Donna Williams, Uwch Swyddog Ehangu Mynediad yn PCYDDS:

“Roedd y Cwrs Preswyl Haf yn llwyddiant gwych, ac roedd hi’n wych croesawu grŵp o fyfyrwyr mor frwd ac eiddgar. Roedd hi’n arbennig o galonogol gweld cymaint o fyfyrwyr cenhedlaeth gyntaf yn cymryd rhan, llawer ohonyn nhw wedi gadael yr wythnos yn teimlo eu bod nhw wedi’u hysbrydoli i ddilyn addysg uwch. Diolch o galon i’n cydweithwyr academaidd am ddarparu sesiynau diddorol ac i staff ehangach y Brifysgol y gwnaeth eu gwaith caled helpu i wneud y profiad mor gofiadwy.”

Ychwanegodd Anna Stephens, Swyddog Recriwtio Myfyrwyr: “Ar ôl blwyddyn o gynllunio, roedd hi’n wych gweld y Cwrs Preswyl Haf yn dod yn fyw. Roedd yr wythnos yn crisialu beth yw prifysgol – dod â myfyrwyr at ei gilydd, meithrin cyfeillgarwch a hyder, a rhoi blas go iawn iddyn nhw ar fywyd prifysgol. Roedd pob myfyriwr yn glod iddyn nhw eu hunain, ac roedden ni’n falch dros ben o sut roedden nhw’n cynrychioli eu hysgolion a’u cymunedau.”

Meddai’r myfyriwr a fynychodd Dyfan Wheeler: “Roedd y Cwrs Preswyl Haf yn brofiad anhygoel. Aeth y staff y tu hwnt i’r galw i wneud i bawb deimlo croeso, ac roedd bob amser rhywbeth cyffrous i’w wneud. Roedd cyfle gwych i wneud ffrindiau newydd, dysgu rhagor am fywyd prifysgol a siarad â darlithwyr angerddol. Cyrhaeddais i yn teimlo’n ansicr ond yn optimistaidd, a gadawais i gan wybod bod PCYDDS yn lle ardderchog i astudio ynddo.”

Meddai Lucy O’Flynn: “Gwnaeth y Cwrs Preswyl Haf i mi sylweddoli mai’r brifysgol yw’r llwybr rydw i eisiau ei gymryd. Roeddwn i wrth fy modd ag ymdeimlad cymunedol cryf PCYDDS a’r dosbarthiadau llai, a oedd yn apelio ata i’n fawr. Mae’n bendant yn brifysgol y byddaf yn ei hystyried y flwyddyn nesaf. Diolch i’r holl staff am brofiad mor anhygoel – byddwn i’n gwneud y cyfan eto.”

Ychwanegodd Libby Stirling: “Mae’r Cwrs Preswyl Haf wedi fy helpu i ddeall sut mae bywyd prifysgol mewn gwirionedd a chadarnhaodd mai addysg uwch yw’r llwybr cywir i mi. Fe wnes i hefyd ffrindiau ac atgofion gydol oes y byddaf bob amser yn ddiolchgar amdanyn nhw.”

Gwnaeth y rhaglen argraff barhaol ar rieni a gwarcheidwaid hefyd, a dywedodd llawer ohonyn nhw eu bod nhw wedi sylwi ar hwb sylweddol yn hyder, brwdfrydedd a dyheadau eu plant ar ôl dychwelyd adref.

Yn ôl Tracey Swann, yr aeth ei merch Lily i’r cwrs preswyl: “Am gyfle anhygoel. Roedd y staff yn wych, roedd y sesiynau’n ddifyr a daeth Lily adref yn llawer mwy hyderus. Mae hi hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau hyfryd ac mae hyd yn oed yn fwy cyffrous am y brifysgol.”

Ychwanegodd Karen Brown, y cymerodd ei merch Amelie hefyd ran: “Cwrs preswyl gwych. Fe wnaeth fy merch ei fwynhau’n fawr, ac roedd yn amlwg faint o amser, gofal ac ymdrech a fuddsoddodd staff y Brifysgol i’w wneud yn brofiad mor gadarnhaol.”

Cyflwynir Cwrs Preswyl Haf PCYDDS yn rhan o Gynllun Ffioedd a Mynediad y Brifysgol, gan gefnogi ei hymrwymiad i ehangu mynediad i addysg uwch. Trwy fentrau fel hyn, mae PCYDDS yn helpu dysgwyr o gefndiroedd sydd wedi’u tangynrychioli i wireddu eu potensial a gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch symud ymlaen i addysg uwch.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon