Cyfle i astudio a chymdeithasu yn y Gymraeg yn denu myfyrwraig i’r Drindod Dewi Sant
I Naomi Davies roedd y cyfle i astudio a chymdeithasu drwy gyfrwng yn Gymraeg yn bwysig iawn wrth ddewis cwrs prifysgol.
Mae Naomi newydd raddio o’r cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC o gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae’n canmol Cymreictod a natur cyfeillgar y campws.
Dywed: “Cyn mynd i’r brifysgol, roeddwn yn poeni braidd am wneud ffrindiau. Fodd bynnag, oherwydd natur agos a chynnes campws Caerfyrddin, daeth yn amlwg yn fuan nad oedd hyn yn mynd i fod yn broblem. Roedd byw gyda myfyrwyr eraill sy’n siarad Cymraeg yn cynnig cyfleoedd naturiol i gymdeithasu, a helpodd hyn fi i wneud ffrindiau yn syth.
“Yn ogystal, cefais gyfle i gymdeithasu â myfyrwyr o wahanol flynyddoedd a chyrsiau drwy weithgareddau a digwyddiadau a drefnwyd gan Gymdeithas Gymraeg y Brifysgol.”
“Ni fyddai’r profiad wedi bod yr un fath heb gefnogaeth y porthorion cyfeillgar, y glanhawyr caredig, a darlithwyr ymroddgar y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC, a oedd yn chwarae rhan allweddol wrth greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol”.
Yn enedigol o Aberystwyth, derbyniodd Naomi ei haddysg gynnar i gyd drwy’r Gymraeg yn Ysgol Gynradd Llanfarian ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a’i gwnaeth yn benderfynol o astudio gradd trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
“Yn ystod diwrnod agored PCYDDS, cefais gyfle i dderbyn esboniad manwl o’r cwrs a gofyn cwestiynau i’r staff yn Gymraeg” dywedodd. “Cefais yr argraff yn syth bod y brifysgol yn cymryd addysg Gymraeg o ddifri ac yn gwerthfawrogi myfyrwyr sy’n dymuno astudio trwy’r iaith”.
Ochr yn ochr a’i hastudiaethau, bu Naomi yn aelod gweithgar iawn o’r gymuned o fyfyrwyr. Meddai: “Tu hwnt i fy astudiaethau, mwynheais y cyfleoedd cymdeithasol niferus a oedd ar gael ar gampws Caerfyrddin. Roedd tripiau cyson am baned neu siopa gyda ffrindiau (yn enwedig i TK Maxx!), yn ogystal â theithiau i draeth Llansteffan ac i Barc Siopa Trostre, yn rhan naturiol o fy wythnos. Hefyd, mwynheais nosweithiau allan ar nos Fercher yn Abertawe a nos Sadwrn yng Nghaerfyrddin, yn aml yng nghwmni Cymdeithas Gymraeg PCYDDS, gyda’u nosweithiau thema hwyliog a chreadigol.
“Cymerais ran mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau a drefnwyd gan y Gymdeithas Gymraeg, gan gynnwys trip i Ddulyn ar gyfer gêm rygbi chwe gwlad Cymru yn erbyn Iwerddon, y Ddawns Rhyng-golegol, a’r Trip Dirgel i’r Bryn a’r Bragdy yn Llangrannog. Hefyd mwynheais fynd i Ginio’r Gangen y Drindod Dewi Sant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Erbyn y drydedd flwyddyn, cefais y fraint o wasanaethu fel Trysorydd y Gymdeithas Gymraeg a mwynheais bob eiliad o’r profiad!”
Wrth i Naomi edrych ymlaen at gychwyn ei gyrfa fel athrawes mae’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gafodd drwy’r cwrs.
Meddai: “Yn ystod fy astudiaethau, argymhellodd y brifysgol ein bod yn dechrau gweithio gyda asiantaethau cyflenwi fel cynorthwywyr dosbarth. Trwy wneud hyn, enillais brofiad gwerthfawr o weithio gyda dysgwyr o ystod eang o oedrannau, gan ddarparu cefnogaeth effeithiol i anghenion amrywiol. Roedd y profiad yn gyfle i arsylwi strategaethau ac ymarferion addysgeg amrywiol, a bu hyn yn allweddol wrth lywio ac atgyfnerthu fy ymarfer proffesiynol fy hun.
“Er mwyn meithrin sgiliau fyddai’n fuddiol wrth ymgeisio am swyddi yn y dyfodol, penderfynais ddechrau gweithio fel athrawes gyflenwi. Gan fod yr asiantaeth eisoes yn fy adnabod o’m gwaith fel cynorthwyydd, roedd y trawsnewidiad i weithio fel athrawes-myfyriwr cyn yr haf yn un llyfn ac naturiol”.
Mae Naomi bellach wedi dechrau gweithio fel athrawes gyflenwi wrth gychwyn ar ei blwyddyn sefydlu. Mae’n hyderus bod y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC wedi’i pharatoi’n drylwyr ar gyfer y cam nesaf oherwydd bod y Brifysgol wedi trefnu sesiynau penodol am y flwyddyn sefydlu gyda’r unigolion fyddai yn ei chefnogi fel athrawes newydd gymhwyso (ANG), gan ddarparu dealltwriaeth glir iddi o’r disgwyliadau a’r prosesau.
Yn ogystal, tra’n fyfyrwraig mynychodd gynhadledd flynyddol, Anelu at Ragoriaeth, y Brifysgol a rhoddodd gyfle i fyfyrwyr glywed gan arbenigwyr a rhyngweithio ag eraill o fewn y maes addysg, rhannu syniadau ac archwilio dulliau ymarferol y gellid eu defnyddio ar lawr yr ystafell ddosbarth.
Meddai: “Yn ystod y cwrs, cefais nifer o gyfleoedd i arsylwi ac arbrofi gyda syniadau, strategaethau a thechnegau y gellid eu defnyddio ar lawr y dosbarth. Gyda darlithwyr yn arbenigwyr ar draws meysydd dysgu a phrofiadau amrywiol, cawsom gyfle i gael blas eang ar wahanol agweddau o addysgeg ac ymarfer proffesiynol.
“Mwynheais yn arbennig y tasgau creadigol a roddwyd i ni, tasgau a fyddai’n cael eu defnyddio gyda dysgwyr cynradd gan brofi sut y gall gweithgaredd syml fod yn hynod o effeithiol. Wrth gwblhau’r Statws Athro Cymwysedig ar ddiwedd y cwrs, cefais gymorth gwerthfawr i nodi targedau realistig a chyflawnadwy ar gyfer fy mlwyddyn ANG gyda’r asiantaeth gyflenwi.”
“Wrth gwblhau fy lleoliadau addysgu proffesiynol, roedd y gefnogaeth a ddarparwyd o flaen llaw, yn ystod y lleoliad ac ar ei derfyn o gymorth mawr. Roedd yr ebyst wythnosol gan fy nhiwtor personol yn sicrhau nad oeddwn ar fy mhen fy hun; roedd cymorth, cyngor ac arweiniad bob amser ar gael pan oedd ei angen”.
Cafodd Naomi gymorth hefyd gan adran Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol sy’n cynnig ystod eang o gefnogaeth i fyfyrwyr. Meddai “Wrth i ddiwedd fy astudiaethau agosáu, penderfynais ofyn am gymorth gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd ynglŷn ag ysgrifennu fy natganiad personol. Cefais gyngor wedi’i deilwra’n benodol i’m llwybr fel athrawes, gan dderbyn arweiniad clir ynghylch yr hyn y dylid ei gynnwys i adlewyrchu fy sgiliau a’m profiadau’n effeithiol. Yn ogystal, pwysleisiodd y gwasanaeth bwysigrwydd adolygu disgrifiad swydd yn ofalus ac adnabod unrhyw fanylion allweddol y mae ysgolion yn edrych amdanynt, er mwyn sicrhau bod fy nghais yn un cryf ac addas i’r rôl”.
Mae Naomi yn argymell Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i unrhyw un sy’n ystyried astudio cwrs prifysgol, yn enwedig o fewn y maes addysg. Meddai: “Gyda nifer sylweddol o athrawon medrus yn y sector sydd wedi hyfforddi drwy’r brifysgol, ynghyd â’r amrywiaeth o wobrau y mae’r brifysgol a’r cyrsiau addysg wedi’u hennill, mae’n fraint gallu dweud fy mod wedi bod mor ffodus i hyfforddi gyda PCYDDS sy’n arwain y ffordd wrth baratoi athrawon o safon uchel sy’n barod i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau dysgwyr y dyfodol”.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790